Siân Gwenllian: Sut yn union fydd y cynnydd mewn darpariaeth yn cyfrannu at y strategaeth 1 filiwn o siaradwyr gan y Llywodraeth felly? Hynny yw, a oes gennych chi darged penodol o fewn y maes addysg i blant tair i bedair oed ynglŷn â faint o weithlu sydd ei angen er mwyn darparu addysg ddwyieithog yn y dyfodol?
Siân Gwenllian: Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Er bod y ddadl yma am wasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl hŷn, mae o ddiddordeb i ni i gyd, wrth gwrs, ac am y math o wlad yr ŷm ni am ei chreu yng Nghymru. Pa fath o wlad yr hoffem ni dyfu’n hen ynddi? Wel, dyna ydy’r cwestiwn y mae angen i ni i gyd fod yn ei ystyried. Mae’r adroddiad yn tanlinellu gwerth cael...
Siân Gwenllian: Rwy’n mynd i ddatgan diddordeb cyn siarad ar hwn, achos mae gen i nifer o aelodau o’r teulu yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ond mae yna nifer o gwestiynau yn dal i godi yn fy meddwl i ers iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cais am filiynau o bunnoedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer prosiect sy’n cynnwys adleoli 55 o swyddi S4C i Gaerfyrddin....
Siân Gwenllian: Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod angen i ni fod yn gwbl eglur, ac yn gwbl dryloyw, ynglŷn â’r achos yma. Mae yna dipyn o ddiddordeb ynddo fo. Roeddech yn sôn bod diffyg ariannol ar gyfer y cynllun yma. Pryd ddaeth hynny i’r amlwg, ac ydy hynny yn wahanol i’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ers dwy flynedd? A ydym ni’n sôn am rywbeth newydd, mwy diweddar...
Siân Gwenllian: Mae’r gwasanaeth llinell gymorth cenedlaethol, Byw Heb Ofn—Live Fear Free, wedi’i leoli yn fy etholaeth i, digwydd bod, a ddoe ces i gyfle i ymweld â’r adnodd hollbwysig yma. A gyda llaw, dyma i chi enghraifft o wasanaeth hollol ddwyieithog sy’n gwasanaethu Cymru gyfan o’r tu draw i Gaerdydd, a hynny mewn ffordd lwyddiannus iawn, ac mae’r gwasanaeth wedi ennill nifer o wobrau...
Siân Gwenllian: Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud er mwyn newid y canfyddiad fod Llywodraeth Cymru ddim ond yn berthnasol i Gaerdydd a de Cymru?
Siân Gwenllian: Y flwyddyn yma, fe gyflwynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin, o dan arweiniad Plaid Cymru, gynllun i gyflwyno 1,000 o dai fforddiadwy newydd dros y pum mlynedd nesaf. Fel rhan o’r cynllun, mae ganddyn nhw amrywiaeth o ffyrdd i gyflawni hynny: rheoli tenantiaethau ychwanegol yn y sector preifat, dod â mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd, a phrynu cartrefi preifat newydd er mwyn eu rhentu nhw. A ydych...
Siân Gwenllian: Mae angen rhwng 15,000 a 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnon ni bob blwyddyn, dros gyfnod o 30 mlynedd, os ydym yn mynd i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr. Ac mae hynny ar ben mynd i’r afael â’r nifer sy’n gadael cymunedau Cymraeg a Chymru. Mae rôl addysg yn gwbl allweddol i gyrraedd y nod. Bellach, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr...
Siân Gwenllian: Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad sefyllfa byd natur, adroddiad sydd wedi’i lunio ar y cyd gan dros 50 mudiad natur. Mae’r ail adroddiad pwysig yma yn darparu sylfaen dystiolaeth ar sefyllfa ein byd natur ni ac yn darparu sail ar gyfer gwneud rhywbeth am hyn ac ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fel y dywedodd Simon, nid yw’n gwneud darllen cyfforddus mewn mannau, ond mae angen...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym Mharc Busnes Bryn Cegin ger Bangor?
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brentisiaethau yng Nghymru?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, a diolch am y drafodaeth. Rwyf i yn cytuno â’r siaradwr cyntaf, Janet Finch-Saunders, fod angen inni fod yn atebol i bobl Cymru. I mi, mae gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd hollol glir o fod yn atebol i bobl Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad ni i hynny. Nid oes yna ddêl efo Llafur. Beth sydd wedi digwydd ydy bod Llafur...
Siân Gwenllian: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn ganolog i genedl y Cymry. Dyma’r glud sydd yn clymu ein cymdeithas ynghyd. Mae Plaid Cymru wastad wedi sefyll dros wasanaethau cyhoeddus, dros y bobl sy’n eu cyflwyno, a dros y cymunedau a’r aelwydydd sy’n eu derbyn. Mae’r sector cyhoeddus yn bartner hanfodol i’r sector preifat i wneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus,...
Siân Gwenllian: Mae’n bleser gen i siarad fel aelod o’r pwyllgor. Rwy’n croesawu’r darn pwysig o waith y bydd y pwyllgor yn ei wneud ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sydd yn ceisio lloches. Mae gennym ni bron 3,000 o bobl yng Nghymru yn chwilio am loches, sydd yn cynrychioli 0.1 y cant o’r boblogaeth—ffigwr bychan iawn ond carfan bwysig a bregus sy’n haeddu ein...
Siân Gwenllian: Iawn, diolch yn fawr. Yn y naratif ar y gyllideb a gafodd ei gyhoeddi ddoe, rydych chi’n sôn bod y Llywodraeth am gymryd camau pellach i leihau baich gweinyddol llywodraeth leol, drwy gyfuno grantiau a symud cyllid o grantiau penodol i gronfeydd heb eu neilltuo, drwy’r grant cynnal refeniw. Pa gamau y mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd tuag at y nod yma?
Siân Gwenllian: Diolch. Fel cyn-aelod cyllid ar gabinet Cyngor Gwynedd, rydw i’n falch iawn o weld bod yna ddechrau, rŵan, diwygio ar y fformiwla a bod yr elfen wledig o wariant gwasanaethau cymdeithasol yn gallu amrywio a bod yn bwysau ychwanegol, wrth gwrs, ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig. Mae yna ffyrdd eraill o ddiwygio’r fformiwla, ac mae sawl grŵp, megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru...
Siân Gwenllian: Rydw i’n gweld bod y fformiwla wedi cael ei diwygio. A fyddwch chi’n gallu ymhelaethu, os gwelwch yn dda, ar sut yn union mae hynny wedi cael ei gyflawni?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno’r gyllideb ddrafft ddoe. Da iawn oedd gweld nifer o flaenoriaethau Plaid Cymru yn cael eu hadlewyrchu ynddi hi, gan gynnwys £25 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol. Fel y gwyddoch chi, mae awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi dioddef o doriadau cyllidebol difrifol dros y blynyddoedd diwethaf,...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gweithlu Awdurdod Cyllid Cymru?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma er mwyn trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn innau ddiolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Adroddiad sy’n edrych yn ôl ydyw hwn, a, phwysiced ydy hynny, roeddem ni’n awyddus i symud y drafodaeth ymlaen. Felly, dyna pam ddaru Plaid Cymru gyhoeddi nifer o welliannau ar gyfer y...