Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Ac felly, dyma ni yn ôl y prynhawn yma unwaith eto, gyda dadl gwbl ddi-sail—mai'r hyn sydd ei angen ar Gymru yn awr, yng nghanol sawl argyfwng byd-eang, ydy llai o atebolrwydd democrataidd. Hynny yw, dylid cael gwared ar y Senedd hon ac, yn ôl araith yr Aelod, unrhyw gysyniad o'r Gymru fodern. Mae Cymru yn elwa ar fod yn rhan o undeb—undeb wirfoddol, gyda llaw—o...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl? Rwy'n credu bod llawer o'r cyfraniadau'n gyfraniadau pwysig i fyfyrdodau'r Siambr hon ar rai o'r heriau sy'n rhan annatod o'r broses gydsynio wrth geisio cysoni yr amserlen seneddol yn San Steffan ag anghenion ein Senedd ni yma yng Nghymru. Gobeithio y gallaf roi sylw i rai o'r pwyntiau allweddol hynny, o...
Jeremy Miles: Gosododd Eluned Morgan, ar ran Llywodraeth Cymru, gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 2 Ebrill 2020 yn ymwneud â'r darpariaethau canlynol yn Rhan 1 o'r Bil. Mae cymal 1 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU mewn awdurdodau datganoledig, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, weithredu darpariaethau'r cytundeb ar gaffael y Llywodraeth, i adlewyrchu'r ffaith bod y DU bellach yn barti annibynnol i'r...
Jeremy Miles: Cafodd y fersiwn hon o'r Bil ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mawrth 2020 ac mae iddi lawer o debygrwydd i'r fersiwn flaenorol o'r Bil a drafodwyd yn y Senedd ddiwethaf—y Bil Masnach yn 2017-19. Cwblhaodd Bil 2019-20 y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn ddiweddar ar 6 Ionawr, ac mae'r fersiwn bresennol o'r Bil yn cynnwys gwelliannau a gafodd eu gwneud yn ystod...
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn berthnasol i Fesur Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fasnach.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac wrth gwrs mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod y llety hwn yn amhriodol at y diben sydd wedi'i bennu iddo. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru ac rydym yn amlwg wedi gweithredu ar y sail honno ac wedi cyflwyno sylwadau yn y ffordd honno i Lywodraeth y DU. Fel y soniais wrthi, o ran y seilwaith cyfreithiol sylfaenol a'r fframwaith ynghylch y...
Jeremy Miles: Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â'r system loches wedi'u cadw yn ôl ac felly maen nhw y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol ni. Fodd bynnag, o ystyried effaith y penderfyniad i ddefnyddio Penalun ar gydlyniant cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus, fe ddylid fod wedi ymgynghori'n â ni'n llawn, ac rydym yn dal i fod yn aneglur ynghylch y sail gyfreithiol ar gyfer cychwyn y datblygiad hwn gan...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Byddaf yn sicrhau bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi clywed hynny, oherwydd mae'r mater sylweddol yn amlwg o fewn ei phortffolio. Ond o ran y trafodion i'r graddau y maen nhw'n ymwneud â'r ombwdsmyn ei hun, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymchwiliad yn ymwneud â sampl o chwe chwyn am gyfathrebu'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maen nhw wedi'u...
Jeremy Miles: Wrth gwrs. Y tro diwethaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ysgrifennu at Lywodraeth y DU oedd ym mis Tachwedd. Mae eu hymateb yn amddiffyn y safbwynt i gynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth ac yn tynnu sylw at y dyfarniadau o'r her gyfreithiol yn yr Uchel Lys a'r Llys Apêl, a oedd yn cefnogi gweithredoedd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ond mae'r Llywodraeth yn parhau i gyflwyno'r achos ar...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n falch o roi'r sicrwydd y mae'r Aelod yn ei geisio. Yr enghraifft ddiweddaraf o hynny, wrth gwrs, yw Deddf y farchnad fewnol ei hun a'r hyn yr ydym ni'r Llywodraeth wedi amlinellu y byddwn yn ei wneud o ran yr holl ddewisiadau sydd ar gael inni i ddiogelu cymhwysedd y Senedd. O ran yr agwedd ehangach y mae'r Aelod yn holi amdani, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru yn y byd ar ôl...
Jeremy Miles: Wel, a gaf i gydnabod yn gyntaf yn ddiolchgar y gefnogaeth y mae'r Aelod wedi'i rhoi i Lywodraeth Cymru yn ein bwriad i sefyll dros y Senedd? Rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod yr Aelod, rwy'n credu, yn gynnar iawn ar ôl i mi wneud fy natganiad ein bod yn bwriadu gwneud hynny, yn gefnogol iawn. Felly, hoffwn gydnabod hynny os caf. Mae dwy neu dair agwedd ar gwestiwn yr Aelod. Yn gyntaf, o ran y...
Jeremy Miles: Wel, o'r cychwyn cyntaf, gwnes i fe'n glir y byddai'r Llywodraeth yma yn cymryd pob cam posibl i amddiffyn pwerau'r Senedd. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran strategaeth gwelliannau yn y Senedd yn San Steffan yn gweithio gyda'r Arglwyddi. Rydyn ni wedi gwneud hynny o ran argymell gwrthod cydsyniad i'r Senedd, fel sydd wedi, wrth gwrs, digwydd. A'r drydedd elfen i'r strategaeth yw cymryd y...
Jeremy Miles: Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Rhagfyr i ddweud ein bod ni'n bwriadu cynnig sialens gyfreithiol i'r Bil, fel oedd e ar y pryd hwnnw. Rydyn ni wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw yn y dyddiau diwethaf, ac rydyn ni'n cysidro cynnwys y llythyr hynny ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd pob cam posibl i amddiffyn y Senedd rhag yr ymosodiad ar ei phwerau...
Jeremy Miles: Rydym ni wedi cael trafodaethau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â chyfleusterau llys priodol ledled Cymru at y dibenion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw. Cafwyd rhaglen i ailddechrau defnyddio llysoedd ynadon, a safbwynt y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw bod hynny'n gweithio i raddau helaeth i adfer capasiti ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac yn system llysoedd y...
Jeremy Miles: Mae'r rhestrau ym mhob un o lysoedd ynadon y gogledd bellach yn debyg i'r hyn yr oedden nhw cyn COVID, ac mae pob un o lysoedd barn y Goron yn y gogledd wedi'u gwneud yn ddiogel ar gyfer achosion gyda rheithgor. Rydym yn ceisio sicrwydd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi bod y mesurau presennol yn addas o ystyried pa mor drosglwyddadwy yw'r feirws ar hyn o bryd. Mae...
Jeremy Miles: Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu efallai fod arweinydd yr wrthblaid wedi darllen crynodeb hyrwyddo Llywodraeth y DU yn hytrach na'r cytundeb ei hun, fel y dywedodd Alun Davies. Cyfeiria Paul Davies ato fel cytundeb masnach rydd, ond mae'r cytundeb hwn yn golygu, o 1 Ionawr ymlaen, y bydd allforwyr Cymru yn wynebu masnach gyda'n partner mwyaf sy'n llawer llai rhydd, gyda rhwystrau cwbl newydd i...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, gaf i ddechrau drwy gydnabod y synnwyr o ryddhad sydd ar led bod cytundeb yn bodoli, er mor annigonol yw hwnnw? O'i gymharu â'r opsiwn arall o adael y cyfnod pontio heb gytundeb, mae'n sicr bod yr opsiwn hwn yn well. Ond y gwir amdani, Llywydd, yw bod Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig wedi treulio pedair blynedd a hanner a symiau aruthrol o arian a chyfalaf gwleidyddol...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd, a diolch i'r cyfranwyr i'r ddadl. Gaf i jest dweud fy mod i, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r drafodaeth ynglŷn â'r math yna o sicrwydd, ond maen nhw wedi caniatau inni allu creu sicrwydd ein hunain fod yr addewidion sydd wedi cael eu rhoi yn bwrpasol yn y cyd-destun hwn? A gaf i jest cadarnhau bod y sicrwydd sydd wedi cael ei roi yng nghyd-destun y mesurau cyfartal yn y Bil...
Jeremy Miles: Rwy'n cynnig.