Mike Hedges: Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ein hymchwiliad i bolisïau coetiroedd yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor, Mark Reckless, a chyn-aelodau'r pwyllgor, Vikki Howells, Siân Gwenllian a Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn, a chafodd y rhan...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am arolygiadau Estyn yng Nghymru?
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i atal diabetes math 2 yng Nghymru?
Mike Hedges: Mae iechyd yn fwy nag ysbytai ac achosion brys; mae'n ymwneud â dewisiadau o ran ffordd o fyw. Mewn treialon, cafodd hanner y bobl a oedd wedi bod â diabetes math 2 ers llai na chwe blynedd eu gwella gan ddeiet yn unig. Rydym ni'n gwybod pa mor niweidiol yw ysmygu a pha mor bwysig yw deiet ac ymarfer corff. Trwy weithio gyda meddygon teulu, gallwn wella iechyd. Hoffwn ofyn am ddatganiad ar...
Mike Hedges: Diolch am eich ateb, Brif Weinidog. Nawr, yn Saesneg.
Mike Hedges: Ceir tair lefel ar gyfer datblygu tair lefel o siaradwyr Cymraeg: yn dilyn y gwelliant aruthrol i addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, ni ddylai unrhyw blentyn adael yr ysgol gynradd fel siaradwr uniaith Saesneg, nad oedd yn wir pan oeddwn i yn yr ysgol; y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion trwy gyfrwng y Gymraeg; a'r rhai sy'n astudio'r Gymraeg yn y brifysgol. Pa...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr hyn sy’n gyfystyr â siaradwr Cymraeg yn y cynlluniau i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ51445
Mike Hedges: Nid wyf yn siŵr y byddai'n cytuno â chi.
Mike Hedges: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau band eang yn Nwyrain Abertawe?
Mike Hedges: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Mike Hedges: A ydych chi wedi darganfod erioed ble mae’r pwynt croesi?
Mike Hedges: Er fy mod i yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cydnabod bod y cyllid yn annigonol ar gyfer anghenion Cymru. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar yr Ysgrifennydd Cyllid na chwaith ar Lywodraeth Cymru; mae hyn oherwydd y grant bloc annigonol gan y Torïaid yn San Steffan. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi—ac rydym wedi clywed rhywfaint ohono eisoes—rwy'n disgwyl clywed y Torïaid yn galw am...
Mike Hedges: Roeddwn yn mynd i ofyn: a yw hynny'n wir hefyd am y fargen rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP?
Mike Hedges: A yw hynny'n golygu Hinkley Point?
Mike Hedges: Maniffesto etholiad cyffredinol ydoedd, a phe bawn wedi ennill yr etholiad cyffredinol, buasai wedi cael ei godi. Buasai wedi cael ei godi yn Lloegr, Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Dyna'r pwynt—
Mike Hedges: Oherwydd os gwnewch hynny, rydych yn mynd i achosi diswyddiadau. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi cael pethau'n hollol iawn drwy ofyn am gefnogaeth i'w godi ac y dylai'r arian ddod o San Steffan. Roeddem yn mynd i—. Mae'n ddrwg gennyf—
Mike Hedges: Roedd Llafur yn mynd i wneud y pethau hyn pe bawn wedi ennill yr etholiad cyffredinol. Rhoesoch lawer o bethau yn eich maniffesto ar gyfer etholiad diwethaf y Cynulliad. A ydym yn eich dwyn i gyfrif am y rhai nad ydych wedi'u cyflawni am nad ydych mewn grym? A gaf fi wneud un pwynt pwysig iawn i gloi? Yn dilyn y ddadl ddoe ar entrepreneuriaeth, oni bai y gwneir y contractau'n ddigon...
Mike Hedges: Wel, nid yw hynny'n wir, ydy e? Nid wyf yn meddwl fod unrhyw un yn credu hynny—y darn am adael cyni ar ei ôl. Hynny yw—
Mike Hedges: Ymddengys bod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan bellach yn derbyn cynnydd twf isel, cynhyrchiant isel a diffyg twf neu ostyngiad mewn cyflogau real i'r mwyafrif fel math newydd o realiti economaidd. A gaf fi ddweud o'r cychwyn nad wyf yn derbyn hynny? Mae cynhyrchiant isel yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau'r Llywodraeth. Mae cyflogau'n isel; mae'n hawdd cyfyngu ar oriau neu...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, gwyddom fod hyn yn ymestyn ar hyd a lled Cymru. Cawsom Siân Gwenllian o'r gogledd, cawsom Jayne Bryant o'r dwyrain, cawsom Dawn Bowden, Mick Antoniw a David Melding o Ganol De Cymru, cawsom Russell George o ganolbarth Cymru a minnau o Abertawe. Mae'n broblem ledled Cymru gyfan, ac mae hwnnw'n bwynt y credaf ein bod wedi llwyddo i'w gyfleu. Cawsom Gareth...