Canlyniadau 1001–1020 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

Grŵp 2: Gwaith craffu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Gwelliannau 5, 13, 19, 2) (24 Ebr 2018)

David Melding: O, bobl bach. Mae yna adegau pan rydych chi'n credu eich bod mewn gwlad hud fel un Lewis Carroll. Clywsom gan y Gweinidog fod craffu ôl-ddeddfwriaethol yn syniad da, ond ddylen ni ddim dweud hynny, yn sicr nid yn y Bil hwn. Mae hi'n eithaf bodlon i hynny ddigwydd, ond yn pryderu ynghylch gwneud unrhyw beth yn ofyniad deddfwriaethol oherwydd yr effaith a gâi hynny ar allu'r ddeddfwrfa i...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

David Melding: Rwy'n cynnig.

Grŵp 2: Gwaith craffu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Gwelliannau 5, 13, 19, 2) (24 Ebr 2018)

David Melding: Diolch, Llywydd, rwy'n cynnig, felly. Mae'r ddau welliant cyntaf yn y grŵp hwn wedi deillio o'r argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—sef, Argymhelliad 7. Mae gwelliannau 5 a 13 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cyfarwyddydau a gyhoeddir o dan adran 5, rhai sy'n ymwneud â newid cyfansoddiadol a strwythurol, ac adran 14,...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

David Melding: Rwy'n cynnig. 

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

David Melding: Pan oeddem yn casglu tystiolaeth, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at hyn eisoes, roedd gennym, rwy'n credu, gefnogaeth gref TPAS Cymru, y corff tenantiaid. Rwy'n credu y cafwyd croeso mawr i hynny wrth ddatblygu syniadau'r is-bwyllgor a oedd yn ystyried hyn ac a ddarparodd eu hadroddiad. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth sy'n gwneud imi amau bod y pryderon hynny, mewn unrhyw fodd, yn...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

David Melding: Mae un o'r gwelliannau a gyflwynais gyda chefnogaeth Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, yn wir, bellach wedi'i addasu gan Lywodraeth Cymru a'i drosi i'w diwyg eu hunain, ac mae'r gwelliant hwn yn sail i'r drafodaeth bellach yr ydym ni'n ei chael. Felly, dylwn groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb. Nid yw'n gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn wreiddiol; mae wedi ymateb i'r trafodaethau a...

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4) (24 Ebr 2018)

David Melding: Cyn imi roi sylw i'r grŵp cyntaf o welliannau ynglŷn â'r Bil hwn, a gaf i yn gyntaf oll ailadrodd y ffaith fod pob un o'm gwelliannau heddiw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi deillio o argymhellion yr is-bwyllgor ar y Bil hwn neu o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Er nad oes unrhyw amheuaeth bod amcanion y Bil hwn er budd y cyhoedd, o ystyried barn y...

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ansawdd Aer (24 Ebr 2018)

David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rydym wedi bod yn araf yn gweithredu. Bron i ddwy flynedd yn ôl roeddem yn edrych ar raglen amlinellol y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad hwn, ac ni allaf gofio a oedd cyfeiriad at ansawdd aer neu ei fod yn arwynebol yn unig, ond yn sicr doedden nhw ddim y math o ymrwymiadau yr ydym ni newydd eu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ebr 2018)

David Melding: Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu eich bod wedi cael rhyw syniad o'r hyn yr wyf eisiau ei godi. Byddwch yn gwybod y cyhoeddodd y Gweinidog tai ddatganiad ysgrifenedig ar dai fforddiadwy ac asesu'r angen yn y dyfodol, ac felly'r targedau ar gyfer cyflenwi. Rwyf yn credu y dylid bod wedi cyflwyno rhywbeth o'r fath arwyddocâd aruthrol i'r Siambr hon ar ffurf datganiad llafar. Mae'n agor y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dinasoedd (24 Ebr 2018)

David Melding: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi ei awgrymu yn y fan yna—bod ein dinasoedd yn adnodd gwych sydd â chyfrifoldebau rhanbarthol a chenedlaethol. Ond, fel y gwyddoch, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, nid oes unrhyw gynlluniau cynllunio rhanbarthol wedi cael eu cyflwyno ar sail wirfoddol eto. Rwy'n falch eich bod chi'n mynd i ymgynghori ar hyn a pha un a oes angen i ni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dinasoedd (24 Ebr 2018)

David Melding: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd dinasoedd Cymru i ddatblygiad yr economi? OAQ52034

Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria (18 Ebr 2018)

David Melding: Rhaid imi ddweud, o'r hyn a welaf o'r digwyddiadau diweddar, Llywodraeth Ffrainc a oedd yn mynnu bod angen ymateb i'r defnydd o arfau cemegol ac roeddent yn barod i roi camau unochrog ar waith. O'r fan honno y daeth y pwysau o blaid yr ymyrraeth.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (18 Ebr 2018)

David Melding: A gaf fi ddechrau drwy nodi tôn bwyllog y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n croesawu hyn fel arwydd fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu o ddifrif i sicrhau cytundeb ar y materion hyn. Rwyf hefyd yn credu y dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys fel ymgais i egluro'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol. Wedi'r cyfan, roedd Llywydd yr Alban yn credu bod eu Bil y tu...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi): Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (18 Ebr 2018)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cefnogi Pobl sydd mewn Dyled (18 Ebr 2018)

David Melding: A gaf fi ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ei ateb? Efallai y gwyddoch ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Straen cenedlaethol y mis hwn, ac yn ôl y Debt Support Trust, o’r rheini sydd â dyledion difrifol, mae oddeutu hanner y bobl yn y sefyllfa honno yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl ac yn ystyried hunanladdiad. Mae'n straen aruthrol ar bobl. Yn 2017, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cefnogi Pobl sydd mewn Dyled (18 Ebr 2018)

David Melding: 1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (18 Ebr 2018)

David Melding: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang yng Nghanol De Cymru?

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru (17 Ebr 2018)

David Melding: A gaf i edrych ar rai o'r pethau penodol, felly, i dynnu sylw at fy mhryderon? Coetiroedd, coedwigaeth. Rydych chi bellach wedi ymrwymo i adnewyddu'r strategaeth coetiroedd. Wel, beth mae hynny'n ei olygu? A yw'n golygu eich bod yn mynd i waredu'r targedau presennol a dyfeisio rhywbeth llawer llai uchelgeisiol? Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion...

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Yr Amgylchedd yng Nghymru (17 Ebr 2018)

David Melding: Er fy mod i'n croesawu'r datganiad heddiw, mae'n rhaid imi ddweud, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gyffredinol iawn o ran ei strwythur, ac rwy'n ofni ei fod mewn mannau yn ein difyrru gydag ymadroddion eang a mynegiant gwael iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu weithiau fod angen myfyrio mwy ar y testunau a ddaw ger eich bron. Mae'n rhaid imi ddweud, i ddatgan yn y Cynulliad hwn, ac rwy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Darparu Gorsaf Bws yng Nghanol Dinas Caerdydd (17 Ebr 2018)

David Melding: Rwy'n credu bod llawer ohonom ni'n ddryslyd iawn ynghylch pa un ai dyma'r orsaf goetsys, neu a yw'n cynnwys bysiau lleol hefyd? Oherwydd, fel y deallaf, mae'r angen i drafnidiaeth leol gael ei chanoli yn yr orsaf drenau yn wirioneddol bwysig, lle'r oedd yr orsaf ganolog yn arfer bod, ac roedd yn rhan o'r cynllun y byddai'r orsaf fysiau yn cael ei hailgynllunio ac yn rhan o'r prosiect newydd,...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.