Llyr Gruffydd: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau dyfodol y diwydiant llaeth?
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol undebau credyd yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Mae'n rhaid i mi ddweud bod y digwyddiad hwn yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru yn cadw Cyfoeth Naturiol Cymru hyd braich mewn gwirionedd, neu a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhwym i farn ei feistri gwleidyddol ym Mharc Cathays. Yn ôl ym mis Gorffennaf, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru benderfyniad unfrydol yn erbyn gwaharddiad. Nid oeddech yn hoffi'r penderfyniad...
Llyr Gruffydd: Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau, wrth gwrs, i'm cyd-Aelod Plaid Cymru fan hyn, Adam Price, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig y bydd adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r penderfyniad ar y gorchmynion statudol yn destun trafodaeth a phleidlais yn y Siambr yma cyn gwneud penderfyniad. A allwch chi, felly, gadarnhau i ni i gyd a fydd y bleidlais honno'n bleidlais rwymol?
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Mae'r A483, wrth gwrs, ffordd rydych yn gyfarwydd â hi—ffordd osgoi Wrecsam—yn briffordd allweddol ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru ac mae angen gwelliannau ers sawl blwyddyn bellach i'r cyffyrdd sy'n ei chysylltu â'r dref, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw hynny. Credaf i chi alw cyffordd Ffordd Rhuthun yn gynharach eleni yn beryglus wedi damwain...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ52635
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei datganiad a chroesawu’r datganiad hefyd? Yn amlwg, byddwn ni eisiau gweld y fframwaith a’r manylion pan fyddan nhw ar gael, ond rydw i’n sicr yn cefnogi’r cyfeiriad rydych chi’n symud tuag ato fe. Yn aml iawn, rŷm ni’n anghofio—yn sicr yn y blynyddoedd a fu, efallai—fod angen ymddiried yn yr athrawon yn fwy, efallai, nag ydym ni wedi...
Llyr Gruffydd: Mae yfory'n Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Cynulliad yn mwynhau'r peint o laeth y byddaf fi'n ei ddelifro i stepen drws eich swyddfeydd chi bore fory, er mwyn tanlinellu a'ch atgoffa chi o werth iachusol llaeth i'n plant ni, a hefyd wrth gwrs pwysigrwydd y sector llaeth i economi cefn gwlad. Nawr, mae'r cynllun yma, wrth gwrs, yn cael ei sybsideiddio'n...
Llyr Gruffydd: Ond mae'r pwynt yn ddilys, onid yw? Mae yna rywbeth unigryw ynglŷn â'r ffigurau yma yng Nghymru, oherwydd mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn y myfyrwyr israddedig sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ond mae Cymru wedi gweld cwymp o 10 y cant. Nawr, awgrym gan eich Ysgrifennydd addysg chi, wrth gwrs, yw bod y ffordd y mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghymru wedi newid...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ariannu amaeth a chefn gwlad ar ôl Brexit?
Llyr Gruffydd: Hoffwn ddweud ychydig eiriau yn awr am ymgynghoriad parhaus Llywodraeth Cymru, 'Brexit a'n tir'. Nawr, y tro diwethaf y bu'r Llywodraeth yn ystyried newidiadau mawr i daliadau fferm yng Nghymru, aethant ati i asesu faint y byddai pob busnes, pob sector, pob sir yng Nghymru yn ei golli neu'n ei ennill drwy fodelu cynhwysfawr iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau allweddol. Nawr, y newidiadau...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd, ac a gaf i gyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, sy'n berthnasol i'r pwnc yma, wrth gwrs? Ac a gaf i gychwyn drwy resynu at yr iaith y mae UKIP yn ei defnyddio yn eu cynnig, fel rydym ni wedi'i chlywed? Mae'n gychwyn ymfflamychol i drafodaeth y mae nifer ohonom ni wedi bod yn trio ei hannog mewn modd adeiladol a phositif dros y blynyddoedd diwethaf. Rydw i'n credu...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi gweld nifer o newidiadau a diwygiadau dros y blynyddoedd, yn enwedig dros ddau dymor diwethaf y Cynulliad efallai. Rydym wedi gweld yr adolygiad o'r system gymwysterau, rydym wedi gweld adolygiad parhaus yn awr o'r cwricwlwm cenedlaethol, rydym wedi gweld newidiadau i anghenion dysgu ychwanegol...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn, wrth gwrs, fod yr uned gofal dwys ar gyfer babanod, y SuRNICC, bellach wedi agor yng Nglan Clwyd ac mi fyddai'n braf medru llongyfarch y Llywodraeth ar ei gweledigaeth yn hynny o beth. Ond, wrth gwrs, y gwir plaen yw bod y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, yn ôl yn 2013, wedi cymeradwyo israddio gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd. Bryd hynny, y...
Llyr Gruffydd: Nid yw'n iawn fod teuluoedd sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn gallu cael gofal plant am ddim pan fo'r plant tlotaf o aelwydydd di-waith, wrth gwrs, yn cael eu heithrio rhag mwynhau'r union fanteision hynny. Gwyddom fod y plant tlotaf, erbyn yr adeg y maen nhw'n dair blwydd oed, eisoes 10 mis y tu ôl i'w cyfoedion mwy cefnog o ran datblygu geirfa, lleferydd a llythrennedd. Yn wir,...
Llyr Gruffydd: Mi gychwynnaf i drwy siomi'r Gweinidog a dweud na fyddaf i'n newid fy marn ynglŷn â fy mwriad i, a Phlaid Cymru, i wrthwynebu'r Bil yma. Mi gyfeiriodd at y ffaith bod y Bil, wrth gwrs, yn fyr ac yn dechnegol—mae hynny'n gywir—ac mae yna rhyw ddatgysylltiad yn bodoli rhwng y Bil a pholisi'r Llywodraeth. Ond, wrth gwrs, tra bod y geiriau yn y cymal cyntaf o'r adran gyntaf yn sôn am...
Llyr Gruffydd: Mae awdurdodau lleol y siaradais â hwy yn pryderu bod hyn oll yn cael ei wneud ar y funud olaf, ac yn amlwg mae hynny'n tanlinellu'r ffaith mai gweithredu mewn ymateb i gael gwared ar y grant gwisg ysgol oedd hyn. Felly, rwyf fi hefyd yn croesawu'r tro pedol hwn gan y Llywodraeth. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthyf eich bod wedi cyhoeddi eich datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r...
Llyr Gruffydd: Mi oeddwn i’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn mewn arian cyfalaf, fel rhan o’n cytundeb ni ar y gyllideb atodol, er mwyn ehangu addysg Gymraeg. Rydw i, erbyn hyn, wedi cael cadarnhad bod pob un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymgeisio am gyfran o’r arian yna—yn wir, bod cyfanswm y ceisiadau dros £100 miliwn. Felly, leiciwn i ofyn...
Llyr Gruffydd: A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i Donna Ockenden a'i thîm am eu gwaith wrth baratoi'r adroddiad hwn? Byddwn i wrth fy modd yn gallu ymestyn yr un diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ond mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Dydw i ddim yn teimlo y galla’i wneud hynny, a rhaid imi ddweud bod y paragraff cyntaf yn gosod y dôn, onid yw? Does ond rhaid ichi edrych ar...
Llyr Gruffydd: Dyma'r un ateb rydw i wedi bod yn ei gael ers pum mlynedd o ofyn yr un cwestiwn, i bob pwrpas, ac rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at adroddiad damniol arall sydd wedi cael ei gyhoeddi nawr yn ddiweddar. Mae e, wrth gwrs, yn anghenfil o fwrdd iechyd, onid yw e; y corff cyhoeddus mwyaf, yn sicr y bwrdd iechyd mwyaf, sydd gennym ni yng Nghymru. Ond dros y tair blynedd diwethaf mae e wedi bod mewn...