Huw Irranca-Davies: Bydd llawer o fy etholwyr, yn enwedig i'r dwyrain o Ogwr yn Llanharan a'r Gilfach Goch ac mewn mannau eraill, yn cael eu gwasanaethu gan awdurdod iechyd Cwm Taf, mewn perthynas â gofal sylfaenol a gofal eilaidd a llwybrau acíwt yn ogystal, ac mae'n werth ailadrodd fod Cwm Taf, hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fwrdd ac yn sefydliad sydd wedi perfformio'n dda yn gyffredinol, gyda llawer i'w...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi droi at berfformiad Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg mewn perthynas ag un o'u prif asedau, sef Ysbyty Cymunedol Maesteg? Mae plac yn yr ysbyty gyda fy enw arno; fe ddathlodd ei ganmlwyddiant ychydig flynyddoedd yn ôl. Gyda chynhaliaeth ein gwasanaeth iechyd gwladol a datblygiadau allweddol ac arloesedd ym maes iechyd, rwy'n bwriadu bod yno pan fydd yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a hefyd y paratoadau y mae Prif Weinidog Cymru a'i Lywodraeth yn eu gwneud ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae hyn yn bendant yn achos o obeithio am y gorau, ond rhagweld a chynllunio ar gyfer y gwaethaf. Rwy'n falch, hefyd, o gymryd yr awenau oddi wrth Julie a chael rhyw fath o ran yn dyrannu a goruchwylio cyllid rhanbarthol, ond hefyd o ran llunio dyfodol...
Huw Irranca-Davies: Wrth ddymuno 2019 newydd hapus iawn i bawb, a chroesawu fy nghyd-Aelod i'w swydd newydd, a gaf i ofyn am ddadl ar y rhagolygon cymdeithasol ac economaidd ar gyfer Cymru yn 2019, yng ngoleuni dadansoddiad Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd ar ddydd Calan? Roedden nhw’n gweithio'n galed iawn yn wir. Mae'n tynnu sylw at yr effaith ddigalon a ddaw gydag ansicrwydd Brexit, wrth gwrs, ond beth bynnag...
Huw Irranca-Davies: Cwestiwn ymarferol sydd gen i. Oherwydd natur gyffiniol y cynlluniau datblygu hynod uchelgeisiol ar gyfer tai ar hyd yr M4, i'r gogledd o Gaerdydd a thua'r gorllewin, o ogledd Caerdydd yn rhanbarth Canol De Cymru, drwy'r rhannau deheuol cyfagos o Bontypridd, ymlaen i ogledd Pen-y-bont ar Ogwr, ceir rheidrwydd cynyddol i wneud yn siŵr bod yr holl awdurdodau lleol yn siarad â'i gilydd, yn...
Huw Irranca-Davies: Wel, Llyr, rwyf ymhell o fod yn eu diystyru. Credaf fy mod wedi'i gwneud yn glir yn y pwyllgor ac mewn mannau eraill fod y drafodaeth yn ymwneud â ble rydym yn mynd yn y dyfodol o ran y cynnig gofal plant ehangach—nid, gyda llaw, o ran y pwyntiau a godwyd gan Siân yn flaenorol, sy'n ymwneud â rhieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg ond na fyddai'n cael eu cynnwys yn y cynnig hwn yn...
Huw Irranca-Davies: Wel, Suzy, diolch i chi am hynny. Ond unwaith eto, rydych wedi methu'r ffaith ein bod, mewn ymateb i Gyfnod 1 a Chyfnod 2, wedi cyflwyno gwelliannau Llywodraeth i greu dyletswydd i ariannu'r cynnig gofal plant hwn, a bydd y manylion rydych yn gofyn amdanynt yn dilyn, oherwydd yr angen am gydbwysedd a hyblygrwydd, o fewn y rheoliadau a'r cynllun gweinyddol hefyd. Nawr, pe baech yn ei roi yn y...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Wel, edrychwch, rwy'n berson eithaf hyblyg a hael, ond rwyf ychydig yn siomedig gydag ymateb y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i'r hyn y credaf iddi fod yn agwedd adeiladol tuag at hynt y Bil hwn. A gaf fi ddweud, drwy bleidleisio yn erbyn y Bil hwn, rydych yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd, fel y gwyddom eisoes o'r ardaloedd peilot, yn rhoi £200 i £250 yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar Gyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Cyflwynwyd y Bil hwn i'r Cynulliad ym mis Ebrill oherwydd ein bod eisiau creu proses syml, 'unwaith i Gymru' i wirio cymhwysedd person ar gyfer y cynnig gofal plant. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw Bil a fydd yn ein galluogi i wneud yn union...
Huw Irranca-Davies: Mark Drakeford.
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Suzy. Rwy'n credu bellach ein bod ar y cyd wedi dihysbyddu amynedd ein cyd-Aelodau. Ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi annog cyd-Aelodau ar y meinciau hyn ac ar eu traws, 'Gadewch inni gadw'r gwrthryfeloedd hynny i ddigwydd yn San Steffan ac nid yma'? [Torri ar draws.] Er ei bod yn hwyr yn y dydd. A gaf fi ddiolch, gyda'r gwelliant olaf hwn, i'r rhai sydd wedi cynnig gwelliannau ac wedi craffu'n dda ar y cam hwn o daith y Bil? Yn wir, cododd y mater hwn yn ystod Cyfnodau 1 a 2. Yr...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddechrau drwy adnewyddu gwybodaeth yr Aelodau a'u hatgoffa am y cyfraniad sylweddol rydym eisoes yn ei wneud fel Llywodraeth drwy'r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu a gyhoeddwyd y llynedd o ran datblygu yn union yr hyn y mae'r Aelod wedi gofyn amdano, sef capasiti a gallu ychwanegol ar draws y sector gofal plant a'r sector chwarae? Nod y cynllun 10 mlynedd yw proffesiynoli'r...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n ymwybodol yn wir fod amrywiaeth o heriau cyfathrebu wedi wynebu awdurdodau lleol, rhieni a darparwyr o ran y cynnig hyd yma, ac rwyf wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad gwerthuso ar gyfer blwyddyn gyntaf y gweithredwyr cynnar, sy'n cynnwys llawer o'r pwyntiau hyn, yn ofalus iawn. Felly, byddwn yn lansio ymgyrch gyfathrebu genedlaethol ar y cynnig cyn ei fod ar gael yn genedlaethol yn...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: Diolch. Suzy, diolch yn fawr iawn. Rwy'n hapus i gael fy mhrofi ar hyn ac i gofnodi rhai sylwadau yn ogystal, a diolch am eich ymroddiad i geisio symud rhywfaint o hyn yn ei flaen yn fy ngwelliant fy hun yma hefyd. A gaf fi gydnabod y croeso a roesoch i'r ffordd rydym eisoes wedi dysgu o, ac wedi ystwytho rhai agweddau ar y cynllun gweinyddol yn agored iawn—wedi dweud beth rydym yn ei...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd, a gaf fi ddechrau—
Huw Irranca-Davies: Ie, a byddem yn awyddus i wneud hynny. Ac eisoes mae'r trafodaethau hynny gyda CThEM wedi bod yn mynd rhagddynt, y byddem yn adlewyrchu'r mecanweithiau hyn sydd ganddynt gyda'r apêl i'r tribiwnlys haen gyntaf. Ac rwy'n hapus i fynd yn ôl at swyddogion a cheisio sicrhau bod hyn ymhlith y garfan gyntaf a gyflwynwn, os yw hynny'n rhoi peth sicrwydd. Nawr, ymddengys i mi mai bwriad y gwelliant...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Gallaf sicrhau'r Aelodau ac etholwyr y bydd proses ar gyfer adolygu penderfyniadau'n cael ei gwneud mewn perthynas â chymhwysedd person i fanteisio ar y cynnig, ac y byddwn yn ceisio bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â sut y gall unigolyn herio penderfyniad a wnaed ynglŷn â'u cymhwysedd. Yn wir, ceir achos sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r cynnig yn Lloegr,...