James Evans: 2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gofal brys acíwt mewn ysbytai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ58529
James Evans: Mae cael y digwyddiad rheolaidd hwnnw'n dod yn ôl ac ymlaen i Gymru yn wych. Hoffwn weld mwy o ddigwyddiadau dartiau mawr yng Nghymru, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny. Ond mae'n debyg mai golff yw fy nghariad mwyaf mewn bywyd, byddwn yn meddwl—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am ddweud hynny wrth fy nghariad. [Chwerthin.] Rwy’n treulio llawer o fy amser ar...
James Evans: Mae hynny'n wir iawn, Huw. Rwy'n gwybod bod 13.2 y cant o bobl yn fy etholaeth i'n cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae llawer o'r dwristiaeth honno yn y Gelli Gandryll, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt a rhannau eraill o fy etholaeth yn dibynnu ar dwristiaeth reolaidd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i hyrwyddo twf economaidd, felly rwy'n derbyn y pwynt hwnnw. Ond mae gennym wyliau cerddorol...
James Evans: Mae fy nghyd-Aelodau wedi tynnu sylw at rai o'r diffygion. Rwy'n mynd i siarad am rai o'r pethau cadarnhaol, rwy'n meddwl, ar draws Cymru. Wyddoch chi, rwy'n falch iawn mewn gwirionedd o'r digwyddiadau mawr sydd wedi dod i fy etholaeth? Rwy'n edrych ar ŵyl lenyddol y Gelli sy'n dod â £70 miliwn i mewn i'r economi leol. Rwy'n adnabod llawer o bobl ar y meinciau hyn ac eraill sy'n mwynhau...
James Evans: Diolch, Gwnsler Cyffredinol—£132,000. Nododd cais rhyddid gwybodaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £200,000 mewn achosion llys yn erbyn Llywodraeth y DU, arian a allai gael ei ddefnyddio'n llawer gwell yn cefnogi pobl Cymru. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol dawelu meddyliau a sicrhau na fydd Gweinidogion Llafur yn gwastraffu rhagor o arian ar heriau cyfreithiol, hunanfoddog, wedi'u...
James Evans: Diolch am hynny, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn falch, fel finnau, fod y gwaith y mae'n ei wneud wedi hen ddechrau, ac rwy'n siŵr y byddech yn croesawu Sarah Atherton i'w swydd fel y Gweinidog cyn-filwyr yn Llywodraeth y DU. Fe ddywedoch chi mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond mae yna faterion sydd wedi eu datganoli yma, a gobeithio y gallwn gael atebion ar y...
James Evans: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru? OQ58474
James Evans: 9. Beth oedd y costau i Lywodraeth Cymru a oedd yn deillio o'r her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020? OQ58472
James Evans: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi cost lawn y 36 Aelod ychwanegol arfaethgedig o'r Senedd?
James Evans: Prif Weinidog, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn gwario 10 y cant yn fwy o'u hincwm ar danwydd ar gyfer eu ceir, felly a wnewch chi ddweud wrthyf beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig fel nad oes rhaid i bobl ddibynnu ar danwydd ffosil?
James Evans: Un o anfanteision siarad yn hwyrach yn y dadleuon hyn yw bod llawer o bobl eisoes wedi dweud llawer o'r hyn roeddwn am ei godi. Nid wyf am ailadrodd llawer o’r sylwadau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, ond un peth yr oeddwn am ei ddweud, a rhywbeth am yr ystadegau allweddol sydd wedi sefyll allan o ddifrif i mi, yw bod 1,200 o bobl bob blwyddyn yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol, ac...
James Evans: Mae agenda ffyniant bro Llywodraeth y DU wedi darparu buddion sylweddol i ganolbarth Cymru, gyda chyfanswm o £22 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym Mhowys yng nghyllideb yr hydref diwethaf ar gyfer elfennau o ofal cymdeithasol, twristiaeth a thai, y mae gwir angen y rhan fwyaf ohonynt yn fy nghymuned. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod cyllid o'r fath gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn hwb...
James Evans: Mae'n gadarnhaol iawn gweld y ddeddfwriaeth hon yn dod ymlaen. Mae ychydig yn hwyr, ond rwy'n falch o weld ei bod yn dod ymlaen. Mae un rhan o'r Bil yn ymwneud â lles anifeiliaid, ac yn y memorandwm esboniadol mae pwyntiau 7.514 i 7.531 yn nodi camau gweithredu a thargedau i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y bydd y Bil yn ei wneud ynghylch TB, clafr defaid, ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac...
James Evans: Gweinidog, cafodd apeliadau cynllunio a rhai eraill eu dileu o'r asiantaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'u rhoi o fewn y gyfarwyddiaeth cynllunio ac amgylchedd o fewn Llywodraeth Cymru. Dywedwyd wrthym ni y byddai hyn yn gwella'r gwasanaeth ac yn darparu'r newidiadau y mae eu hangen ar Gymru. Yn yr 11 mis ers y newid, mae'r oedi cyfartalog o ran hyd yn oed agor y cais...
James Evans: Weinidog, er efallai fod y syniad o reoli rhenti ac atal troi allan yn ymddangos fel syniad da i helpu pobl, mae hanes yn dangos i ni nad yw'n ateb da i ddatrys y problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Iwerddon fesurau rheoli rhenti, ac arweiniodd hynny at brinder tai, rhenti uwch oherwydd bylchau yn y gyfraith a landlordiaid yn tynnu eiddo oddi ar y...
James Evans: Fe wnes i gyfarfod â Thwristiaeth Bannau Brycheiniog yn ddiweddar, Gweinidog, ac mae ganddyn nhw lawer o bryderon, ond un o'u pryderon mwyaf oedd y diffyg eglurder gan y Llywodraeth dros hyn. Mae'r newid mewn iaith a ddefnyddir o ganolbwyntio ar dwristiaeth i ardoll ymwelwyr wedi cyfrannu at ansicrwydd. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun nad dim ond ar gyfer pobl sy'n dod i Gymru at ddibenion...
James Evans: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Mae fy mhlaid yn falch iawn bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno oherwydd mae angen i ni wneud cymaint ag y gallwn i leihau plastigion untro ledled y byd, oherwydd dyma bla mawr ein cyfnod ein bod yn gweld plastigion yn ein cefnforoedd ac yn lladd ein hanifeiliaid, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach, a gwahardd...
James Evans: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Cefais fy annog i weld eich trydariad yn croesawu Liz Truss i'w swydd newydd. Hi, wrth gwrs, yw'r drydedd fenyw Geidwadol i feddu ar y swydd honno. Mae'n aruthrol o bwysig i bobl Cymru eich bod chi a Phrif Weinidog newydd y DU yn cydweithio â pharch at ei gilydd gan y ddwy Lywodraeth i fynd i'r afael â'r heriau cyffredin y mae pobl yn eu hwynebu. Gwn ar...
James Evans: 6. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i ymgysylltu â Phrif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig? OQ58388
James Evans: Roeddwn i, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon heddiw, wedi meddwl bod hon yn araith na fyddai'n rhaid i'r un ohonom ei gwneud. Pan ddaeth y cyhoeddiad trist am farwolaeth y Frenhines, gadawodd wagle yn ein calonnau a galar cyffredin ymhlith pobl ar draws ein gwlad a'r byd, wrth i ni gymryd amser gyda'n gilydd i gofio'r gwas gorau a welodd y byd erioed. Mae fy meddyliau a'm gweddïau,...