Jeremy Miles: Wel, efallai ei bod hi'n teimlo ei bod yn gweithio ac yn byw mewn swigen; yn sicr, nid wyf fi'n teimlo hynny. Y pwynt am y Ddeddf yw ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i restr siopa wythnosol pobl. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau bod bwyd o'r safon y mae cynhyrchwyr Cymru a defnyddwyr Cymru yn gyfarwydd â hi, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Os oes gennych...
Jeremy Miles: Wel, dwi wedi bod yn glir am hyn mewn amryw o gyd-destunau, fy mod i'n credu y dylem ni gael cymaint o bwerau ag y mae pobl Cymru eisiau eu cael yng Nghymru o dan reolaeth y Senedd ac o dan reolaeth y Llywodraeth, o ran Gweinidogion ac ati, yma yng Nghymru. Felly, mae hynny yn sicr yn egwyddor, buaswn i'n dweud, sydd ddim yn un dadleuol iawn bellach. Beth rŷn ni wedi'i weld yn sgil ymgais y...
Jeremy Miles: Mae'n glir bod y Ddeddf yn creu ansicrwydd yn nhermau gallu'r Senedd i ddeddfu. Felly, yn sgil hynny, rwyf wedi dechrau achos llys yn y llys gweinyddol yma yng Nghaerdydd am gydsyniad y llys i edrych ar effaith y ddeddfwriaeth ar ein Senedd ni.
Jeremy Miles: Wel, mae'r cyfrifoldeb am y rhwystrau newydd i allforio a chludo llwythi drwy ein porthladdoedd yn ganlyniad uniongyrchol i flaenoriaethau gwleidyddol Llywodraeth y DU yn y cytundeb masnach a chydweithredu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n amlwg fod rhwystrau newydd i fasnachu wedi'u cyflwyno ar 1 Ionawr. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud serch hynny yw ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith fel...
Jeremy Miles: Wel, diolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw sy'n tynnu sylw at fater pwysig iawn. Fe fydd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r hyn sy'n cyfateb i'r cynlluniau masnachwyr dibynadwy sydd wedi'u cyflwyno fel rhan o'r trefniadau newydd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'r rheini'n tueddu i fod yn gwmnïau mwy yn hytrach na llawer o'r cwmnïau llai a chanolig eu maint y mae ei gwestiwn yn cyfeirio...
Jeremy Miles: Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun gweithredu newydd gennym ar gyfer allforio, sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i allforwyr Cymru i'w helpu i ddeall a llywio'r rhwystrau newydd i allforio i'r UE o ganlyniad i'r penderfyniad i adael yr undeb tollau a'r cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU.
Jeremy Miles: Byddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad Janet Finch-Saunders, a maddeuwch imi, roeddwn yn tybio ei bod yn ymwybodol o gynnwys cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, sy'n nodi popeth rydym yn ei wneud yn eithaf manwl. Ond beth bynnag, fe'i cyfeiriaf at gynnwys hwnnw am fanylion. O ran y pwynt penodol y mae'n ei wneud, roeddwn yn ystyried ei disgrifiad o'r rhain fel 'trafferthion cychwynnol'...
Jeremy Miles: Wel, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector amaethyddol, a chyda phob sector arall yn wir, i ddeall y rhwystrau newydd i fasnachu y mae dewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnynt. Wrth gydnabod bodolaeth cytundeb heb dariffau a heb gwotâu, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Aelod fod yn eithaf clir ynglŷn â'r ffaith bod cymhlethdod y berthynas fasnachu rhwng ein...
Jeremy Miles: A gaf fi groesawu Janet Finch-Saunders yn gyntaf i'w chyfrifoldebau newydd? I ddechrau, hoffwn ddweud ein bod yn amlwg yn croesawu argaeledd y swm hwn o arian. Nid yw'n gronfa sydd wedi'i chyd-gynllunio, fel y dylai fod, gyda'r Llywodraethau datganoledig, ac mae'r manylion ynglŷn â chymhwysedd a chyflwyno yn parhau, rwy'n credu, i fod yn amwys iawn ar hyn o bryd, felly rydym yn gweithio ac...
Jeremy Miles: Nid ydynt wedi mynd i'r gwellt; maent yn ffrwyth cydweithredu sylweddol iawn â'r sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, prifysgolion, ac yn y blaen, ym mhob rhan o Gymru, ac maent yn parhau i fod yn uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, ac mewn unrhyw ffordd arall yn wir. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid...
Jeremy Miles: Mae Dai Lloyd yn codi pwynt pwysig iawn yn ei gwestiwn. Mae'r cytundeb yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraethu'r berthynas yn y dyfodol. Yn gyffredinol, ar wahân i un cyd-destun, rwy'n credu, nid yw'r sefydliadau datganoledig wedi'u cynnwys yn benodol yn hynny. Ac mae un o'r pwyntiau rwyf wedi'i wneud eisoes i Weinidogion y DU yn ymwneud â sicrhau bod gan Gymru'r...
Jeremy Miles: Yn sicr. Wel, bydd yr Aelod yn amlwg yn deall na fyddwn eisiau datgelu manylion sgyrsiau rhwng swyddogion y gyfraith mewn gwahanol rannau o'r DU. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth gwrs y bydd wedi nodi o'r plediadau o bosibl ein bod wedi cydnabod bod gan swyddogion y gyfraith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiddordeb yn yr ystyr bod ganddynt ddiddordeb yn y canlyniad. Mae Llywodraeth yr Alban,...
Jeremy Miles: Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am ei chefnogaeth hirsefydlog i achos undebaeth lafur hefyd. Credaf y bydd gweithwyr ledled Cymru a'r DU yn gwbl siomedig fod Llywodraeth y DU, ar anterth pandemig ac argyfyngau economaidd, yn credu ei bod yn briodol mewn unrhyw fodd o gwbl i ystyried torri amddiffyniadau sylfaenol ar amser gweithio a hawliau tâl gwyliau. Rydym eisiau i...
Jeremy Miles: Rydym wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth y DU, drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ac mewn trafodaethau dwyochrog, fod yn rhaid i'r DU ymrwymo i gadw at y safonau a'r hawliau cyflogaeth presennol. Mae'n rhaid i'r DU gadw at y rhwymedigaethau y mae wedi cytuno iddynt yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng yr UE a'r DU.
Jeremy Miles: Yn sicr. Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt y mae David Rees yn ei godi yn ei gwestiwn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu, ac yn parhau i wneud popeth yn ein gallu, i gefnogi dur a gynhyrchir ym Mhrydain, a dur a gynhyrchir yng Nghymru yn ein hachos ni wrth gwrs. Un o'r ystyriaethau rydym yn bryderus yn ei chylch yw mai un o ganlyniadau'r trefniadau diogelu sydd ar waith ar...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. O ran cefnogi'r sector dur yng Nghymru, er mwyn ymateb i'r trefniadau newydd, un o'r ystyriaethau cyntaf rydym angen eglurder yn ei gylch gyda'r sector yw'r mesurau diogelu sy'n berthnasol ar hyn o bryd i ddiogelu symiau penodol o allforion dur i'r UE. Daw'r mesurau diogelu hynny i ben, fel y gŵyr yr Aelod efallai, ym mis Mehefin eleni, ac rydym yn gofyn am eglurhad ar...
Jeremy Miles: Wel, o ran diweddaru’r diwydiant ar weithrediad y trefniadau di-dariff, yn amlwg, bydd yn gwybod y bydd adeg ym mis Mehefin eleni pan fydd angen egluro’r trefniadau diogelu, ac rydym yn pwyso fel Llywodraeth am eglurhad ar unwaith gan—[Anghlywadwy.]
Jeremy Miles: Rydym yn deall bod y diwydiant dur ac undebau wedi rhoi croeso gofalus i’r cytundeb cydweithredu masnachol rhwng yr UE a’r DU. Rydym yn croesawu’r cwotâu di-dariff y cytunwyd arnynt ar gyfer allforion dur Prydain i’r UE, ond rydym yn rhannu pryderon y diwydiant fod capasiti gwerthiannau i Ogledd Iwerddon yn cyfrif yn erbyn y cwotâu hyn.
Jeremy Miles: The trade disruption we are now seeing was an inevitable consequence of the UK Government’s approach to trading with the EU. We are pressing UK Ministers to do everything possible to help businesses navigate this new bureaucracy and limit the damage to EU-facing businesses and ports, including the port of Holyhead.
Jeremy Miles: Byddai angen mandad tebyg, gyda llaw, ar gyfer y rhai sy'n ceisio tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Nid ydym am i hynny ddigwydd am y rhesymau a amlinellais yn gynharach. Cymru gref y mae ei llais wedi'i glywed a'i hanghenion yn cael eu hadlewyrchu—ac yn sicr wedi'u clywed a'u hadlewyrchu'n well na heddiw—mewn DU gref yw'r hyn rydym am ei weld. Nid dyma'r amser, mor fuan ar ôl i...