Canlyniadau 1001–1020 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Capasiti Ffyrdd a Rheilffyrdd Pencoed (29 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: 1. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch materion capasiti ffyrdd a rheilffyrdd Pencoed? OAQ53287

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Darren, am gymryd yr ymyriad. Rydych yn gwneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Nid ydym yn gwybod sut y mae'r bleidlais yn mynd i fynd heddiw, ond a gaf fi ofyn iddo: pe bai'r bleidlais yn mynd—. Os na fwrir ymlaen â'i gynnig ar gyfer Bil—ac yn seiliedig ar y cynnig i ddatblygu nid yn unig yr hyn sydd o fewn ysbryd a bwriad a manylion ei gynnig, ond hefyd yr...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Suzy. A fyddai—? Mae'n ddrwg gennyf, dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael i'ch croesawu'n ffurfiol i'ch swydd, a gwn y byddwch yn gwneud gwaith gwych, gwaith gwirioneddol wych. A gaf fi ofyn, er hynny—? Y prawf asid—ai deddfwriaeth neu agenda bresennol y Llywodraeth o wneud yr hawliau hyn yn real—yw pan fyddwch yn cerdded i ganol grŵp o bobl hŷn ac maent yn dweud wrthych,...

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am ildio, ac rwy'n ymddiheuro am ddod i mewn yn hwyr. Roeddwn yn gwylio ar y monitor—. Lywydd, fy ymddiheuriadau; aeth fy amseru rhwng y cŵn a'r brain. Ond rwyf wedi gwrando'n llawn diddordeb, gan gynnwys ar y monitor wrth i mi wylio, ac rwy'n croesawu'r ffordd gymedrol y mae wedi cyflwyno ei ddadl. Un newid arwyddocaol sydd wedi digwydd ers yr amserlen y soniodd amdano...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mentrau Bach a Chanolig sy'n Adeiladu Tai (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hateb. Yn rhyfedd iawn, mae fy nghwestiwn yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn blaenorol yn rhannol. Cyhoeddodd ei rhagflaenydd y £40 miliwn o arian, sy'n mynd i godi bedair gwaith i £160 miliwn, gan y bydd yn cael ei ailgylchu i fusnesau bach a chanolig dros 17 mlynedd i'w cynorthwyo i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru, ac mae gennyf gryn ddiddordeb yn sut...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ansawdd Dŵr yn Etholaeth Ogwr (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, ac rwy'n falch ei bod wedi dehongli fy nghwestiwn fel un am ansawdd afonydd, yn hytrach na dŵr yn gyffredinol yn etholaeth Ogwr. Felly, diolch am hynny. Mae'n wych gweld ein bod yn wynebu'r cyfeiriad iawn, ac mae'r gwelliant yn ansawdd dŵr yr afonydd yn Ogwr yn amlwg dros y ddau ddegawd diwethaf. Ni allaf gymryd yr holl glod am hynny fy hun, mae'n rhaid...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ailgoedwigo (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Roedd yn galonogol iawn gweld mai un o ganlyniadau gwaith tasglu'r Cymoedd oedd y syniad o goetir a pharc Cymoedd de Cymru a fyddai'n ymestyn ar hyd y Cymoedd i gyd o'r dwyrain i'r gorllewin. Wrth gwrs, mae potensial anhygoel ynghlwm wrth hynny, ond mae'r dinoethi yn sgil y clefyd llarwydd wedi cael effaith sylweddol, a gallaf weld hynny yng nghymoedd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ailgoedwigo (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o ailgoedwigo mewn ardaloedd yng Nghymoedd De Cymru sydd wedi'u dinoethi gan y clefyd llarwydd? OAQ53261

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ansawdd Dŵr yn Etholaeth Ogwr (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd dŵr yn etholaeth Ogwr? OAQ53262

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mentrau Bach a Chanolig sy'n Adeiladu Tai (23 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: 2. Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol a phartneriaid tai eraill i gefnogi mentrau bach a chanolig sy'n adeiladu tai? OAQ53260

14. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Effaith Brexit heb Gytundeb ar Gymru (22 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: A gaf i gymeradwyo'r Llywodraeth am gyflwyno cyfres o ddatganiadau heddiw ar baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb? A gaf i gymeradwyo'r Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol, i ddefnyddio cyfatebiaeth griced, am aros wrth y crîs, dangos stoiciaeth, wrth i bwerau ei lais bylu? [Chwerthin.] Mae'n gwneud yn eithriadol o dda. Mae hen ddihareb Maleiaidd, sef: paratowch yr ymbarél, cyn iddi...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Trosglwyddo Cymwysterau Proffesiynol (16 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu bod ymateb y Gweinidog yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, ond mae gwaith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Ond hefyd a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gynlluniau peilot y statws preswylydd sefydlog ar gyfer iechyd a gweithwyr cymdeithasol a hefyd, a yw Llywodraeth y DU wedi dangos unrhyw hyblygrwydd annisgwyl ar y funud olaf tuag at fater statws preswylydd...

6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20 (15 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ddechrau drwy ganmol, yn gyffredinol, y llaw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae, nid yn unig yn y gyllideb derfynol, ond yn ystod y flwyddyn hon? Mae wedi bod yn anodd iawn. Gallwch chi ond chwarae'r llaw a roddwyd i chi, ac rydym ni'n dal—nid yw hwn yn bwynt gwleidyddol; mae'n realiti llym—ar gynffon hir cyni. Mae gennym ni gyllideb sy'n dirywio na allwch chi ei defnyddio ond...

4. Datganiad gan y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE (15 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Mae'r rhain yn amseroedd llawn pryder i'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, i fusnesau, ar gyfer y wlad gyfan, ac maen nhw'n disgwyl i'r Llywodraeth hon a llywodraethau eraill gynllunio ein ffordd drwy hynny. Nawr, yn natganiad prynhawn yma rwy'n ei groesawu, rydych chi wedi—mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit wedi—ei gwneud hi'n glir iawn os caiff pleidlais heno ei...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am amser ar gyfer un ddadl ac un datganiad? Tybed a fydd amser am ddadl ar bwysigrwydd grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i adfywio. Roeddwn i yng nghyfarfod fforwm cymunedol Ogwr neithiwr, sy'n dwyn ynghyd glybiau a sefydliadau a thrigolion o bob rhan o'r cwm, rhwng Evanstown a Lewistown, a rhwng Melin Ifan Ddu a Nant-y-moel a’r holl bwyntiau sydd rhyngddyn nhw i ddatblygu...

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogaeth ar gyfer Addysg Uwch (15 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny mewn ymateb i adroddiad yr Athro Graeme Reid, a oedd ychydig amser yn ôl—nid yn rhy bell yn ôl. Dywedodd yn yr adroddiad hwnnw iddo ganfod gwendidau strwythurol hirsefydlog yn yr ecosystem ymchwil ac arloesi a oedd yn rhoi Cymru o dan anfantais o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU mewn cystadlaethau ariannu. A chyfeiriodd at y ffaith bod hynny wedi cael ei...

Cwestiwn Brys: Y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr (15 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Mae'r Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o galondid i ni, yn sicr o'r safbwynt bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, yw gwneud yn siŵr ei bod y sefyll yn gadarn y tu ôl i Ford Pen-y-bont ar Ogwr, fel y mae wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer iawn. O ran pam mae Ford wedi bod yn llwyddiant, ei ddau gryfder mwyaf yw (1) Llywodraeth Cymru yn sefyll ochr yn ochr ag ef, ond yn bennaf y gweithlu medrus,...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai ( 9 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ildio. Fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ni allwn adael i'r ddadl fynd heb godi llais dros atebion tai cydweithredol a modelau ymddiriedolaethau tir cymunedol. Os edrychwch yn ôl i'r 1980au, cyflwynodd Bernie Sanders—credaf ei fod yn disgrifio'i hun fel sosialydd democrataidd; yn America, rwy'n credu eu bod wedi'i alw'n gomiwnydd—un o'r ardaloedd canol dinas...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru ( 9 Ion 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am ildio, Russell. Mae'n bwynt pwysig, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, y cyfeiriodd ati. Pan gafodd ei phasio yn 2013, soniai am wneud cerdded a beicio y ffordd fwyaf naturiol o symud o gwmpas yng Nghymru ond wrth gwrs, pan wneir gwaith ffordd ar seilwaith ffyrdd sy'n bodoli'n barod, yn aml iawn gwyddom mai'r cerddwyr a'r beicwyr yw'r rhai...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.