Carolyn Thomas: Diolch. Roeddwn i'n mynd i ddweud hefyd bod economi'r gogledd a gwaith trafnidiaeth yn croesi'r ffin. Fe es i i ddigwyddiad ymylol Growth Track 360 yr wythnos diwethaf. Buom yn siarad am bwysigrwydd cyllid HS2 yn dod i ranbarth y ffin a, gydag Awdurdod Lleol Gorllewin Swydd Gaer a Chaer o bosibl yn bod yn ardal fuddsoddi, yr effaith y gallai ei chael ar ystad ddiwydiannol Wrecsam, ystad...
Carolyn Thomas: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y defnydd o gewyll ar gyfer bridio adar hela. Mae petris fel arfer yn paru â phartner am oes yn y gwyllt, ond mewn cewyll bridio masnachol, cânt eu gorfodi at ei gilydd, ac weithiau, eu gwneud i wisgo cyfrwyau a gorchuddion ar eu pigau i'w hamddiffyn rhag cael eu hanafu. Mae'r arfer hwn yn greulon a diangen, a'r cyfan yn enw...
Carolyn Thomas: Weinidog, gallai tua £45 biliwn o ostyngiadau treth i bobl a busnesau erbyn 2027 fod wedi talu am gynnydd o 19 y cant yn y sector cyhoeddus, ar wella gwasanaethau, llenwi swyddi gwag a thyfu'r economi yma yng Nghymru lle mae bron i draean y bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus. Weinidog, nid yw'r gyllideb fach gan Lywodraeth y DU yn gwneud fawr ddim i helpu'r sector cyhoeddus, gan...
Carolyn Thomas: 8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio? OQ58455
Carolyn Thomas: Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn a'r ffaith mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar faglau a thrapiau glud. Rwy'n falch hefyd o weld amcan yn cael ei gyflwyno er mwyn hyrwyddo mynediad cyhoeddus i gefn gwlad. A fydd y Gweinidog yn cadarnhau i mi y bydd cydymffurfio â chynnal a chadw hawl tramwy yn rhan greiddiol o'r cynllun, a nodi sut y bydd y cynllun...
Carolyn Thomas: Mae'r cyfoethogion yn mynd yn fwy cyfoethog; a'r tlodion yn mynd yn fwy tlawd. Bydd pobl yn cael trafferth talu eu morgeisi ar ben y costau ynni sy'n cynyddu. Mae gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau yn dilyn 10 mlynedd o gyni. Fe allai 45 biliwn o bunnoedd o doriadau treth fod wedi talu am gynnydd o 19 neu 20 y cant yn nifer y gweithwyr yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gofalwyr, a chredyd...
Carolyn Thomas: Yn dilyn ymlaen o hynny, Gweinidog, roeddwn i'n mynd i ddweud: a gaf i ofyn am ddatganiad ar y parthau buddsoddi, neu, yn hytrach, parthau dadreoleiddio? Mae Cyngor Gorllewin Sir Caer a Chaer wedi'i enwi fel un o bosibl, a allai effeithio ar ardal Glannau Dyfrdwy a'r ardal fenter yn Sir y Fflint. Mae gen i bryderon hefyd ynghylch dadreoleiddio cynllunio a'r effeithiau y gallai eu cael ar fyd...
Carolyn Thomas: Gweinidog, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o glywed bod y Prif Weinidog wedi ail-gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r moratoriwm ar ffracio yma yng Nghymru. Mae'n dangos ymrwymiad ac ymroddiad Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu dyfodol cynaliadwy, gan ddiogelu iechyd ac eiddo pobl yng Nghymru. Yn anffodus, gallai cymunedau ar y ffin, fel y rhai rwyf i'n eu cynrychioli yn y gogledd, ddal i...
Carolyn Thomas: Fe gaf drafferth dilyn hynny, Delyth. Roedd yn dda iawn. Credaf yn gryf na ddylai cwmnïau tanwydd ffosil a chyfranddalwyr fod yn gwneud elw o bris uchel tanwydd ffosil, tra bo cartrefi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef caledi mor ddifrifol. Mae cynghorau a grwpiau cymunedol yn ystyried sefydlu cartrefi cynnes a cheginau cawl. Sut y mae hyn wedi cael digwydd ym Mhrydain yr unfed...
Carolyn Thomas: Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd sir, cefais brofiad uniongyrchol o bobl sy'n cael trafferth gyda thlodi tanwydd ac sy'n ceisio ymdopi â baich ychwanegol systemau gwresogi diffygiol yn enwedig oddi ar y grid. Gofynnwyd i mi ymweld â phreswylydd oedrannus a oedd yn cael problemau gyda'i gwres canolog olew. Roedd ei drysau a'i ffenestri yn llydan agored i ryddhau'r mygdarthau ofnadwy ac...
Carolyn Thomas: Pan ymwelais â Phlas Menai gyda'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Heledd, cefais fy synnu gan ba mor wych yw'r cyfleuster, mewn lleoliad syfrdanol, ond hefyd y potensial pellach a allai fod ganddo i ymgorffori rhagor o weithgareddau. Roedd yr arlwy'n ymddangos yn eithaf cyfyngedig o'i gymharu â chanolfannau gweithgareddau awyr agored...
Carolyn Thomas: Diolch am yr ateb, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan yr RSPB, dim ond un o bob pump o blant sydd â chysylltiad â byd natur, ac mae'r amser a dreulir yn chwarae yn yr awyr agored wedi haneru mewn un genhedlaeth yn unig. Mae archwilio'r amgylchedd naturiol yn hynod fuddiol i blant ifanc yn enwedig ar gyfer datblygu eu synhwyrau a'u datblygiad emosiynol. Mae'n bwysig fod y profiadau hyn yn digwydd...
Carolyn Thomas: Iawn, diolch. Yn gynharach yn y mis, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban i rewi rhenti ac atal troi allan i helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw. Eleni, yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd uchaf yng nghost rhentu y tu allan i Lundain, gyda chynnydd syfrdanol o hyd at 13.9 y cant ar gyfartaledd mewn rhenti. Daw hyn ochr yn ochr â chynnydd ym mhrisiau tanwydd, ynni a bwyd, sy'n taro pobl ledled...
Carolyn Thomas: 7. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i rewi rhenti ac atal troi allan er mwyn helpu tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw? OQ58395
Carolyn Thomas: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn addysgu plant am bwysigrwydd natur a bioamrywiaeth? OQ58396
Carolyn Thomas: Rwyf i wir yn gwerthfawrogi'r mesurau hyn sy'n cael eu cyflwyno, ond i'w cyflawni nhw, bydd angen gwasanaethau cyhoeddus arnom ni, ac rwy'n wirioneddol bryderus; rwyf wedi clywed oddi wrth y Prif Weinidog am gyllid i fusnesau ac aelwydydd hefyd, ond dim o ran gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'n wynebu costau ynni cynyddol hefyd, a'r argyfwng costau byw. Maen nhw wedi gweld 10 mlynedd o...
Carolyn Thomas: Wrth i ni ddod heddiw i'r hyn rwy'n ei adnabod fel y Siambr drafod, mae'n dda iawn ein bod ni'n dod at ein gilydd heddiw, gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu am unwaith, a hoffwn gofio geiriau'r diweddar Jo Cox, pan ddywedodd hi 'Mae mwy sy'n ein huno nac sy'n ein gwahanu.' Rydym ni yma yn feibion, merched, rhai ohonom ni'n rhieni a neiniau a theidiau, yn union fel yr oedd y Frenhines yn nain...
Carolyn Thomas: Diolch i Jane am gynnig y ddadl hynod bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o'i chyd-gyflwyno i'r Senedd. Mae'r broses o gyflwyno treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn gam sydd i'w groesawu'n fawr tuag at system les fwy blaengar. Edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau ac rwy'n gobeithio y byddant yn arwain at ymestyn incwm sylfaenol yn ehangach ledled Cymru. Nid yw'r llwybr at economi...
Carolyn Thomas: Wrth ddarllen yr adroddiad, gwelais fod 80 y cant o bobl o blaid 20 mya i ddechrau, ond dangosodd ymgynghoriad y llynedd fod canlyniadau cymysg gyda 47 y cant o blaid bryd hynny. Daeth eithriadau bwrdd gwaith yn broblem pan gawson nhw eu cyflwyno mewn gwirionedd, yn dilyn y cynlluniau treialu a gynhaliwyd ym Mwcle yn Sir y Fflint, ac ni chaniatawyd i swyddogion wneud eithriadau lleol i ddileu...
Carolyn Thomas: Mae manteision treth ar werth tir yn eglur iawn—fe allai ddisodli system dreth gyngor atchweliadol, nad oes unrhyw gyswllt rhyngddi hi ag incwm aelwydydd, gyda system sy'n creu llawer mwy o gydraddoldeb wrth ddosbarthu cyfoeth, gan ostwng costau tai i lawer o aelwydydd ledled Cymru. Byddai treth ar werth tir yn helpu i roi terfyn ar hapfuddsoddiadau tir hefyd, yn annog dyrannu tir yn fwy...