Russell George: Buaswn yn cytuno â chi, Weinidog, fod adroddiad AGGCC ar wasanaethau plant ym Mhowys yn fater difrifol tu hwnt. Mae’n adroddiad damniol ac yn anghysurus i’w ddarllen, ac mae’n tynnu sylw at nifer o fethiannau hanesyddol sydd wedi golygu bod diogelwch a lles plant wedi cael eu peryglu. Mae’r adroddiad yn codi nifer o bryderon difrifol iawn am adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys,...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, mae problemau’n bodoli o hyd ar gyfer ffermwyr trawsffiniol, o ganlyniad i ddiffyg ymgysylltu adeiladol, weithiau, rhwng asiantaethau taliadau Cymru a Lloegr. Mewn cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol ar faterion trawsffiniol, a gadeiriais yn gynharach eleni, ymrwymodd prif weithredwyr yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Taliadau Gwledig Cymru i gynnal cyfarfodydd ar y...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Rhentu Doeth Cymru?
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Diolch i chi, Llywydd. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau ar ddechrau ei gyfraniad? Fel pwyllgor, wrth gwrs, rydym yn falch eich bod wedi derbyn ein hargymhellion, ond rydym yn falch iawn eich bod o ddifrif ynglŷn â’r mater hwn, ac rydym yn ddiolchgar eich bod wedi derbyn casgliadau ein hadroddiad. Adam Price—roedd ei brofiad fel person iau yn cyd-daro...
Russell George: Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig. Pan fyddwn yn sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn bennaf rydym yn sôn am fysiau. Teithiau bws yw dros 80 y cant o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond dros y degawd diwethaf, mae gwasanaethau bws wedi gostwng bron i hanner. Os edrychwn ar y ffigurau rhwng 2005 a 2016 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, maent yn dangos i ni fod...
Russell George: Wel, tybed beth fyddai’r diwydiant twristiaeth yn ei wneud o’ch ateb. Yr hyn y byddwn yn ei ofyn yw: pa waith ymgynghori a wnaethoch gyda’r diwydiant twristiaeth, neu yn wir, a ymgynghorodd eich cyd-Aelodau yn y Cabinet â chi o gwbl ynglŷn â hyn mewn gwirionedd? Mae’n rhaid i mi ddweud, mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain wedi dweud y bydd treth dwristiaeth, ac rwy’n dyfynnu, yn...
Russell George: Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn innau’n dweud ein bod wedi clywed y Prif Weinidog ddoe yn rhoi ei gefnogaeth i dreth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’n ddigon posibl fod cyflwyno treth dwristiaeth yn cael yr effaith a ddymunir mewn gwledydd â threthi gwerthiant isel, ond yng Nghymru lle y mae’r gyfradd lawn o dreth ar werth yn cael ei chodi ar lety, ar brydau bwyd ac atyniadau,...
Russell George: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai teulu o bedwar o ogledd-orllewin Lloegr yn ystyried mynd ar wyliau naill ai i Fae Colwyn neu i Fae Morecambe, gyda’r gwestai a’r cyfleusterau’n debyg iawn o bosibl, a chydag un ohonynt yn codi treth dwristiaeth, pa leoliad y credwch y byddai’r teulu hwnnw’n ei ddewis?
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw, lle rydych chi'n dweud eich bod wedi ymrwymo, wrth gwrs, i'r egwyddorion sydd wedi tanategu'r cynllun teithio ar fysiau am ddim? Mae hwn wedi bod yn bolisi blaenllaw, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru, ac roedd eich rhagflaenydd Mrs Hart yn arbennig o ymroddedig i egwyddor cymhwyster cyffredinol. Felly,...
Russell George: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n annog busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i archwilio cyfleoedd i allforio i Iran. Nawr, pan gyfarfûm â busnes gweithgynhyrchu ddoe, dywedasant wrthyf ei bod hi'n amhosibl cael eich talu gan fanciau Iran gan fod Iran yn dal i fod wedi ei chloi allan o'r system ariannol fyd-eang. O gofio bod eich Llywodraeth yn annog busnesau Cymru i allforio i...
Russell George: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, sy'n tanlinellu, byddwn i’n dweud, yr angen am weithio llawer agosach rhwng Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Codwyd cwestiynau difrifol gan yr adolygiad hwn ynghylch pam y caniatawyd i Chwaraeon Cymru ddatblygu i fod mor gamweithredol. Bellach, mae'n amlwg bod angen mwy o integreiddio...
Russell George: Prif Weinidog, roeddwn i’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd gorsaf Carno yn cael ei chynnwys yn y broses asesu cam 2 bresennol ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru. Bydd deiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yfory gan grŵp gweithredu gorsaf Carno, 10 mlynedd ar ôl y ddeiseb gyntaf, yn annog y Llywodraeth i ailagor gorsaf Carno o fewn cyfnod o bum...
Russell George: Diolch i chi, Llywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma? I dynnu sylw at ychydig o bwyntiau fy hun, gwnaeth Jenny Rathbone rai pwyntiau am gynnwys y cyhoedd, ac roedd y pwyllgor yn cytuno’n bendant fod proses y ddeialog gystadleuol yn ei gwneud hi’n anodd i’r cyhoedd ymgysylltu a chyfranogi. Cafodd hyn ei nodi yn sicr. Rydym yn...
Russell George: Gwnaf.
Russell George: Buaswn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ymateb i’r pwynt penodol hwnnw pan ddaw i roi ei gasgliadau. Mae yna gwestiynau’n aros—neu efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ateb y cwestiynau i gyd heddiw. Ond mae pa rôl y mae’r Llywodraeth eisiau i Trafnidiaeth Cymru ei chwarae yn gwestiwn arall hefyd, a sut y bydd yn sicrhau bod gan Trafnidiaeth Cymru ddigon...
Russell George: Yn olaf, yn yr ymateb—argymhelliad 14—ceir awgrym cryf efallai fod Llywodraeth Cymru yn ailfeddwl ynglŷn â chludo nwyddau ar gledrau craidd y Cymoedd. Dyma gam a allai gael effaith ganlyniadol sylweddol ar fusnesau sydd eisiau defnyddio’r rheilffyrdd i symud nwyddau i mewn neu allan ar y rheilffyrdd yn y dyfodol, a lleihau cyfleoedd i symud trafnidiaeth cludo nwyddau oddi ar ein...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Mewn cwta 13 mis, bydd y gwaith o weithredu’r rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn trosglwyddo i fasnachfraint newydd. Mae hon yn foment gyffrous ac yn un sy’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer pennod newydd ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a’r gororau. Ac mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cael...
Russell George: Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd tref hynafol Trefaldwyn yn paratoi i droi’r cloc yn ôl 750 o flynyddoedd i ddathlu arwyddo Cytundeb Trefaldwyn. Ar 29 Medi 1267 arwyddodd Brenin Lloegr, Harri III, a Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd, gytundeb i gydnabod mai Llywelyn oedd Tywysog Cymru. Rhoddai cytundeb 1267 Lanfair-ym-Muallt, Aberhonddu a Chastell Whittington yng nghanolbarth Cymru...
Russell George: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddom, datblygu economaidd yw asgwrn cefn goroesiad economïau gwledig. Roeddwn yn falch o weld y Prif Weinidog yn cadarnhau, yn ei ddatganiad ar y strategaeth genedlaethol yr wythnos diwethaf, y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried creu bargen dwf i ganolbarth Cymru er mwyn cefnogi economi’r rhanbarth. Felly, ar y sail honno, a gaf i ofyn...