Sarah Murphy: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthnasoedd iach yng nghwricwlwm yr ysgol? OQ57899
Sarah Murphy: Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, diolchais i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag yr erchyllterau a welwn yn Wcráin ac am gynnal y gwerthoedd sy'n gwneud Cymru'n cenedl noddfa. Dywedais fod y caredigrwydd a'r haelioni a welwn ledled ein cymunedau yn dangos Cymru ar ei gorau, a phan fydd pobl yn dioddef amgylchiadau mor drawmatig a dinistriol, fe...
Sarah Murphy: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998? OQ57783
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae Cymru'n genedl noddfa, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin i fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, mae trigolion wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gasglu rhoddion, codi arian, a hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Cymuned Heidi Bennett, y Cynghorydd David White a'r Parchedig Wheeler, yn arbennig, am...
Sarah Murphy: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin? OQ57778
Sarah Murphy: Diolch. Ym mis Mawrth 2020, gosododd Bwrdd Diogelu Data Ewrop ddirwy ar ysgol Bwylaidd am ddefnyddio data biometrig, neu olion bysedd, ar gyfer 680 o blant yn ffreutur yr ysgol yn gyfnewid am eu prydau ysgol. Er y nodwyd bod yr ysgol wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan rieni, pwysleisiodd y bwrdd nad oedd data biometrig yn hanfodol ar gyfer arferion amser cinio. Ni chaent ddefnyddio dulliau...
Sarah Murphy: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gasglu a defnyddio data biometrig disgyblion mewn ysgolion? OQ57698
Sarah Murphy: Gweinidog, mae plant yn fy etholaeth i mor ifanc â 11 a 12 oed yn gorfod cerdded 45 munud i'r ysgol ac yn ôl o Gorneli i Ysgol Gyfun Cynffig yn y Pîl. Rwyf i wedi cyfarfod â dros 20 o rieni sydd wedi dweud wrthyf i na fydden nhw fel arfer yn caniatáu i'w plant adael y pentref heb eu goruchwyliaeth, ac felly maen nhw'n poeni'n fawr am eu diogelwch wrth i'r plant orfod cerdded i'r ysgol ar...
Sarah Murphy: Diolch. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweithio gyda sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyd-lunio ein prosiect llwybr iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ar y gweill—un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau sydd â'r nod o wella hygyrchedd a gwella cydweithio rhwng grwpiau cymorth ar draws fy etholaeth i. Hoffwn i ddiolch i chi, Prif Weinidog, oherwydd fy mod i wrth fy modd o glywed hefyd...
Sarah Murphy: 1. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57728
Sarah Murphy: Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mabwysiadu dull synhwyrol o lacio cyfyngiadau COVID ar sail y dystiolaeth, oherwydd, fel dywedodd y Gweinidog eisoes, nid yw COVID wedi diflannu ac mae hi'n dal i fod yn anodd iawn rhagweld ei gwrs. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i fod yng Nghymru, fel llawer un arall, drwy gydol y pandemig, lle mae'r rheolau hunanynysu yn parhau. A yw'r Gweinidog...
Sarah Murphy: Mae fy etholwr, Evelyn, a'i mam, Jacqui, wedi cysylltu â mi, ar ôl cael sioc a bod yn hynod siomedig o ddarganfod y bydd Undeb Rygbi Cymru, o fis Medi 2022, yn atal merched rhag chwarae rygbi cymysg dan 12 oed a dan 13 oed. Mae Evelyn yn chwaraewr rhagorol, ac yn gapten chwaraeon dan 12 oed Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â chwarae i Ysgol Gyfun Brynteg. Gwnes i gyfarfod ag Undeb Rygbi...
Sarah Murphy: Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n croesawu'r pecyn cymorth y mae mawr ei angen a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Lafur Cymru, oherwydd yr wythnos diwethaf ymwelais â Splice Child and Family yn y Pîl, sy'n rhedeg banc babanod, a phantri cymunedol Baobab ym Mracla. Tra oeddwn yno, rhannodd y gwirfoddolwyr stori dorcalonnus gyda mi am fam a oedd wedi ymweld yn ddiweddar, yn gyndyn, yn gofyn am...
Sarah Murphy: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57675
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Gallwn ddeall pe baech wedi cael llond bol o gwestiynau am ardoll twristiaeth bosibl, yn enwedig fel y dywedoch chi, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad sy'n dechrau'r hydref hwn. Fodd bynnag, mae'r mater yn parhau i gael ei wleidyddoli a'i ddefnyddio i ledaenu gwybodaeth anghywir yn fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Byddaf yn cefnogi fy...
Sarah Murphy: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll twristiaeth? OQ57569
Sarah Murphy: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi awdurdodau lleol gyda phecynnau gofal i ganiatáu i gleifion adael yr ysbyty?
Sarah Murphy: Mae'r ddadl hon yn gyfle amserol i drafod y pryder a achoswyd gan y cyhoeddiad diweddar am newidiadau i sgrinio serfigol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i archwilio yn ei gyd-destun ehangach. Rwy'n derbyn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod y dylid bod wedi ymdrin â'r cyhoeddiad yn well, a bod Cancer Research UK wedi dweud, er bod y cyhoeddiad wedi cyrraedd y penawdau, fod llawer mwy i'r...
Sarah Murphy: Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy'n falch mai hwn oedd ein hymchwiliad cyntaf, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, Sioned Williams, ynghyd ag ymchwil Sefydliad Bevan, am awgrymu hyn, a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, y clercod a'r tîm cyfan sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni i'n helpu. Mae mynd i'r afael â dyled aelwydydd yn gwbl...
Sarah Murphy: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar ynghylch gweithredu'r maniffesto ac ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn fod fy nghyngor i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, hefyd yn mabwysiadu hyn. Mae'n arwydd pendant ac ystyrlon o'n gwerthfawrogiad o'n gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae hefyd...