Mike Hedges: A gaf fi atgoffa'r Aelodau o'r mwyafrif llethol a wrthododd y bleidlais amgen ar ffurf cynrychiolaeth gyfrannol yn y refferendwm, a sut y mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn seiliedig ar 'dyfalwch sawl sedd y gallwch ei hennill'? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu y bydd mwyafrif llethol o ddwy ran o dair o bleidlais y cynghorwyr a'r cynghorau yn angenrheidiol os yw cynghorau'n...
Mike Hedges: A gaf fi eich hatgoffa chi, a phawb arall, fy mod wedi eich llongyfarch pan ddaethoch i'r pwyllgor? Felly, ychwanegaf ragor o longyfarchiadau yma, ond mae hynny eisoes wedi'i wneud. Yr hyn roeddwn am ei ofyn yw: pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at y targed o sicrhau bod holl fawndiroedd Cymru yn rhan o'r broses o reoli gwaith adfer erbyn 2020, ac a ydych yn disgwyl y caiff hynny ei...
Mike Hedges: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod mawndiroedd? OAQ51359
Mike Hedges: Onid ydych chi'n derbyn y gellid datrys y broblem dros nos pe byddai'r Trysorlys yn caniatáu i awdurdodau lleol fenthyca yn erbyn gwerth eu stoc tai er mwyn adeiladu tai, fel y gwnaethant yn y 1950au a'r 1960au, ond nad yw'r Trysorlys a'r Torïaid yn caniatáu iddyn nhw ei wneud nawr?
Mike Hedges: Rwy'n bwriadu edrych ar sut mae dwy ddinas Ewropeaidd, Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen, yn hyrwyddo entrepreneuriaeth. Mae pobl yn aml yn sôn am rai o ddinasoedd mawr y byd—ac weithiau am Gaergrawnt ac weithiau am ardaloedd yng nghyffiniau Harvard—ond dwy ddinas Ewropeaidd canolig ei maint yw'r rhain. Rwy'n mynd i sôn am rwystrau sy'n atal busnesau canolig rhag tyfu, gan fod...
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau yn ninas ranbarth Abertawe, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ddinas ranbarth, a chadarnhad pellach o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gynharach yr wythnos hon: y byddai'r arian ar gael ar gyfer y ddinas-ranbarth o fewn y...
Mike Hedges: Ydw, yn sicr. Ers amser hir iawn, rwyf wedi cefnogi treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy, yn arbennig y deunydd a ddefnyddir i bacio bwyd mewn bwytai tecawê. Ar y dreth dwristiaeth, mae'n gyffredin ledled gweddill y byd. Mewn gwirionedd, talais dreth dwristiaeth pan oeddwn yn Dubrovnik; ond nid oeddwn yn gwybod fy mod yn ei thalu. Darganfûm hynny pan edrychais ar leoedd...
Mike Hedges: Ers cael fy ethol yn 2011, mae'r rhan fwyaf o'r trafodaethau a glywais yn y Senedd ynghylch trethiant wedi bod ynglŷn â'i leihau—er nad wyf mor eithafol â Neil Hamilton y prynhawn yma—yn hytrach na'r angen am drethiant i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Pan edrychwch ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi'r gwerth am arian a gawn o'n system drethiant mewn...
Mike Hedges: Felly, rydych yn dweud bod cost alcohol yn y wlad hon yn uwch oherwydd trethiant nag yn Sgandinafia.
Mike Hedges: A gaf fi hefyd longyfarch y Cwnsler Cyffredinol newydd ar ei benodiad? Mae Simon Thomas yn canolbwyntio unwaith eto ar wahardd ffracio. Nid yw Simon Thomas a minnau'n anghytuno ar lawer o bethau mewn perthynas â hyn, ond rwy'n credu bod cael pŵer i wahardd drilio prawf yn llawer pwysicach. Fel y gwyddoch yn iawn, mewn ardal yn agos at lle roeddech yn arfer byw ac yn agos at lle rwy'n byw,...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy'n digwydd ar safle SA1 yn Abertawe?
Mike Hedges: A gaf i hefyd longyfarch Dafydd Elis-Thomas ar ei benodiad fel Gweinidog? Fe hoffwn i hefyd ddiolch iddo am y datganiad a wnaeth ac am eglurder y penderfyniad i gadw Cadw yn rhan o'r Llywodraeth. Fodd bynnag, rwyf yn siomedig nad achubwyd ar y cyfle i archwilio beth yw ei ddiben a beth y mae wedi ei gyflawni o ran diogelu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol. Rhoddaf dwy enghraifft i chi o...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Oni fuasech yn derbyn na all comisiwn y Cynulliad hwn fod yn rhydd rhag y cyni sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Mike Hedges: A gaf fi enwebu Mick Antoniw?
Mike Hedges: Nid yw o bwys yn y bleidlais hon, ond nid yw fy un i’n dangos ar y sgrin. A yw’n dangos gyda chi ai peidio, nid wyf yn gwybod. Nid yw o bwys yn y bleidlais hon, ond rwy’n meddwl efallai y bydd o bwys mewn rhai eraill.
Mike Hedges: Os caf ofyn i chi: pwy oedd yn Llywodraeth yn 1986?
Mike Hedges: A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fod unrhyw un a oedd yn credu y buasai rhaglen gwerth £30 miliwn y flwyddyn yn trechu tlodi braidd yn orobeithiol a dryslyd? Caiff hyn ei ategu gan dystiolaeth cyngor Caerffili. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn trechu tlodi cenedlaethau ag un rhaglen wrthdlodi. Mae wedi bod yn...
Mike Hedges: Onid yw’n bwysicach, i ddechrau, i wahardd drilio prawf? Oherwydd nid yw pobl yn drilio prawf oherwydd eu bod wedi diflasu neu’n chwilio am rywbeth i’w wneud; maent yn drilio prawf oherwydd eu bod yn credu y byddant yn gallu ffracio ar ryw adeg yn y dyfodol.
Mike Hedges: Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu codiad cyflog. Mae angen codiad cyflog ar weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn dal i dalu’r pris am y bancwyr casino cyfalafol a aeth â ni i mewn i argyfwng economaidd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen i San Steffan ddod â chyni i ben a chynyddu’r dyraniad cyllidebol i Gymru fel y gallwn roi’r codiad...