Mike Hedges: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. O’r holl rywogaethau estron sydd gennym yn Abertawe, yr un sy’n achosi’r broblem fwyaf inni yw clymog Japan, sy’n oresgynnol iawn, yn anodd iawn ei dileu ac yn arwain at fethu gwerthu tai a difrod i ddraeniau, a gall danseilio sylfeini tai. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â defnydd o’r profion...
Mike Hedges: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broblem o rywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru? (OAQ51178)
Mike Hedges: Os gwelwch yn dda.
Mike Hedges: Rwy'n cytuno’n llwyr â chi. Nid wyf yn gweld pam na ellir adfer y pethau hyn, a chredaf ei bod yn anffodus bod yna rai pobl sydd â'r meddylfryd hwn o daflu pethau i ffwrdd o hyd. Rydym wedi gweld newidiadau cyflym mewn technoleg. Y ffôn symudol—rwy’n gwybod ei fod wedi tarfu ar y sesiwn ar sawl achlysur y prynhawn yma. Mae hwnnw'n cynnwys aur, metelau trwm—mewn gwirionedd, mae...
Mike Hedges: Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, fe ddaethom ni yn gymdeithas sy’n taflu pethau i ffwrdd. Roedd fy nain, a gafodd ei geni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn byw gyda gŵr di-waith yn ystod y 1930au, yn cael ei dychryn yn aml gan wastraff cyffredinol cymdeithas ar yr adeg honno—eitemau a oedd yn gweithio, a dim byd o'i le arnyn nhw, yn cael eu taflu’n aml a'u cludo i safleoedd...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Oni fyddech chi yn derbyn bod diwastraff yn amhosibl os oes llosgi i fod, oherwydd bydd llosgi bob amser yn arwain at wastraff gweddilliol?
Mike Hedges: Rwy’n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar drafnidiaeth o fewn Dinas Ranbarth Bae Abertawe. Dylai'r datganiad hwn gynnwys cyfnewidfeydd bws-rheilffyrdd, sydd eu hangen yn daer; ailagor gorsafoedd rheilffordd sydd wedi cau megis gorsaf Glandŵr ac agor gorsafoedd rheilffordd newydd fel y Cocyd; gwell cysylltiadau ffordd, yn enwedig creu ffordd ddeuol yr A40; a gwell llwybrau beiciau,...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Wrth gwrs, roedd tai cyngor yn cael eu hadeiladu i safon uchel iawn tan i'r Ceidwadwyr gael gwared ar safonau Parker Morris. A gaf i ddweud bod rhai o'r tenantiaid a’r cynghorau mwy goleuedig yng Nghymru yn cefnogi cadw stoc tai cyngor yn nwylo'r cyngor? Pa gefnogaeth wnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i gynghorau fel Dinas a Sir Abertawe,...
Mike Hedges: Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd trydaneiddio’r brif reilffordd o Lundain i Abertawe o ran mynd trwy Ben-y-bont ar Ogwr, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny’n hynod bwysig. Rwy’n credu bod y neges y mae'n ei gyfleu i ddarpar fuddsoddwyr o ba mor bwysig yr ydych chi’n credu yw ardal pan eich bod chi'n atal y trydaneiddio 40 milltir i ffwrdd yn anfantais ddifrifol i'r rheini ohonom ni...
Mike Hedges: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu digon o dai o ansawdd yng Nghymru? (OAQ51177)
Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am roi munud imi yn y ddadl hon. Mae gan dde Cymru ddau brif ysbyty—nid oes dadl am hynny—yn Nhreforys a’r Mynydd Bychan. Mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar hyn: sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r ddau? Mae angen i ni gefnogi’r ddau. I orllewin Cymru—ac rwy’n cynnwys yr ardal rydych chi’n ei chynrychioli, Llywydd—Treforys yw’r prif ysbyty....
Mike Hedges: Ardal masnach rydd.
Mike Hedges: A gaf fi sôn am systemau trafnidiaeth gyhoeddus integredig? Mewn llawer gormod o ardaloedd, mae gennym fysiau ac mae gennym drenau, ond mae’r bws yn cyrraedd ar adeg wahanol i’r adeg y mae’r trên yn gadael, ac mae gennym sefyllfa hefyd lle y mae bysiau’n parcio gryn bellter i ffwrdd oddi wrth y trên. Yn fy etholaeth i er enghraifft, Dwyrain Abertawe, mae gennym orsaf Llansamlet,...
Mike Hedges: A gaf i, yn gyntaf oll, groesawu'r datganiad? A gaf i dynnu sylw at ddau beth? Pwysigrwydd deialog ynglŷn â gwasanaethau bysiau—yn rhy aml, mae gwasanaethau bysiau’n cael eu cynnal gan gwmnïau bysiau heb ddigon o ddeialog â defnyddwyr ac eraill. Yr ail beth: pwysigrwydd cyfnewidfeydd bws-rheilffyrdd. Nid wyf yn meddwl y gallwch chi or-amcangyfrif pa mor boblogaidd yw teithio rhatach....
Mike Hedges: Mae arweinydd y tŷ yn ymwybodol iawn o fy niddordeb mewn buddsoddi i arbed. Mewn gwirionedd, mae hi siŵr o fod wedi bod ar goll heb fy nghwestiynau dros y 18 mis diwethaf fwy neu lai. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar lwyddiant arloesi i arbed, a sut y mae arloesi llwyddiannus yn cael ei hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru ac ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru.
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy’n cytuno'n llwyr bod hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch yn mynd i fod yn hynod bwysig i economi Cymru, a gall meysydd fel roboteg a graphene helpu i dyfu economi Cymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen eglurhad pellach o’r diffiniad o weithgynhyrchu uwch gan Lywodraeth Cymru, i eithrio pethau fel technoleg y 1970au ar gyfer cotio...
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru? (OAQ51139)
Mike Hedges: Gallaf gael fy argyhoeddi bod angen ffordd liniaru i’r M4, ond ar hyn o bryd nid wyf wedi fy argyhoeddi. Rydym bob amser yn siarad yma am benderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth. A ydym yn gwybod lle y mae pobl yn ymuno â’r M4 a lle y dônt oddi arni, gan ddefnyddio technoleg adnabod rhifau? A oes angen iddynt ddefnyddio’r M4, neu a oes ffyrdd eraill? A oes unrhyw ystyriaeth...
Mike Hedges: Ie, ond cyfartaledd ydyw, onid e? Ac felly mae’n rhaid i chi weld faint o iâ sy’n torri i ffwrdd yn Antarctica ac yn yr Arctig, ac mae hynny’n mynd i arwain at lifogydd mewn nifer fawr o ardaloedd isel, a gwledydd yn diflannu o bosibl. Y peth arall roeddwn yn mynd i ddweud oedd, os ydych am helpu’r tlawd: gwell inswleiddio. Mae llawer ohonom wedi ymweld â phobl yn eu tai, ac yn sicr...