Nick Ramsay: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0231(FM)
Nick Ramsay: Mae’r cwestiwn ynglŷn â senedd ieuenctid—neu gynulliad ieuenctid yn wir, fel y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, ac fel y byddwn i’n ei ffafrio hefyd rwy’n meddwl—yn un sydd wedi’i drafod sawl gwaith yn y Cynulliad hwn gan nifer o gyn-Aelodau Cynulliad ac Aelodau presennol dros y blynyddoedd, ond nid ydym erioed wedi cyrraedd yno’n iawn—ddim eto, yn sicr. Mae hyn yn y pen draw yn...
Nick Ramsay: Gan eich bod wedi crybwyll fy nghydweithiwr yn Sir Fynwy, Peter Fox, Weinidog, rwy’n credu y byddwch yn cofio hefyd ei fod yn un o’r bobl gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, neu un o’r swyddogion etholedig cyntaf, i alw am y model awdurdodau cyfunol a roddwyd ar waith mewn ardaloedd megis Manceinion Fwyaf. Rwy’n credu ei fod wedi galw amdano cyn i Blaid Cymru sôn am y math hwnnw o fodel hyd...
Nick Ramsay: Fe ragwelais fod hyn yn ôl pob tebyg cyn eich datganiad yn ddiweddarach heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fel y dywedais, mae’n fater pwysig iawn i awdurdodau lleol, felly mae angen ei wyntyllu ar y cyfle cyntaf. Clywaf yr hyn rydych newydd ei ddweud. Mae cyllid gwaelodol, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, yn iawn, ond fel y gwyddom o brofiad gyda Barnett, gellid ystyried cyllid...
Nick Ramsay: Diolch. Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig iawn i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ariannol. Mae’r rhaglen lywodraethu’n ymrwymo i gyllid gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer awdurdodau gwledig sydd wedi cael bargen waelach yn gyson, am ba reswm bynnag—efallai y bydd gennych chi a minnau syniadau gwahanol am y rhesymau dros...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y dywedodd Sian Gwenllian, mae eich cytundeb cyllideb, a gyhoeddwyd ddoe, yn cynnwys cyllid ychwanegol o £25 miliwn i awdurdodau lleol, ond daw hyn yn sgil y £761 miliwn o ostyngiad mewn termau real mewn cyllid allanol cyfun, fel y nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hynny rhwng 2011 a 2016-17. Sut rydych chi’n mynd i sicrhau bod yr arian...
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio. Rwy’n credu bod tua thair blynedd bellach ers i mi fod yn holi’r Aelod dros Lanelli mewn bywyd blaenorol, pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes ac yntau’n rhoi tystiolaeth ar ran Sustrans. Felly, mae tair blynedd wedi mynd heibio ac roeddem yn siarad am hyn i gyd bryd hynny. Mae hyn i gyd yn wych, ond beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad...
Nick Ramsay: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er, mae’n rhaid i mi gyfaddef mai arfordir byr iawn sydd yna yn fy etholaeth, sef safle picnic Black Rock—[Chwerthin.]—safle rwy’n ei fwynhau, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno fod arfordir Cymru yn eiddo i bob un ohonom. Mae llawer o fy etholwyr yn mwynhau ymweld â’r arfordir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Yn ddiweddar, mynychais ddigwyddiad yr...
Nick Ramsay: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi arfordir Cymru? OAQ(5)0048(ERA)
Nick Ramsay: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn dweud yn eich datganiad bod gwelliannau i gyfraddau cyflogaeth ers 2000 yn un o lwyddiannau mawr y cronfeydd strwythurol. Byddwn i’n cytuno eu bod wedi chwarae eu rhan, ynghyd ag elfennau eraill. Byddwn i’n awgrymu bod polisi economaidd Llywodraeth y DU, yn ystod yr ychydig flynyddoedd...
Nick Ramsay: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Awgrymwyd gennych efallai mai dyna fyddai’r achos yr wythnos diwethaf. Ceir pryder cynyddol yn y de-ddwyrain gyda chyfradd y cynnydd gyda'r ganolfan gofal critigol arbenigol, a gynlluniwyd gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl. Rydych chi wedi dweud bod y wybodaeth honno yn mynd i fod ar gael i’r Ysgrifennydd iechyd yn y dyfodol agos. A wnewch chi yr hyn a allwch i...
Nick Ramsay: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer datblygu'r Ganolfan Gofal Critigol Arbenigol yn Llanfrechfa? OAQ(5)0190(FM)
Nick Ramsay: A wnaiff yr Aelod ildio?
Nick Ramsay: Rwy’n falch eich bod wedi crybwyll ardaloedd gwella busnes. Yn achos y Fenni, a grybwyllwyd yn gynharach, pleidleisiodd y busnesau lleol yno yn erbyn cael ardal gwella busnes mewn gwirionedd, felly a ydych yn derbyn nad dyna’r unig ateb ledled Cymru ar gyfer gwella masnach mewn trefi?
Nick Ramsay: I mi, mae’r rhan bwysicaf o'r ddogfen hon mewn gwirionedd ar y dudalen olaf, a’r paragraff 'Bwrw ati i Gyflawni’. Nawr, rwy’n gwybod bod Aelodau eraill, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wedi beirniadu hyd y ddogfen hon, ond, i fod yn onest, byddai'n well gen i weld ychydig o dargedau yn cael eu bodloni na llawer o dargedau yn cael eu colli. Felly, mae cyflwyno yn allweddol yma—...
Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid bod tua 10 mlynedd erbyn hyn ers i mi fynychu cyfarfodydd Dyfodol Clinigol Gwent am y tro cyntaf ynglŷn ag adeiladu canolfan gofal arbenigol a chritigol yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Dyma ni 10 mlynedd yn ddiweddarach a, heblaw am ychydig o waith paratoi, rydym yn dal i fod heb yr adeilad hwnnw mewn unrhyw ystyr gwirioneddol. Bu dryswch o'r newydd...
Nick Ramsay: Brif Weinidog, rwy’n cytuno’n llwyr â chi mai'r peth olaf sydd ei angen arnom yw i'r taliadau PAC presennol gael eu gwasgu drwy yr hyn y gellir ond ei alw’n 'fangl Barnett'. Mae hyn yn creu’r risg o danariannu Cymru yn y dyfodol, mwy nag yr ydym ni wedi ei weld eisoes. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch creu system o gymorth i ffermydd nad yw'n...
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Bethan. Rwy’n cytuno â chi o ran cyfleu neges ynglŷn â’r hyn rydym am ei gyflawni. Fe sonioch am y ddeddfwriaeth iechyd meddwl y mae’r Cynulliad wedi ei phasio. Mae yna, wrth gwrs, fyd cyfan o wahaniaeth rhwng gwneud deddfwriaeth a sicrhau mewn gwirionedd fod canlyniadau’r ddeddfwriaeth honno yn digwydd ar lawr gwlad. Sut rydych chi’n mynd i wneud yn...
Nick Ramsay: A wnaiff yr Aelod ildio ar y pwynt hwnnw?
Nick Ramsay: Diolch. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a fynychodd ddigwyddiad Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn y Pierhead. Rwy’n credu eich bod chi yno, ynghyd â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau, sydd ar y dde i mi. Cawsom fwynhau rhai o fwydydd ysgol gorau Cymru, gan gynnwys jam roli-poli, tikka masala ac wrth gwrs, pwdin eirin. Cafodd Aelodau...