Huw Irranca-Davies: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53399
Huw Irranca-Davies: 6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit? OAQ53400
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, ac rwy'n ymddiheuro, doeddwn i ddim yma ar gyfer yr araith agoriadol. A allaf i ofyn iddo—? Rwyf wedi ysgrifennu ato gyda chyfres o gwestiynau ynghylch y cymorth y mae Tŷ Brynawel yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Tybed, o ystyried y ffaith bod rhai canolfannau adsefydlu yn cau yng Nghymru, ac mai Tŷ Brynawel yw'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth...
Huw Irranca-Davies: A gaf i adleisio geiriau'r Gweinidog ac eraill sydd wedi cyfrannu hyd yma mewn ymateb i'r datganiad hwn am y gwaith aruthrol y mae pobl yn ei wneud mewn gwahanol ddisgyblaethau, yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid y trydydd sector hefyd? Ac fe hoffwn i gyfeirio rhai cwestiynau a rhai sylwadau at un o'r sefydliadau penodol hynny a grybwyllwyd yn y datganiad. Ac mae'r sefydliad...
Huw Irranca-Davies: Rydym ni bob amser yn cael ein temtio i edrych ymhellach i ffwrdd am yr enghreifftiau gorau posibl o sut i wella ein gwasanaethau o ran iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond, wrth gwrs, yn ôl yn yr hydref, roedd yr Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, a minnau yn falch iawn o fod yn etholaeth Jayne Bryant, yn y lansiad o £13.4 miliwn o gyllid drwy'r gronfa weddnewid yng Nghanolfan Serennu,...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn i'r Gweinidog, o ran canllawiau, a ydym yn cael ein rhwystro mewn unrhyw ffordd gan y cyfyngiadau sydd ar fyrddau iechyd o ran ymgynghoriadau? Cyn y Nadolig, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar fater yn ymwneud ag ysbyty Maesteg. Ni chafodd ei fframio fel 'dyfodol ysbyty Maesteg; sut y gallwn edrych ar ei ddyfodol hirdymor, beth allwn ni ei wneud...
Huw Irranca-Davies: Yn fy nghyfraniad byr at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r rhan o'r gwelliant sy'n cyfeirio at adolygiad rheilffyrdd Williams, sy'n sôn am drosglwyddo perchnogaeth seilwaith rheilffyrdd Cymru, setliad cyllideb teg yn ymestyn i welliannau reilffyrdd, y gallu i ddewis o blith amrywiaeth o fodelau ar gyfer darparu gwasanaeth rheilffordd i deithwyr, a'r ffaith y byddem ni'n symud i...
Huw Irranca-Davies: Nac oes, nac oes—dim ystadegau o gwbl. Dim ond fel fy mod i'n glir pan rwyf yn trafod hyn gyda'm hetholwyr fy hun, Mark, rydych chi'n cyflwyno dadl argyhoeddiadol bod Cymru'n cael mwy na'i chyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd o gronfa'r DU. Ai dyma safbwynt y Blaid Geidwadol mewn difrif calon? Oherwydd bydd hynny'n cael lle amlwg a blaenllaw ar fy holl lythyrau a anfonir at fy...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am ildio, Russell. Rydych chi'n ymdrechu'n lew i geisio amddiffyn hwn, ond tybed beth yw eich ymateb i'r dadansoddiad a gymeradwywyd gan y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig a'r pwyllgor dethol seneddol ar drafnidiaeth yn San Steffan, grwpiau trawsbleidiol. Yn wir, caiff y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig ei gadeirio, os cofiaf yn iawn, ar hyn o bryd, gan yr Aelod Ceidwadol...
Huw Irranca-Davies: Mae'r cwestiwn o ba un a all datganoli gweinyddol agweddau ar les ddod â manteision trwy gyfochri lles yn well gyda pholisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi ac i ymdrin â darparu cyfle i bawb yn un sydd wedi bod o gwmpas ers peth amser. Ond roedd gwefr o gyffro yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, yn sgil ymateb y Prif Weinidog, yr oedd croeso mawr iddo, i gwestiwn fy...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran datganoli gweinyddol mewn cysylltiad â lles? OAQ53335
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, David. Y bore yma, fel arfer, deuthum oddi ar y trên yng ngorsaf Caerdydd, mynd ar fy meic, beicio i gyfarfod ym Mharc Cathays a beicio'n ôl drwy'r parc, drwy'r rhew, yr holl ffordd yma, gyda fy sgarff yn hedfan y tu ôl i mi, ar fy meic llyw uchel—yr holl ffordd yma. Pan gyrhaeddais, roedd yn wych gweld yr holl feiciau yno—yr adeg hon o'r flwyddyn,...
Huw Irranca-Davies: Tynnaf sylw'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, fel cadeirydd pwyllgor monitro'r rhaglen sy'n ymwneud â chyllid Ewropeaidd. A gaf fi gytuno â'r sylwadau a wnaed gan David Rees, fy nghymydog yn etholaeth Aberafan a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y llinellau coch a dynnwyd gan y Llywodraeth, o ran y cyllid yn ei gyfanrwydd, a allai fod yn fwy, mewn...
Huw Irranca-Davies: 1. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o fannau diogel i storio beiciau ar ystâd y Cynulliad? OAQ53297
Huw Irranca-Davies: Ond rwyf eisiau troi at yr adroddiad da iawn yma am barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae'n dechrau gyda'r sylw na allwn ni mo'i ailadrodd yn rhy aml: pob un ohonom ni, yn ein hetholaethau, mai un o'r cyflogwyr mwyaf o ran gweithgynhyrchu a chynhyrchu bwyd sylfaenol yw bwyd, pa un a yw hynny'n gwneud platiau ffoil tin a deunydd pacio ar gyfer awyrennau neu a ydyn nhw'n ffermwyr neu...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un o'r tri adroddiad, ond cyn gwneud, gan fy mod i wedi ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar, a gaf i ganmol y gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud ar y tri adroddiad yma a pha mor drylwyr ydyn nhw, a'r ffaith eu bod nhw'n ymdrin â ffeithiau yn uniongyrchol iawn? Nid storïau brawychu neu ofn diangen mohonyn nhw; yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw disgrifio'r gwahanol...
Huw Irranca-Davies: Fe geisiaf fod yn gyflym iawn yn y fan yma. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu uchelgais ac ysbryd y datganiad hwn, a hefyd gwaith y pwyllgor yr wyf bellach yn aelod ohono, a'i adroddiad blaenorol, 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun', sydd wedi rhoi sail ar gyfer peth o'r drafodaeth hon. Rwy'n croesawu hyn gan ei fod yn cydnabod bod y rhai sy'n ceisio lloches, y rhai sy'n ffoaduriaid, yn...
Huw Irranca-Davies: Newyddion da iawn am gyhoeddiad y rownd gyntaf o arian gyda llwyddiant newydd Cymru ynghylch y dreth dirlenwi, ond a gawn ddatganiad ynglŷn â’r hyn y gellid ei wneud i annog yn weithredol yr ardaloedd hynny sydd o fewn y cylchoedd pum milltir hynny o amgylch ardaloedd tirlenwi nad ydyn nhw wedi gwneud cais am arian eto, gan gynnwys lleoedd yn fy ardal i fy hun fel Llanharan, Llanhari,...
Huw Irranca-Davies: Ydw. A hyd yn oed presenoldeb sylwedydd o Swyddfa Cymru hefyd. Ond a fyddai'n cytuno â mi pe byddai cefnogaeth gyhoeddus, a dim ond ar ôl ymgynghori priodol, bod cynllun sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo, y byddai hyn yn golygu bod angen i'r holl garfannau hynny chwarae eu rhan? A tybed beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog San Steffan a'r Adran Drafnidiaeth i...
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac a gaf i, drwyddo ef, gyfleu fy niolch i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Mae wedi cael ei lobïo yn ddiddiwedd gennyf i, ac rwyf i wedi dod â dirprwyaethau o arweinydd y cyngor, cynghorwyr tref o gyngor tref Pencoed ac eraill, ac mae wedi ymgysylltu'n adeiladol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda ni. Mae dwy ochr y dref hon wedi eu gwahanu...