Llyr Gruffydd: Nawr, rydw i'n meddwl y dylem ni gael o leiaf ddatganiad llafar llawn ar lawr y Senedd yma, yn hytrach nag un frawddeg fer mewn datganiad ysgrifenedig, er mwyn deall pam fod yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth Cymru â hyder yn yr unigolyn yma, pan ei bod hi'n amlwg bod cymaint o bobl heb rannu'r hyder hynny.
Llyr Gruffydd: ni chaiff fformiwla Barnett ei defnyddio ar ei phen ei hun fel sail i ddosbarthu arian i ffermwyr ar ôl 2022.
Llyr Gruffydd: A ydy hynny'n awgrymu, efallai, y bydd Barnett yn rhannol ran o'r hafaliad? Ac os bydd e, yn amlwg fe allai hynny achosi problemau mawr i ni yng Nghymru. Felly, fe fyddwn i'n licio gwybod, er enghraifft, beth oedd mewnbwn Llywodraeth Cymru i gylch gorchwyl yr adolygiad sydd wedi cael ei sefydlu, pa ymwneud fydd gan Lywodraeth Cymru yn newis y cynrychiolydd Cymreig a fydd yn eistedd ar y...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yn ymwneud â chyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw eu bod nhw am gynnal adolygiad annibynnol ar sut fydd arian amaeth yn cael ei ddosbarthu ymhlith y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod ar ôl Brexit. Oherwydd mae'n gwbl allweddol bod hwn yn...
Llyr Gruffydd: Mae Jill Evans, ASE Plaid Cymru, wedi siarad yn helaeth am yr egwyddor ragofalus, yn enwedig yn y cyd-destun hwn. Euthum i balu drwy rai o gyfathrebiadau'r Comisiwn Ewropeaidd, a gwyddom mai nod yr egwyddor ragofalus yw sicrhau lefel uwch o ddiogelwch amgylcheddol drwy wneud penderfyniad ataliol lle ceir elfen o risg. Gwneud penderfyniadau ataliol—does bosibl nad yw hynny'n cyd-fynd ag...
Llyr Gruffydd: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma. Rydw i eisiau jest ategu rhai pwyntiau i gychwyn yr oedd Rhun wedi'u gwneud wrth agor yr araith. Rydw i'n meddwl bod y ffaith bod Cefas a Chyfoeth Naturiol Cymru, y ddau ohonyn nhw, wedi dweud y gallan nhw fod yn gwneud mwy o waith, ac y byddan nhw'n barod i wneud mwy o waith, yn tanlinellu i fi'r ffaith eu bod nhw yn cydnabod bod yna ragor o...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Llyr Gruffydd: Diolch. A ydych chi'n gwybod beth yw'r Dáil? A ydych chi'n gwybod beth yw Taoiseach?
Llyr Gruffydd: Mae dathliadau dwbl yn Ninbych yr wythnos yma, gyda phenblwydd Canolfan Iaith Clwyd, wedi 30 mlynedd o ddarparu addysg Gymraeg i oedolion. Ac mae hi hefyd yn 10 mlynedd ers agor amgueddfa gwbl unigryw Gwefr heb Wifrau—Wireless in Wales—sydd hefyd wedi ei lleoli yn yr un adeilad, yng nghanol y dref yn Ninbych. Y prif symbylydd dros sefydlu’r ddau gorff oedd y diweddar David Jones,...
Llyr Gruffydd: Roedd yn dda clywed y bydd Sir Fynwy yn chwarae rhan yn ardaloedd peilot gwledig Llywodraeth y DU ar gyfer 5G. Mae Caerdydd yn cael arian ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn lleol. Gwyddom am y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd gyntaf a fydd wedi'i lleoli yn ne Cymru, ac wrth gwrs, gwyddom am gynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Felly, mae llawer o ffocws a...
Llyr Gruffydd: Er nid wyf i'n meddwl bydd trethdalwyr Conwy yn mwynhau codiad o 11 y cant yn y dreth gyngor, chwaith—ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mi godais i gwestiwn gyda'r Ysgrifennydd gwasanaethau cyhoeddus yr wythnos diwethaf: o gofio'r wasgfa ddifrifol, ingol sydd ar awdurdodau lleol yn ariannol erbyn hyn, a oedd e'n hyderus bod yna drefniadau yn eu lle gan y...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd 3G a 4G yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Buaswn i'n licio gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd, os yw'n bosib, ynglŷn â gallu cwmnïau preifat i gael mynediad i ysbytai. Mae’r cwmni Bounty, rydym ni’n gwybod, yn cynnig starter packs i nifer o famau newydd ac maen nhw hefyd yn dod i wardiau i gynnig tynnu lluniau o’r babanod, ac maen nhw yn hel gwybodaeth sydd wedyn yn cael ei defnyddio i ddanfon gwybodaeth a...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, rŷch chi'n gwybod cystal â fi mai'r realiti yw bod cynghorau yn wynebu'r sefyllfa anodd o fod yn torri gwasanaethau ar un llaw ac yn codi trethi cyngor ar y llaw arall, a chyngor sir Conwy yw'r mwyaf diweddar i fod yn sôn am godiadau posibl o gwmpas 11 y cant, pan, wrth gwrs, ar yr un pryd, nad oes yna ddim gwerth o wasanaethau anstatudol ar ôl i'w...
Llyr Gruffydd: Nid wyf yn eich amau pan ddywedwch wrthym mai polisi Llafur Cymru yw eich polisi chi, ond rwy'n dweud wrthych ei fod hefyd yn un o bolisïau Torïaid y DU, sy'n amlwg braidd yn anghyfforddus i chi a'ch Aelodau ar y meinciau cefn, rwy'n siŵr. Nawr, yn ogystal â chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch y cyfeiriais ati i ffermwyr Cymru yn y cyfnod anodd hwn o ran Brexit, o dan eich...
Llyr Gruffydd: Wel, credaf y bydd pobl yn bryderus iawn ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth yn amlwg heb wneud ei gwaith cartref, gan eich bod yn mynd ar drywydd cynigion penodol, er bod hynny ar ffurf ymgynghoriad. Felly, sut y gallwch eu cyflwyno heb wybod beth fydd y goblygiadau? Sut y gallwch ddisgwyl i bobl ymateb yn ystyrlon i ymgynghoriad pan nad ydych, mewn gwirionedd, yn gallu dweud wrthynt pa...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Pan argymhellodd eich rhagflaenydd newidiadau arfaethedig i gyllid amaethyddol yng Nghymru, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd asesiadau manwl a modelu helaeth gan y Llywodraeth o'r effaith y byddai'r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar bob math o fferm, ar bob sector amaethyddol, hyd yn oed yr effaith ar swyddi yn yr holl ardaloedd awdurdod lleol sydd gennym yma yng...
Llyr Gruffydd: Wel, rydw i'n rhannu eich rhwystredigaeth chi, oherwydd rydw i'n Aelod o'r Cynulliad yma ers saith mlynedd ac rydw i'n siŵr fy mod i wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn yn gyson ers y cyfnod yna. Ond mae undebau amaeth hefyd yn bryderus bod newidiadau yn y taliadau i ffermwyr yr ŷch chi'n eu cynnig yn 'Brexit a'n tir' yn mynd i arwain at lai o gig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. O...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ardoll cig coch Cymru? OAQ52689
Llyr Gruffydd: 4. Pa gyngor y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i gynghorau lleol sy’n wynebu torri gwasanaethau? OAQ52691