Mark Drakeford: Prynhawn da, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am y cwestiwn.
Mark Drakeford: Ers dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost i ddarparu ei rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Bydd hynny, a chamau eraill i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth, yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Mark Drakeford: The Welsh Government supports the sector to extend the tourism season, to bring tourists to new parts of Wales and to increase spend from visitors. North Wales features prominently in Visit Wales’s promotional activities and in our capital investment programme for tourism.
Mark Drakeford: We want to plant 43,000 hectares of new woodland by 2030. We are creating a national forest for Wales and have started implementing the recommendations of the deep-dive exercise into removing the barriers to planting trees.
Mark Drakeford: The Minister for Health and Social Services has discussed this review with the Welsh Ambulance Services NHS Trust. However, this remains an operational matter for the trust. Members, and others, have received a briefing from the trust’s chief executive, who has offered to discuss the implications for their constituencies.
Mark Drakeford: We are committed to improving the quality of life for people who live and work in our former coalfield communities including our Transforming Towns and Tech Valleys programme, and through funding the Coalfield Regeneration Trust. We will bring forward a coal tips safety Bill during this Senedd term.
Mark Drakeford: Llywydd, yr wyf i'n cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi. Fel yr eglurais i'n gynharach, rhan Llywodraeth Cymru yw ariannu'r gwasanaeth, ac yr ydym ni'n gwneud hynny gyda buddsoddiad ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mater i fyrddau iechyd lleol wedyn yw cynnal y trafodaethau uniongyrchol gyda'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Mae dewisiadau y bydd deintyddion yn gallu eu...
Mark Drakeford: Diolch i Paul Davies am y cwestiwn, Llywydd. Mae'r blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn sir Benfro yn cynnwys cyflwyno cam diweddaraf rhaglen frechu COVID ac adfer gwasanaethau ehangach a mwy rheolaidd yn barhaus.
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r camau diweddaraf y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd. Ymwelais ag ysgol yn fy etholaeth fy hun ddydd Gwener yr wythnos diwethaf mewn cymuned sy'n wynebu heriau mawr, lle yr oedd y croeso i'r £100 ychwanegol fesul plentyn yn gynnes iawn. Bydd wir yn caniatáu i deuluoedd gymryd rhan yn y cyfleoedd y gall yr ysgol eu cynnig...
Mark Drakeford: Llywydd, bydd ein cronfa fynediad, sy'n helpu teuluoedd gyda chost y diwrnod ysgol, yn dechrau ar ei phumed flwyddyn y mis nesaf. Dros y cyfnod hwnnw, mae wedi cael ei hehangu yn raddol. Cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg, y datblygiad diweddaraf, sef cynnydd o £100 y plentyn i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw eleni, ar 14 Mawrth.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Jack Sargeant ar y gwaith y mae wedi ei wneud ei hun gyda phobl ifanc, ac mae'n sicr y rhoddwyd mwy o frys fyth i'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn yr wythnos ddiwethaf hon gan weithredoedd cyflogwyr yn P&O. Bydd pobl o'i etholaeth, acw yn y gogledd-ddwyrain, sydd wedi ennill eu bywoliaeth yn Lerpwl, lle mae P&O yn gweithredu. Clywais y cyn Weinidog Ceidwadol Ros...
Mark Drakeford: Diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae rhoi'r warant i bobl ifanc ar waith, buddsoddi mewn sgiliau, ariannu cyfrifon dysgu personol, a gwneud Cymru yn genedl waith teg ymysg y camau yr ydym ni'n eu cymryd i gefnogi gweithwyr ifanc ym mhob rhan o Gymru.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn ychwanegol grymus yna. Wrth gwrs, mae'n iawn: yn natganiad y gwanwyn yfory, mae gan Ganghellor y Trysorlys gyfle i wneud y pethau ymarferol hynny a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau'r bobl hynny sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Ysgrifennodd fy nghyd-Weinidogion Jane Hutt a Julie James, gyda'i gilydd, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys yn Ne Clwyd. Mae'n rhaid i ddatganiad y gwanwyn yfory gynnwys camau gweithredu i roi cymorth i'r rhai sydd leiaf abl i reoli'r argyfwng yn yr agweddau mwyaf hanfodol ar fywyd bob dydd, gan ehangu mynediad at fwyd ac at danwydd i'r rhai a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i fynd hebddyn nhw.
Mark Drakeford: Wel, diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu y tro diwethaf iddo ofyn cwestiwn o'r math hwn i mi, fy mod i wedi gallu dweud wrtho fod cynlluniau i recriwtio meddygon teulu newydd i gefnogi'r gwasanaeth yng Nghaergybi, ac rwyf i o leiaf yn falch o allu dweud wrtho heddiw fod y tri meddyg teulu y disgwyliwyd iddyn nhw gael eu recriwtio bryd hynny i gyd wedi eu recriwtio erbyn hyn, ac ymunodd yr...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Llywydd, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar draws Cymru. Yn y canolfannau hyn, bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu lleoli gyda gwasanaethau eraill. Mae'r bwrdd prosiect sy'n arwain y drafodaeth am ddatblygiad o'r fath yng Nghaergybi yn parhau i gwrdd...
Mark Drakeford: Wel, rwyf yn llongyfarch cyngor Casnewydd. Dros y degawd diwethaf, mae wedi sefyll allan fel un o'r awdurdodau hynny sydd wedi cymryd amrywiaeth o gamau i ganolbwyntio ar helpu teuluoedd i fynd drwy'r adegau anodd hynny y mae pob teulu yn eu hwynebu, a lle mae trwsio'r difrod hwnnw, yn hytrach nag achub plant ohono, er budd hirdymor y plentyn. Ac mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Prosiect...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae pethau rydym ni eisoes yn eu gwneud fel Llywodraeth. Mae hynny'n cynnwys y pwyslais y mae fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi ei roi i wneud hyn dros y tair blynedd diwethaf. Mae'n cynnwys gweithio gyda'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, i hyrwyddo'r pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'n drawiadol i mi, yn sir...
Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr i Rhys ab Owen.
Mark Drakeford: Mae hwn yn fater pwysig iawn o bolisi cyhoeddus yma yng Nghymru ac mae'n llygad ei le: mae'r gwahaniaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn drawiadol iawn ac, yn fy marn i, yn ateb y pwynt sy'n cael ei wneud weithiau mai'r cwbl y mae'r ffigurau yn ei adlewyrchu yw gwahanol amodau economaidd-gymdeithasol mewn gwahanol rannau o Gymru. Pe bai hynny yn wir, sut byddai hynny'n esbonio...