Canlyniadau 81–100 o 400 ar gyfer speaker:Peter Fox

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Niwed Ar-lein (23 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae adroddiad gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid wedi tynnu sylw at ystadegau sy'n peri pryder: dros y 12 mis diwethaf yn unig, mae tua 54 y cant o blant a phobl ifanc Cymru wedi profi neu wedi gweld rhyw fath o drais ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn wedi cael effaith ddwys ar iechyd meddwl a llesiant y bobl ifanc hyn yn ogystal â'u haddysg a'u...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Niwed Ar-lein (23 Tach 2022)

Peter Fox: 6. Sut fydd cwricwlwm newydd Cymru yn helpu pobl ifanc i adnabod niwed ar-lein ac amddiffyn eu hunain rhagddo? OQ58755

9. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (22 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol, Gweinidog, bod rhai awdurdodau lleol—er enghraifft, sir Fynwy—wedi sefydlu cynllun gwarantwr ar gyfer teuluoedd Wcreinaidd sy'n adlewyrchu'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael i breswylwyr i atal neu leihau digartrefedd. Bwriad hyn yw eu helpu i sicrhau tai, sydd, wrth gwrs, yn sylfaen bwysig i alluogi teuluoedd i...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol (22 Tach 2022)

Peter Fox: Iawn. Felly, byddai gen i ddiddordeb, Gweinidog, os gallech chi amlinellu beth yn union yw cynllun Llafur. Sut byddai Llywodraeth Lafur yn ymdrin ag effeithiau erydol chwyddiant, sy'n gwneud yr argyfwng costau byw yn waeth, ac yn dod â'r ddyled genedlaethol i lawr? Mae pethau i'w croesawu gan y Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, yn natganiad yr hydref, a fydd yn help mawr i bobl yn y cyfnod anodd...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol (22 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n cydnabod bod pethau wedi bod yn anodd, fel y gwnes i gyfeirio ato yma rwy'n credu y tro diwethaf i ni siarad ar y materion hyn. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y Canghellor wedi cymryd camau pendant sydd i'w croesawu i osod y wlad ar lwybr mwy sefydlog o fewn ond ychydig wythnosau. Mae'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu yn deillio o gyfuniad o siociau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU (22 Tach 2022)

Peter Fox: Wrth gwrs, byddwn yn trafod datganiad yr hydref ychydig yn ddiweddarach, ac fe fydd cyfraniad gennyf yno, gobeithio. Ond mae'n cynnwys rhywfaint o gefnogaeth i gymunedau, sydd i'w chroesawu'n fawr yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol, trwy bolisïau fel y cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol a'r isafswm cyflog, a chynnydd i bensiynau a budd-daliadau. Does dim syndod nad ydym...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Toiledau Changing Places (16 Tach 2022)

Peter Fox: A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ogledd Cymru, am gynnig y ddadl hon ac am ei holl waith caled yn hyrwyddo hawliau pobl anabl? Mae’n amlwg fod angen inni wneud mwy i greu cymdeithas gwbl gynhwysol. Mae gormod lawer o rwystrau’n bodoli sy’n atal pobl anabl rhag gallu cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau bob dydd. Fel y clywsom, dim ond 50 o doiledau Changing Places sydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros Ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru (16 Tach 2022)

Peter Fox: Lywydd, hoffwn ddefnyddio fy nghwestiwn i godi mater trosglwyddo cleifion ambiwlans yn yr ysbyty, sy'n cyfrannu at amseroedd aros hirach. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Faenor, a dynnodd sylw at lawer o ddiffygion. Ac nid wyf yn feirniadol o'r staff o gwbl; rwy'n feirniadol o'r...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Sector Manwerthu (16 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sector manwerthu Cymru. Rydym yn gwybod bod dros 110,000 o bobl yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y diwydiant. Yn ddiweddar, cyfarfûm â phrif weithredwyr busnesau mawr yn y sector manwerthu, a mynegodd pob un ohonynt eu pryderon difrifol am y ffaith bod manylion hanfodol ar goll o weledigaeth strategol gyffredin...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Sector Manwerthu (16 Tach 2022)

Peter Fox: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu? OQ58701

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ansawdd Dŵr (15 Tach 2022)

Peter Fox: Rwy'n sicr yn croesawu eich datganiad, Gweinidog, heddiw. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad da, a diolch i chi am eich ymgysylltiad â mi, oherwydd, yn amlwg, mae afonydd yn rhan bwysig, ac mae rhai o'r materion hyn yn taro tant yn fy nghymuned mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn arbrofi gyda chynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cyn eu cyflwyno ar sail statudol y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Datganiad yr Hydref ar y Gyllideb (15 Tach 2022)

Peter Fox: Rwyf innau hefyd yn eich croesawu chi, Prif Weinidog, yn ôl i'r Siambr yn dilyn eich salwch; mae'n dda eich gweld chi. Dydw i ddim yn amau bod gan y Canghellor rai dewisiadau anodd y bydd rhaid eu gwneud cyn datganiad yr hydref, felly rwy'n mynd i geisio bod yn adeiladol. Bydd hyn yn cael effaith ar Lywodraeth Cymru, ac rwy'n cydymdeimlo rywfaint â hi. Fel cyn-arweinydd cyngor ers 13...

8. Dadl Plaid Cymru: Effaith fyd-eang defnydd domestig ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon. Yn sicr, mae'n gynnig diddorol iawn ac yn un pwysig iawn yn wir, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod mater sydd efallai'n cael ei anwybyddu pan fyddwn yn trafod newid hinsawdd, sef y modd y mae ein defnydd ni yma yng Nghymru yn effeithio ar bobl a chymunedau ym mhob cwr o'r byd yn ogystal â llesteirio ymdrechion i wrthsefyll newid hinsawdd. Cafodd...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22' ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw. Roedd yn bleser bod yn aelod o’r pwyllgor yn dilyn fy etholiad fis Mai diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y ffordd y cefais fy nghroesawu gan y Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor i’r swydd honno fel bachgen newydd. Cymeradwyaf hefyd y cymorth swyddogol rhagorol i’r pwyllgor—set ragorol o swyddogion, a diolch iddynt hwy. Ddirprwy...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Yr Argyfwng Costau Byw ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch am yr ateb hwnnw, Lywydd. Mae'n ddefnyddiol iawn. Fel y gwyddom, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar nifer o bobl a theuluoedd ledled Cymru, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd. Er bod y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, mae pobl sydd ar y cyfan yn cael eu gweld fel rhai sy'n llwyddo i ddal eu pennau uwchben y dŵr mewn amgylchiadau mwy...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dynion sy'n Profi Cam-drin Domestig ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan gydnabod, wrth gwrs, fod trais yn erbyn menywod a merched yn arbennig yn llawer rhy gyffredin mewn cymdeithas, ac mae'n rhaid i ni fel dynion herio camdriniaeth a thrais o bob math, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd; roeddwn innau hefyd yn llysgennad Rhuban Gwyn ar gyfer fy sefydliad blaenorol, ac rwy'n hapus i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Dynion sy'n Profi Cam-drin Domestig ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r gefnogaeth i ddynion sy'n profi cam-drin domestig? OQ58650

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Yr Argyfwng Costau Byw ( 9 Tach 2022)

Peter Fox: 4. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gefnogi aelodau staff yn ystod yr argyfwng costau byw presennol? OQ58645

8. Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog ( 8 Tach 2022)

Peter Fox: Mae arnom ni ddyled anfesuradwy i'r aberth a wnaed gan ein lluoedd arfog a ddiogelodd ein dyfodol ac sy'n parhau i wneud hynny. Yn gwbl briodol, fel y dywedwyd heddiw, rydym yn myfyrio ar y milwyr hynny a'u teuluoedd sy'n brwydro i warchod hawliau pobl Wcráin, ac mae ein meddyliau gyda nhw yn Ewrop hefyd. Yn y dyddiau cyn Dydd y Cofio cawn y cyfle hwnnw i fyfyrio ar y cyfraniadau enfawr a...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.