Siân Gwenllian: Rwy’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl bwysig yma heddiw. Rwyf am ganolbwyntio ar sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu helpu o safbwynt gofal iechyd meddwl, ond hefyd sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael effaith andwyol yn y maes yma. Gan ddechrau efo’r gwasanaeth iechyd, yn anffodus rydym yn cynnal y ddadl hon tra bod ymchwiliad arall yn digwydd i ofal iechyd meddwl yn...
Siân Gwenllian: Gall cysylltu efo gwasanaethau cyhoeddus drwy’r dulliau traddodiadol, fel canolfannau galw, fod yn brofiad anodd a rhwystredig i ni gyd ar adegau, ond wrth gwrs mae’n gallu bod yn anoddach fyth i bobl fyddar neu drwm eu clyw. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yna ffyrdd gwahanol o gysylltu ar gael i bobl fyddar neu drwm eu clyw er mwyn sicrhau nad ydyn nhw ddim yn...
Siân Gwenllian: Mae cynlluniau datblygu lleol, wrth gwrs, yn ganolog i’r broses o ddarparu tai ac mae’r cynlluniau yma wedi cael eu sefydlu ar sail ystadegau hanesyddol ynglŷn â lefel y twf mewn poblogaeth. A ydych chi felly yn cytuno ei bod hi’n bryd dyfeisio dull mwy dibynadwy o fesur y galw am dai i’r dyfodol, a hefyd bod angen mwy o gydweithio strategol rhwng awdurdodau lleol pan fydd hi’n...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yn Arfon?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Diolch am drafodaeth ddigon bywiog prynhawn yma. Mae’r Ceidwadwyr wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cynnig, ond nid wyf yn fodlon derbyn gwelliant 1 achos mae hwn yn ehangu’r maes gwaith yn rhy fawr, ac, yn anffodus, mae’r Llywodraeth bresennol yn colli ffocws yn rhy aml, a fuaswn i ddim yn licio iddyn nhw wneud hynny ar y mater yma. Roeddech chi’n sôn am fferyllfeydd...
Siân Gwenllian: Mae’r dewis i ddigwydd yn lleol, ond rwy’n gwybod yn fy ardal i eu bod nhw yn creu llwyddiant ac wedi cael eu croesawu gan fusnesau lleol. Ond beth roedd y busnesau lleol yna yn ddweud wrthyf i dro ar ôl tro oedd bod costau parcio yn gweithio yn erbyn y gwelliannau maen nhw yn ceisio eu gwneud, felly mae hwn yn ffordd o fynd i’r afael â hynny. Yng Nghaernarfon, er enghraifft, mae yna...
Siân Gwenllian: Gwnaf.
Siân Gwenllian: [Continues.]—in Rhyl, 21.6 per cent of the shops are vacant.
Siân Gwenllian: Rydw i’n dyfynnu o ystadegau swyddogol, ac er, efallai, bod yna adegau—y Fenni, er enghraifft, adeg yr ŵyl fwyd, mae’n edrych yn brysur iawn yna, ond pan fyddwch chi’n edrych dros y flwyddyn gyfan, mae’r ffeithiau yn dangos yn wahanol, yn anffodus. Mae’n ddrwg gen i fod yn negyddol, ond dyna ydy’r sefyllfa, ond mae’n cynnig ni yn cynnig ffordd ymlaen a ffordd i wella hynny....
Siân Gwenllian: Diolch, Lywydd, ac rydw i’n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru eisiau adfer balchder yn ein trefi drwy sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â’r dirywiad y mae cynifer ohonyn nhw wedi ac yn ei wynebu. Y dyddiau yma, mae nifer o ganolau ein trefi yn hanner gwag ac yn llawn o siopau sydd â’u ffenestri wedi’u bordio i fyny. Yn y fath amgylchedd, nid yw’n syndod bod...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Mae’n rhaid eich llongyfarch chi, yn wir, am yr holl waith sydd wedi digwydd efo’r rhanddeiliaid, yr undebau llafur, arweinwyr y cynghorau a chynghorwyr ledled Cymru er mwyn casglu eu barn nhw am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ond, yn bennaf, diolch yn fawr a llongyfarchiadau ar gyflwyno fersiwn—fersiwn gwan, efallai, ond fersiwn—o bolisi...
Siân Gwenllian: Mewn cyfarfod pwyllgor ar 13 Gorffennaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei gwneud hi’n glir mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru dros addysg eich bod chi’n mynd i edrych ar y posibilrwydd o ehangu ‘remit’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach. A wnewch chi ein diweddaru ni o ran cynnydd yn dilyn y datganiad yna, achos mi fyddai’n mynd peth...
Siân Gwenllian: Diolch. Yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi ddweud, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, na fyddai Cymraeg ail iaith yn cael ei dysgu fel rhan o’r cwricwlwm newydd erbyn 2021, ac, yn ei lle, byddai yna un continwwm o ddysgu’r iaith i bob disgybl. Ond nid ydw i’n dal i fod yn glir ynglŷn â’r newidiadau i’r cymwysterau. A allech chi gadarnhau’r hyn a gafodd ei adrodd yn y wasg...
Siân Gwenllian: 7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynnydd Llywodraeth Cymru ar weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies am ddysgu’r Gymraeg? OAQ(5)0023(EDU)[W]
Siân Gwenllian: Mae myfyrwyr o dramor yn gwneud cyfraniad uniongyrchol, gwerthfawr i’n prifysgolion ac i’r economi. Am bob pump myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn dod i Gymru, mae un swydd yn cael ei chreu, a daw £200 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn fy etholaeth i yn cydweithio efo 100 o bartneriaid mewn 20 gwlad yn Ewrop, efo llawer mwy o...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailstrwythuro gwasanaethau iechyd lleol yng ngogledd Cymru?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n mynd i gyfeirio at rif 3 yn y cynnig, sef pwysigrwydd y gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd, felly, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mynd i drafod addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r cymhwyster ail iaith fel y cyfryw. Rwyf yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd...
Siân Gwenllian: Iawn. Mewn gwrthwynebiad i hynny, wrth gwrs, mae cynghorau Plaid Cymru yn perfformio yn dda iawn. Sut fyddwch chi yn sicrhau, felly, bod awdurdodau lleol—ac yn benodol awdurdodau lleol dan reolaeth eich plaid chi—yn gweithredu er mwyn cyflawni’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr ym maes addysg?
Siân Gwenllian: Buaswn i’n licio defnyddio fel enghraifft un strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru, sef y nod o gael miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â chyfraniad awdurdodau lleol i dargedau cenedlaethol ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, yr ateb a gefais oedd nad oedd rhaid i awdurdodau lleol...