Canlyniadau 81–100 o 400 ar gyfer speaker:Luke Fletcher

9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys (23 Tach 2022)

Luke Fletcher: Faint ohonom a fu'n ddiolchgar am y gofal y mae perthynas wedi'i gael pan fyddant yn sâl? Rwy'n sicr yn ddiolchgar am y gofal a gafodd dau o fy mam-guod a thad-cuod yn ystod COVID. Ni fyddai'r gofal hwnnw y dibynnwn arno yn bosibl, ac ni fyddai ansawdd y gofal cystal, heb nyrsys—nyrsys y gofynnir iddynt bob shifft i fynd y filltir ychwanegol, ac y gofynnwyd iddynt weithio shifft ychwanegol...

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl (22 Tach 2022)

Luke Fletcher: Parhau, dim problem? Wrth gwrs, mae ein gwasanaethau tân yn wynebu mwy o bwysau. Mae prinder staff yn un ohonyn nhw, eithafion tywydd a ysgogir gan newid hinsawdd yn digwydd yn amlach ac yn amlach, a heriau a ddaw wrth i ni fynd i'r gaeaf yng nghanol argyfwng costau byw na welwyd ei debyg o'r blaen. Mae'r Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn poeni y bydd pobl mewn perygl ychwanegol...

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl (22 Tach 2022)

Luke Fletcher: Diolch byth ein bod yn gweld llai a llai o danau domestig. Rwy'n credu bod hynny'n beth positif wrth symud ymlaen, ac wrth gwrs, rwy'n gwybod bod yna lawer o bobl yn y gwasanaeth tân sy'n dymuno nawr i weld beth arall y gallan nhw ei wneud er mwyn i'r gwasanaeth barhau'n berthnasol. Roeddwn i'n eithaf siomedig, mewn gwirionedd, gydag un o'r sylwadau a wnaed gan Joel, a oedd i raddau, yn fy...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Tach 2022)

Luke Fletcher: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu lafar, pa un bynnag sydd yn fwy priodol, ar hynt Big Bocs Bwyd a sut mae'n rhyngweithio â sefydliadau cymunedol lleol hefyd sy'n darparu bwyd i'r rhai sydd ei angen? Mae nifer o sefydliadau wedi dod ataf i, gan fynegi pryder bod diffyg cydlynu, sydd yn y pen draw wedi arwain at nifer o sefydliadau yn cystadlu am yr un cyllid a bwyd o fewn...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Pwysau costau byw' (16 Tach 2022)

Luke Fletcher: Fe ddof i ben drwy ddweud bod yn rhaid inni ymdrechu i gyflawni'r gwaith sy'n dadnormaleiddio hyn. Y gwir amdani yw nad yw hyn yn normal ac ni ddylai pobl orfod brwydro i allu fforddio'r pethau sylfaenol. 

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Pwysau costau byw' (16 Tach 2022)

Luke Fletcher: Rwyf am ddechrau, fel rydym bob amser yn tueddu i'w wneud yn y dadleuon hyn, drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei gadeiryddiaeth arbenigol ar ein pwyllgor, yn ogystal â'r holl waith y mae'r clercod yn ei wneud hefyd, ac yn arbennig y dystiolaeth a gawsom gan wahanol randdeiliaid a grwpiau gweithredu cymunedol. Rwyf am dynnu sylw at grŵp gweithredu Caerau a Threlái, fel y gwnaeth y Cadeirydd, a...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith — 'Cysylltedd digidol — band eang' (16 Tach 2022)

Luke Fletcher: Diolch i'r pwyllgor am ei holl waith ar y pwnc yma. Dwi ddim yn siŵr os oedd y siaradwr diwethaf wedi darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith — 'Cysylltedd digidol — band eang' (16 Tach 2022)

Luke Fletcher: Mae’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor a’r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i’w croesawu’n fawr. Nid oes ond angen inni edrych yn ôl mor ddiweddar â’r cyfyngiadau symud i weld pa mor bwysig yw cael mynediad digonol at fand eang. Roedd yn un o'r ychydig iawn o ffyrdd a oedd gan lawer ohonom i osgoi teimlo’n ynysig a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid. Fe...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' ( 9 Tach 2022)

Luke Fletcher: Dwi am ddweud diolch i’r Cadeirydd a’r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, a dwi am ddweud diolch yn benodol am y gwaith oedd wedi digwydd trwy’r tîm ymgysylltu, oedd yn help mawr wrth inni gasglu tystiolaeth gan y gweithwyr yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, gweithlu sydd yn aml yn ei gweld hi'n anodd i sicrhau bod eu llais a'u profiadau yn cael eu clywed y tu...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' ( 9 Tach 2022)

Luke Fletcher: Rwyf am ganolbwyntio ar letygarwch yn benodol. Mae'n sector arwyddocaol ynddo'i hun, gan gyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru ar ei anterth, ac mae'n sector y mae gennyf lawer o brofiad ynddo. Fodd bynnag, bydd llawer o hyn yn berthnasol i fanwerthu a thwristiaeth. Pan wnaethom gychwyn ein hymchwiliad i'r sector, roedd llawer ohono'n canolbwyntio ar yr effeithiau a gafodd y pandemig arno fel...

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod — Bil Manteisio ar Fudd-daliadau (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Rwy'n credu bod Sioned wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd nad yw cymorth yn gymorth os nad ydych yn gwybod ei fod yno. Hoffwn ddiolch iddi am gyflwyno'r cynnig hwn. Y gwir amdani yw y ceir llawer o bobl nad ydynt yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt—budd-daliadau y maent eu hangen yn ddybryd. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i chwilio am y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog hefyd am ei diddordeb cyson yn y mater hwn. Mae'n siŵr fod y Gweinidog yn ymwybodol o'r cynlluniau presennol yng Nghaerffili i newid y trac annibynnol yno i un a gaiff ei reoleiddio gan Fwrdd Milgwn Prydain. Un pryder sydd gennyf, pryder a rannaf gydag Aelodau eraill yn y Siambr, yn ogystal â Hope Rescue, Achub Milgwn Cymru, Dogs Trust, Blue Cross a'r RSPCA, yw...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Diolch am yr ymateb, Weinidog.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Ynni Uwch (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Diolch, Weinidog. Mae Huw eisoes wedi sôn am y cyfarfod ar y cyd y gwnaethom ni fel Aelodau Gorllewin De Cymru ei fynychu gydag arweinwyr cynghorau ar draws ein rhanbarth, a hoffwn ddiolch i Mike Hedges am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Mae realiti’r sefyllfa'n enbyd. Rydym yn wynebu toriadau mawr i wasanaethau cynghorau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu, er enghraifft,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Ynni Uwch (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: 3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch? OQ58616

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rasio Milgwn (26 Hyd 2022)

Luke Fletcher: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar rasio milgwn? OQ58630

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Ac wrth gwrs, mae yna rôl bwysig gan y banc yn nyfodol economi Cymru.

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Luke Fletcher: Mae Banc Datblygu Cymru yn estyn cymorth i'w gwsmeriaid trwy nifer o sefydliadau, gan gynnwys Busnes Cymru. Mae Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau yn rhad ac am ddim i gwmnïau ac unig fasnachwyr o Gymru. Bron i flwyddyn yn ôl bellach, cafwyd trafodaethau mewn pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn hefyd am bryderon ynglŷn â chyllid i Fusnes Cymru, y mae llawer ohono'n mynd at...

8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1294, 'Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl' (19 Hyd 2022)

Luke Fletcher: I gychwyn, fel fy nghyd-aelodau o’r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddweud y dylai Tassia fod yn falch o’i gwaith ac yn falch o’i deiseb. Yn y swydd hon, ac mewn bywyd a dweud y gwir, y bobl sy'n ysbrydoli fwyaf yw'r rhai yr ydym yn cymryd eu profiadau o adfyd ac yn eu defnyddio i gael dylanwad da. Anaml y cewch bencampwyr heb greithiau. Hwy yw'r cryfaf ohonom a'r gorau ohonom, ac yn fy marn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.