Peredur Owen Griffiths: Rwy'n croesawu'r adroddiad interim ac yn adleisio rhai, nid pob un, o'r sylwadau yr ydym wedi'u clywed yn y Siambr hon y prynhawn yma. Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar agwedd fach o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, Gweinidog. A allwn wahardd y defnydd o'r geiriau 'blaengar' a 'radical' wrth gyfeirio at gynigion Gordon Brown? Maent bopeth ond radical neu flaengar. Yn syml, nid...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Rydyn ni'n dal i aros am gynllun gweithlu'r Gweinidog, a addawyd y mis hwn; o ystyried fod yna ychydig oriau yn weddill, rydyn ni'n parhau i obeithio y daw maes o law. O, gwych, mae arwydd cadarnhaol i'w weld fan acw, felly dyna beth da. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi a'ch swyddogion â rhan fawr yng nghyfansoddiad y cynllun hwn? Mae hwn yn gwestiwn allweddol, oherwydd yn aml,...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaeth iechyd ni. O gynyddu anghydraddoldebau iechyd hyd at rwystro pobl rhag cadw'n gynnes a chael bwyta y gaeaf hwn, mae'r GIG yn dangos arwyddion o bwysau eithafol ac argyfwng. Mae'r straen yn amlwg hefyd ymhlith y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd. Mae streic y nyrsys, a gefnogir gan Blaid Cymru, yn...
Peredur Owen Griffiths: Mae'r Senedd eisoes wedi clywed gan Jack am ba mor annheg yw gosod mesuryddion rhagdalu; rwy'n cymeradwyo ei bwyntiau'n llwyr. Mae mesuryddion rhagdalu yn anghymesur o gyffredin yn y sector tai cymdeithasol, sy'n golygu bod tenantiaid ar rai o'r bandiau incwm isaf yn y wlad yn gorfod talu'r tariffau ynni uchaf. Mae'n hynod o wrthnysig fod y rhai sydd â llai nag eraill yn cael eu gorfodi i...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb yna.
Peredur Owen Griffiths: Er nad yw'r pwerau i ddeddfu ar gydnabod rhywedd ar gael i'r Senedd hon eto, mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi awydd i gyflwyno deddfwriaeth debyg i'r Bil diwygio cydnabod rhywedd yma yng Nghymru. Dywedodd yn y Siambr hon yn ddiweddar, 'byddwn yn ceisio'r pwerau. Os cawn ni'r pwerau hynny, byddwn ni'n eu rhoi nhw ar waith yma yng Nghymru, a byddwn ni'n rhoi cynigion ger bron Senedd Cymru'....
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i osod feto ar hynt Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn nodi isafbwynt yn y berthynas rhwng San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig. Dros y 13 mlynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi dangos ei diffyg parch amlwg tuag at ddatganoli ar sawl achlysur. Yn hytrach na gweithio'n adeiladol gyda'i phartneriaid datganoledig,...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd, ac ymddiheuriadau am beidio â bod yn barod yn fanna.
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl. Fe wnaeth y pwyllgor ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf ar ôl i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad osod ei adroddiad. Nid oes gennym unrhyw bwyntiau adrodd pellach i'w gwneud ar wahân i'r rhai sydd eisoes yn dod o dan y pwyllgor hwnnw ac felly rydym yn ei ystyried yn briodol ac yn gymesur ar yr achlysur hwn i...
Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn lliniaru'r argyfwng costau byw i bobl yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Mae ein GIG ar ben ei dennyn. Mae'n rhaid i rywbeth newid. Mae problemau wedi bod ers tro gyda llif cleifion drwy ysbytai. Pan fyddwch yn cyfuno hyn â phwysau cynyddol ar ein gwasanaeth brys a mwy a mwy o gleifion yn cael eu hychwanegu at restrau aros, mae ein staff gweithgar yn cael eu gorfodi i weithio'n galetach, a gweithio'n galetach mewn amodau gwaeth. Bydd rhai yn y Siambr hon na...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb yna.
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n codi'r mater hwn gan fod problemau wedi bod ar dir comin yn fy rhanbarth. Mae'r model llac presennol o berchnogaeth ac atebolrwydd yn golygu mai dim ond un tirfeddiannwr twyllodrus sydd ei angen i ddatgelu'r diffygion cynhenid yn y system. Heb fynd i ormod o fanylion am achos lleol sy'n dod i'r meddwl, mae yna enghraifft amlwg yn fy rhanbarth o sut y gall tirfeddiannwr lwyddo i...
Peredur Owen Griffiths: 3. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i reoli tir comin yn Nwyrain De Cymru? OQ58943
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am y gwaith, a diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ddod â'r Bil yma gerbron.
Peredur Owen Griffiths: Rydym ni'n croesawu cyflwyno'r Bil hwn i greu fframwaith deddfwriaethol wedi'i gydgrynhoi, sy'n hygyrch ac wedi'i foderneiddio ar gyfer gwarchod amgylchedd hanesyddol Cymru a fydd yn adlewyrchu'n well ddeinameg y maes ddatganoli. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn gwneud i bobl Cymru deimlo'n fwy cysylltiedig â'n hanes cenedlaethol cyfoethog ac amrywiol, ac yn fwy abl i gyfrannu at sgyrsiau...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ac am yr adroddiad pwysig yma.
Peredur Owen Griffiths: Mae ein cymunedau wedi wynebu caledi ar ôl caledi yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn dros ddegawd o gyni dan law'r Ceidwadwyr yn San Steffan, yna fe gawsom Brexit, a'r pandemig, a'r argyfwng costau byw hollbresennol nawr. Ac eto, yn anad dim, rydym wedi gweld bod caredigrwydd yn ein cymunedau yn parhau. Mae Cymru'n gyfoethog nid yn unig mewn adnoddau neu ddoniau ond o ran ein cymunedau....
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i gynnig y cynnig hwn heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid a gofyn i’r Senedd gytuno i benodi Dr Kathryn Chamberlain yn gadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae gan Dr Kathryn Chamberlain brofiad sylweddol o arwain ar lefel uwch yn y sector cyhoeddus a chefndir cryf ym maes archwilio a llywodraethu. Yn...
Peredur Owen Griffiths: A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar y gwasanaeth tân os gwelwch yn dda, Trefnydd? Fel llawer a welodd adroddiad ITN ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru neithiwr, roeddwn i wedi dychryn. Ni ddylai fod unrhyw le i gasineb at fenywod o fewn y gweithle, ond mae hyn yn arbennig o wir gyda gwasanaeth cyhoeddus fel y frigâd dân. Roeddwn i'n hynod siomedig i ddarganfod bod yr ymddygiad yma...