Canlyniadau 981–1000 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dyfodol Amaeth ( 7 Tach 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ymateb. Mae'r sector amaeth, wrth gwrs, yn un o gynheiliaid allweddol yr iaith Gymraeg yma yng Nghymru, a byddwch chi'n ymwybodol o ddyletswyddau'r Llywodraeth yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae ystyriaethau diwylliannol a ieithyddol i fod i gael eu gwrthbwyso'n gyfartal ag ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol....

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dyfodol Amaeth ( 7 Tach 2018)

Llyr Gruffydd: 1. Beth yw gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer dyfodol amaeth yng Nghymru? OAQ52877

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ( 7 Tach 2018)

Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?

8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) ( 6 Tach 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma, er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil rhentu cartrefi. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno bod y darpariaethau yn angenrheidiol ar gyfer cynnal sector rhentu preifat hygyrch a fforddiadwy yng Nghymru. Fodd...

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Byddai derbyn y gwelliant hwn gan y Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn gynnig hunanglodforus braidd, sydd ond yn rhestru beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a byddai hynny wrth gwrs yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â neges ganolog adroddiad y panel rhynglywodraethol. Nid, 'Beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd?' yw'r cwestiwn. Y cwestiwn yw, 'Beth rydym yn mynd i'w wneud yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Y gwelliant cyntaf, gan y Llywodraeth—fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant 1, oherwydd ei fod yn ymgais i ailysgrifennu bach o hanes, a dweud y gwir. Datganiad syml yw e, yn nodi casgliad un o bwyllgorau'r Cynulliad yma, sef bod y Llywodraeth yn degybol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Nid oes eisiau bod yn ofn hynny. Hynny yw, os yw hynny'n debygol,...

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn siŵr ai mwynhau neu gasáu'r profiad a wneuthum mewn gwirionedd; roedd yn gwyro o un o emosiwn i'r llall, o'r consensws roedd David Melding yn sôn amdano, i rywbeth gwahanol iawn gan Lee Waters. Ond dyna ni, felly mae hi. Nid wyf yn meddwl bod y lle hwn yn ddiflas os mai dyma'r mathau o ddadleuon a gawn, ond dyna ni. Mae gormod o siaradwyr i...

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Rydw i wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen, wrth gwrs, am sut mae Plaid Cymru am weld sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, a fyddai'n cynorthwyo â'n nod ni o sicrhau bod cymaint o drydan ag sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Nawr, mae hynny'n uchelgeisiol, ond mae hynny hefyd yn bosib. Mae gwledydd eraill yn symud yn llawer cynt...

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae trafod y tywydd yn rhywbeth rŷm ni, fel Cymry, wrth ein boddau yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mae 2018 wedi bod yn fodd i fyw i nifer o bobl pan fo’n dod i’r tywydd, wrth gwrs. Rŷm ni’n cofio’r eira a’r oerfel mawr ar ddechrau’r flwyddyn, y glaw di-baid yna—rŷm ni i gyd yn cofio hynny, rydw i’n siŵr, yn y gwanwyn—haf crasboeth,...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad, 'Tai Carbon Isel: yr Her' (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Fel aelod newydd sbon o'r pwyllgor hwn nad oedd yn ddigon ffodus i glywed llawer o'r dystiolaeth a gafwyd, fe fwynheais ddarllen yr adroddiad yn fawr, a darllenais ymatebion y Llywodraeth i'r argymhellion hefyd. Mae'n amlwg ein bod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth geisio cyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd yma yng Nghymru, a bydd gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050...

3. Cwestiynau Amserol: Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Wel, mae'r erthygl gennyf yma. Rydych chi newydd ddweud wrthym y byddwch yn ystyried ymatebion, ond yma rydych yn dweud, Pan ofynnwyd iddi a fyddai'n ystyried cadw rhyw fath o daliad uniongyrchol pe bai mwyafrif helaeth yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gofyn am hynny, dywedodd: 'Na fuaswn'. Nawr, yr wythnos diwethaf yn unig roeddech yn ceisio ailysgrifennu hanes ynglŷn â'r hyn a ddywedodd...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Swyddi Mewn Ardaloedd Gwledig (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros amaeth ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddogfen o'r enw 'Brexit a'n Tir', ac mae yna gynigion penodol o fewn y ddogfen honno a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i'r economi wledig yng Nghymru. Nawr, mae'r ymgynghoriad yna yn digwydd pan nad oes yna unrhyw fath o fodelu nac...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Swyddi Mewn Ardaloedd Gwledig (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag argaeledd swyddi mewn ardaloedd gwledig? OAQ52811

3. Cwestiynau Amserol: Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (24 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw ei sylwadau yn y Farmers Guardian ar 18 Hydref, lle y dywedodd na fydd yn ystyried cynnal rhyw fath o daliad uniongyrchol i ffermwyr, hyd yn oed pe bai’r rhan fwyaf o ymatebwyr i 'Brexit a’n Tir' yn gofyn am hynny, yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru? 224

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Perfformiad Ailgylchu Cymru, Adeiladu Sylfeini Economi Gylchol (23 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn sicr, y mae angen gweithredu. Byddai rhai ohonom ni'n codi stŵr i gael mwy o weithredu nag eraill, rwy'n sicr, ond nid oes unrhyw amheuaeth bod angen inni fynd i'r afael â'r epidemig plastigau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas—cymdeithas fyd-eang—y dyddiau hyn. Ac er mor gadarnhaol y bu hanes yr awdurdodau lleol o ran ailgylchu dros y...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (17 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Un o'r trafferthion mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn anodd mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yw'r oedi mewn trosglwyddo gofal cleifion, ac nid wyf yn gwybod os gallwch chi esbonio i fi sut y gallem ni fod wedi gweld sefyllfa fel ag a welwyd yn ysbyty'r Waun yn ddiweddar, lle cymerodd hi 368 o ddyddiau i drosglwyddo un claf, yn ôl y cyngor iechyd cymunedol. Nawr, nid yn unig bod hynny'n ddrwg...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr. Nawr, mi ddywedoch chi yn ddiweddar, ac rydw i'n siŵr eich bod chi wedi rhagweld y byddai rhywun yn codi hyn—ond mi ddywedoch chi fod angen mwy o bwyslais ar ddysgu gydol oes, ac nad yw hynny yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. A allwch chi fod yn glir gyda ni, onid eich bai chi yw hynny, oherwydd chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes o fewn y Llywodraeth yma?  

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch ichi am yr eglurdeb yna, ac am dderbyn yr egwyddor, achos mae hi'n neges bwysig, rydw i'n meddwl, y mae'r sector eisiau ei chlywed. Wrth gwrs, yn ôl ColegauCymru, mae'n debyg y bydd angen £10 miliwn i dalu am godiad cyflog ar gyfer staff addysg bellach er mwyn cynnig codiad cymesur ar eu cyfer nhw. O fod yn ymwybodol o sefyllfa gyllido'r sector fel y mae hi ar hyn o bryd, mae'n debyg...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, mae athrawon mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, wrth gwrs, o 3.5 y cant, neu hyd at 3.5 y cant, ond bydd gennym ni sefyllfa wedyn lle bydd athrawon sy'n dysgu disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, tra bydd y rhai sy'n dysgu myfyrwyr chweched dosbarth mewn colegau addysg bellach, wrth gwrs, ddim yn derbyn codiad cyflog...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (16 Hyd 2018)

Llyr Gruffydd: Dyn nad oes gen i unrhyw ffydd ynddo, nac unrhyw barch tuag ato.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.