Delyth Jewell: I gloi, Dirprwy Lywydd, mae pawb yn ymwybodol, bellach, bod arwain ffyrdd mwy iach a mwy egnïol o fyw yn cael effaith hynod fuddiol ar fesurau eraill, megis disgwyliad oes, iechyd meddwl, cyfleoedd economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol. Mae cydnabyddiaeth bod arferion ffordd o fyw sy'n cael eu datblygu pan ydyn ni'n ifanc yn fwy tebygol o barhau pan fydden ni'n oedolion. Am y...
Delyth Jewell: Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch chi, Weinidog, fod gwir angen edrych ar ddull Llywodraeth gyfan yn hyn o beth, gan gysylltu unwaith eto â'r hyn a ddywedodd Heledd am gyd-destun llesiant cenedlaethau'r dyfodol i hyn i gyd. Roedd nifer o'r Aelodau wedi gwneud y pwynt ynglŷn â pha mor ystyfnig yw'r rhwystrau rydym yn edrych arnynt, boed hynny o ran daearyddiaeth neu o ran y ffyrdd...
Delyth Jewell: Dwi'n gwybod roeddech chi wedi gwneud y pwynt am y ffaith bod Chwaraeon Cymru yn helpu'r sector i gynhyrchu gweledigaeth genedlaethol, ac mae Chwaraeon Cymru, yn amlwg, yn gwneud gwaith mor bwysig, ond gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo Chwaraeon Cymru drwy lythyr cylch gwaith. Dwi'n gwybod mai llythyr cylch gwaith hyd tymor y Senedd sydd yna ar hyn o bryd, ond, fel dwi'n deall, does dim i...
Delyth Jewell: Fel dywedodd Heledd hefyd, cododd ein hymgynghoriad galonnau, ac fe wnaeth ein tristáu ni hefyd. Soniodd Heledd hefyd am fframio hyn yng nghyd-destun Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hwn yn bwnc sydd wedi cael ei godi nifer o weithiau yn ein dadl—dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth pwysig inni gofio.
Delyth Jewell: Siaradodd Carolyn am y straen y mae costau ynni'n ei chael ar y diwydiant, yn enwedig pyllau nofio, pwynt a nododd Jenny hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd agor cyfleusterau'n gwneud gwahaniaeth i sicrhau cyfleoedd cyfartal, ond fel y soniodd Jenny, mae yna broblem barhaus sy'n peri pryder difrifol gyda phyllau nofio—mae'n rhywbeth y bydd y pwyllgor yn ei ddilyn yn agos. Mae'n bryder difrifol....
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl y prynhawn yma.
Delyth Jewell: Roedd Tom Giffard yn nodi pa mor amserol yw'r ddadl hon a'r angen i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad. Nododd Jack Sargeant hyn mewn ymyriad am gymryd rhan mewn chwaraeon—do, roeddem wedi canolbwyntio ar gymryd rhan—ond mae'r gynulleidfa, ymgysylltu â'r gymuned, mynd i weld gemau, mor bwysig hefyd. Tom, y Farwnes Grey-Thompson a wnaeth y pwynt i ni fel pwyllgor, ac roedd yn bwynt mor...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ar ran y pwyllgor. Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar ran ein pwyllgor i drafod ein hadroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn ac a rannodd eu profiadau gyda ni fel pwyllgor, i Aelodau eraill y pwyllgor, ac i’n tîm clercio ac ymchwil am eu...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Gan gadw at thema COP, ar ôl COP27, ymddengys bod Llywodraethau ledled y byd wedi cefnu ar y gobaith o 1.5—y cyfle i gadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i lefel sydd ond ychydig yn drychinebus, sef 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae'r cyfle hwnnw'n prysur ddiflannu. Cefnir arno mewn colofnau papurau newydd ac ym mholisïau llywodraethau. Mae'n llithro...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Weinidog, rwyf eisiau gofyn i chi am COP27. Roedd gwledydd sy'n datblygu yn dathlu fore Sul, oherwydd, am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, cytunodd y gwledydd datblygedig i ddarparu cyllid i'w helpu nhw i ymateb i drychinebau sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd, a elwir yn gronfa colled a difrod. Roedd y cytundeb yn COP27 ymhell o fod yn berffaith, gyda sawl elfen allweddol yn...
Delyth Jewell: Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru?
Delyth Jewell: Mae gan y pwyllgor nifer o bryderon difrifol o ran yr LCM ei hun. Fel rydym ni wedi clywed eisoes, mae'r pwerau dirprwyedig pellgyrhaeddol a geir o fewn y Bil yn achosi pryder i ninnau hefyd. Fel cafodd ei drafftio, fe fyddai'r Bil yn galluogi Gweinidogion y Goron i wneud unrhyw newidiadau i'r Bil y maen nhw'n eu hystyried yn briodol yn y dyfodol ac wrth edrych yn ôl. Fe allai unrhyw...
Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma. Roedden ni fel pwyllgor yn bryderus am y diffyg amser oedd gennym ni yn wreiddiol i ystyried ei lawn oblygiadau, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol yn deillio o'r Bil. Er rhoddwyd estyniad...
Delyth Jewell: Trefnydd, mae tîm Cymru wedi llwyddo i uno'n cenedl, ac mae papurau newydd ar draws y byd yn adrodd ein stori ni. Mae hyd yn oed The Washington Post wedi cynnwys erthygl ar y tîm ac 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan, sydd heb ei ail. Er hynny, mae'n destun cywilydd i FIFA fod y twrnamaint yn digwydd yn Qatar. Rwy'n falch bod tîm Cymru wedi bod mor agored yn rhannu gwerthoedd Cymru â'r byd, ond...
Delyth Jewell: Diolch am hynna. Mae cymunedau dros Gymru yn barod yn dioddef. Wedi 12 mlynedd o lymdra, dydy gwasanaethau hanfodol ddim mewn sefyllfa i wynebau toriadau pellach. Dwi'n meddwl bod gonestrwydd yn hanfodol mewn gwleidyddiaeth, felly mae angen nodi'n glir mai bai'r Llywodraeth yn San Steffan yw difrifoldeb y sefyllfa hon, ac mae'r ffaith eu bod nhw'n gwadu hyn a'u bod nhw'n beio'r sefyllfa...
Delyth Jewell: 6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn effeithio ar gymunedau yng Nghymru? OQ58765
Delyth Jewell: Diolch am yr ateb yna, Weinidog.
Delyth Jewell: Weinidog, bron bob wythnos, mae yna gwestiynau'n ymwneud â'r oedi annerbyniol sy'n wynebu cleifion wrth aros am ambiwlansys, ac mae pob achos o oedi'n creu perygl i fywydau pobl. Mae etholwr wedi cysylltu â mi ar ôl achos o oedi o'r fath yn y Fenni yn gynharach yn y mis. Roedd yr etholwr mewn parti pen-blwydd priodas ac aeth un o'r rhai oedd yn bresennol yn sâl iawn a syrthio'n...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Pan oeddwn yn cerdded at y trên neithiwr, ar ôl i'r Senedd orffen, roeddwn yn ymwybodol iawn fod rhai o'r llwybrau cerdded ychydig yn unig, ac roedd yn dywyll, a phenderfynais ddilyn trywydd ychydig yn hwy, gan fentro colli trên, am y byddai'n teimlo'n fwy diogel gyda mwy o bobl o gwmpas. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi darganfod nad yw menywod yn teimlo mor ddiogel â...
Delyth Jewell: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau hawliau gweithwyr sy’n gweithio yn yr economi nos? OQ58716