Buffy Williams: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau allyriadau fel rhan o Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang? OQ56971
Buffy Williams: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn y bydd y rhaglen hirdymor uchelgeisiol o ddiwygio addysg yng Nghymru yn parhau yn ystod y chweched Senedd gyda chwricwlwm newydd i Gymru, Bil addysg Gymraeg, y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, a buddsoddiad ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ddoe, derbyniodd aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gynigion i weddnewid Ysgol...
Buffy Williams: 5. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwella'r amgylchedd dysgu mewn ysgolion ledled Cymru? OQ56981
Buffy Williams: Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf honno, Ddirprwy Weinidog. Amcangyfrifir bod dros 9,000 o fenywod yng Nghymru yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol, ac mae un o bob pum menyw'n dioddef gyda'u lles emosiynol yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae ymchwil gynnar yn awgrymu y bydd y ffigur hwn yn codi'n anochel. Yn anffodus, nid yw hyn yn syndod. Roedd y newidiadau anodd ond mawr eu...
Buffy Williams: 2. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad am gymorth iechyd meddwl amenedigol? OQ56906
Buffy Williams: Am dros ganrif, roedd glo Cymru'n pweru'r byd. O Drehafod hyd at Faerdy, Trebanog draw i Dreherbert, gweithiodd dynion a menywod eu bysedd at yr asgwrn i wneud y wlad hon yn gyfoethog. Rydym yn falch o'r cyfraniad a wnaeth ein cyndadau yn y Rhondda, ochr yn ochr â'n cymdogion, fel rhan o ardal ehangach meysydd glo de Cymru. Mae hyn yn gwbl groes i Lywodraethau Torïaidd olynol y DU, sydd dro...
Buffy Williams: Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y gofynion cyfreithiol o ran lleoli camerâu cyflymder yng Nghymru?
Buffy Williams: Mae llawer o grwpiau a sefydliadau ar gael i gefnogi mamau drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, ond pan fyddwch yn gadael gofal y gweithwyr meddygol proffesiynol, ac yn ôl yn yr uned deuluol, rydych yn dechrau poeni; poeni eich bod yn fethiant, poeni eich bod yn siomi pobl. Rydych chi'n teimlo na allwch ofyn am help heb gael eich beirniadu ac rydych chi'n dechrau teimlo, lle bynnag y trowch, nad...
Buffy Williams: Hoffwn roi munud o fy amser i Laura Anne Jones, Huw Irranca-Davies a Carolyn Thomas, os caf, os gwelwch yn dda. Mae anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol yn fater difrifol. Yng Nghymru yn unig mae dros 9,000 o fenywod yn dioddef, weithiau mewn distawrwydd. Mae mamau wedi cadw eu symptomau iddynt eu hunain felly mae'r cyflwr wedi aros yn anweledig, i raddau helaeth. Mae llawer o famau,...
Buffy Williams: Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi mynegi fy marn yn glir yn y Siambr hon wrth drafod Cyfoeth Naturiol Cymru a digwyddiadau llifogydd 2020. Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth a roddwyd i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd ers y llifogydd i wella mesurau i amddiffyn rhag llifogydd ac atal llifogydd ar draws Rhondda, trwsio cwlferi a systemau draenio ym Mhentre,...
Buffy Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Buffy Williams: Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cynlluniau uchelgeisiol. Mae angen i ni blannu mwy o goed i fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau'r siawns o amodau tywydd mwy eithafol, fel y glaw a arweiniodd at y llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ym mis Hydref 2020, cwblhaodd CNC ei adolygiad rheoli ystadau tir a lluniodd 10 argymhelliad allweddol i newid...
Buffy Williams: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o glywed bod y Gweinidog o ddifrif ynghylch cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cymryd camau bach yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Fel miloedd o bobl ledled Cymru, rwy'n defnyddio Duolingo bob bore i ddysgu mwy o eiriau. Ond yn bwysicach na hyn, mae plant ledled Cymru yn siarad Cymraeg yn eu hystafelloedd dosbarth bob dydd, fel y plant...
Buffy Williams: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant tasglu'r cymoedd dros dymor nesaf y Senedd?
Buffy Williams: Mae angen imi ddatgan buddiant yn y mater hwn, gan fy mod yn byw yng nghymuned Pentre, ac fe gefais fy effeithio yn bersonol gan lifogydd 2020. Weinidog, fel y gwyddoch, mae gennyf fy mhryderon a fy rhwystredigaethau fy hun gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe ddioddefodd dros 200 eiddo a busnes lifogydd yn y Rhondda y llynedd. Cymerwyd camau ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a chyngor...
Buffy Williams: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau cyflogaeth yn y Rhondda?
Buffy Williams: Gweinidog, gwn y bydd trigolion y Rhondda, yn enwedig ein pobl ifanc a'n teuluoedd ifanc, yn ddiolchgar o glywed bod y Llywodraeth yn adeiladu ar waith y Senedd flaenorol, gan gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai difrifol. Mae graddedigion wedi cysylltu â mi a adawodd y Rhondda i fynd i'r brifysgol ac sydd bellach eisiau dychwelyd i'w trefi genedigol i brynu eu cartrefi eu hunain,...
Buffy Williams: Weinidog, wrth weithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector drwy gydol y pandemig, cefais brofiad uniongyrchol o'r effeithiau niweidiol y mae COVID wedi'u cael ar deuluoedd y Rhondda. Yn anffodus, mae colli incwm a chostau byw cynyddol wedi golygu bod teuluoedd ac unigolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Rwy'n ddiolchgar am y darpariaethau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth...
Buffy Williams: Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog heddiw. Daw rhai o'm hatgofion gorau o ddigwyddiadau Pride yng Nghymru. Ni fydd cydgysylltydd Pride a chronfa Pride benodol ddim ond yn gwella'r dathliadau. Ni allaf gredu bod therapi trosi yn dal i gael ei drafod. Rwy'n cefnogi'n llwyr yr addewid heddiw i wahardd pob agwedd ar therapi trosi yng Nghymru. Yn ddiweddar, roeddwn yn bresennol yn...
Buffy Williams: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, ar ôl gweithio a gwirfoddoli mewn addysg a chymunedau yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf i bob amser wedi dweud, os rhowch chi gyfle i bobl ifanc, naill ai drwy gyflogaeth neu wirfoddoli, ei bod yn rhyfeddol beth y gallan nhw ei gyflawni. Roeddwn i'n falch o sefyll ar faniffesto a oedd yn cynnwys gwarant i bobl ifanc, naill ai gwaith, addysg,...