Canlyniadau 1021–1040 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Effaith Toriadau i Gyllid Awdurdod Lleol ( 5 Rha 2018)

Mark Isherwood: Pa drafodaethau a gawsoch gyda phrif weithredwr Cyngor Sir y Fflint ers iddo ysgrifennu at yr holl gynghorwyr yno ar 16 Tachwedd i ofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch #CefnogiGalw i gael cyfran deg o gyllid cenedlaethol Cymru, ac a gafodd gefnogaeth unfrydol gan aelodau o bob plaid ar 20 Tachwedd i fynd â'r frwydr, ac rwy'n dyfynnu, 'i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd'?

2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol ( 4 Rha 2018)

Mark Isherwood: Mae gan y Prif Weinidog y dasg erchyll o gymodi llawer o wahaniaeth barn a blaenoriaethau, ac ar yr un pryd ceisio anrhydeddu canlyniad y refferendwm, cyflwyno cytundeb masnach rydd cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol newydd, diogelu swyddi a diogelwch pobl, a chynnal uniondeb ein Teyrnas Unedig. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd dros fasnach ryngwladol yr haf hwn, roedd yn rhaid cyfaddawdu,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwyddiannau'r Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru ( 4 Rha 2018)

Mark Isherwood: Er gwaethaf blynyddoedd o rybuddion gan Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru, cafodd ymarfer cyffredinol yng Nghymru y ganran isaf o gyllideb y GIG o unrhyw ran o'r DU y llynedd. Dyna'r rheswm allweddol pam mae cymaint o feddygfeydd yn y gogledd wedi cau. Sut ewch chi i'r afael â'r bwlch hwnnw yn y gyfran o gyllid, yn hytrach na'r bwlch cyllid, ac arallgyfeirio darpariaeth i ddarparu...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (28 Tach 2018)

Mark Isherwood: Mae'r Mabinogi gwych yn cynnwys y rhamantau Arthuraidd hysbys cyntaf yn y Gymraeg, a ysgrifennwyd, yn hollbwysig, cyn i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei hanesion ffug ar gyfer y llysoedd Normanaidd. A ydych yn cytuno y dylem fod yn hawlio'r straeon hynny'n ôl ar gyfer Cymru?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Busnesau Bach Ynys Môn (28 Tach 2018)

Mark Isherwood: Roedd prosbectws seilwaith Caergybi, wrth grynhoi cyfleoedd ar gyfer swyddi, twf a buddsoddiad ar Ynys Môn, yn dweud bod angen cwblhau'r prosiectau galluogi y manylir arnynt yn yr adroddiad cyn buddsoddiad y sector preifat, neu fel arall ni ellir manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd. Yn gynharach eleni, nodai adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Clywodd y Pwyllgor fod prinder...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Oherwydd bod ganddi brofiad ymarferol ac mewn gwirionedd oherwydd y lansiwyd y fecanwaith cymorth yng Nghymru yn 2013, y gwnaeth y criw hwn geisio ei danseilio. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers 2012 ar y cynlluniau i'w gyflwyno, a chyflwynodd y fframwaith gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer credyd cynhwysol yn 2013, a ddatblygwyd...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Fel y dywedodd Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'r DU, Amber Rudd, yr wythnos diwethaf: Gwn fod problemau gyda'r credyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da. Rwyf wedi eu gweld drosof fy hun. Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Gwn y gall fod yn well. Ychwanegodd bod adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Diolch i bawb a gyfrannodd. Fel yr amlygodd Darren Millar, roedd llythyr gan arweinwyr llywodraeth leol, a lofnodwyd ganddyn nhw i gyd, yn rhybuddio y byddai toriadau i wasanaethau ataliol yn ddarbodaeth ffug. Fel y dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor, cafwyd cyhoeddiad bod £30 miliwn yn mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ond mae hynny yn...

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Rydych chi'n cyfeirio at addysg perthnasoedd iach i blant a phobl ifanc, yn eu hatal rhag dod yn ddioddefwyr neu dramgwyddwyr, a chyflwyno addysg am berthnasoedd a rhywioldeb mewn ysgolion o 2022, ond nad oes yn rhaid i ysgolion aros tan y cyflwyniad ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi eu paratoi'n ddigonol cyn hynny i wneud hyn. Pan holais chi ynglŷn â hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor...

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad. Rydych chi'n dweud bod safonau'n cael eu pennu ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn cyfeirio at 135,000 o bobl wedi'u hyfforddi. Wrth gwrs, mae hyfforddiant yn ddigwyddiad yn hytrach nag yn broses, ac nid yw ymwybyddiaeth yr un fath â deall a derbyn materion wrth inni gamu i'r dyfodol. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sefydlu hyn, nid fel digwyddiad...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Rydych chi'n dweud mai un o nodweddion diffiniol gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de fu ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd siarad gyda a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Wrth gwrs, mae cyd-gynhyrchu, sydd mewn deddfwriaeth yng Nghymru, yn mynd ymhellach, i raddau helaeth iawn o ran y ddyletswydd gynaliadwyedd a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: A gaf i ofyn am un datganiad ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd? Euthum i gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ddydd Sadwrn, lle cyfeiriodd y Cadeirydd ni at ddiweddariadau teithio byw Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, a ddangosodd, ac eithrio mân achosion o oedi rhwng Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Caerdydd ac Abertawe, fod holl...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth yn rhan o'r fargen. Cyflwynwyd y cais i'r ddwy Lywodraeth fis Rhagfyr diwethaf, gan gynnwys galwadau i Lywodraeth Cymru ddirprwyo pwerau i'r gogledd, fel y gallai weithredu mewn swyddogaeth weithredol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru (27 Tach 2018)

Mark Isherwood: 1. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ52981

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau ar Feddygon Teulu (21 Tach 2018)

Mark Isherwood: Er gwaethaf rhybuddion flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain, mae nifer y meddygon teulu cofrestredig sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel isaf ers pum mlynedd. Yn 2014, rhybuddiodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cyfran cyllid GIG Cymru ar gyfer gofal cleifion ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng ers...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canlyniadau Canser yng Ngogledd Cymru (21 Tach 2018)

Mark Isherwood: Mae gwasanaethau endosgopi yn allweddol i sicrhau y gwneir diagnosis ac y gellir canfod canser megis canser y coluddyn yn gynnar, ac mae 104 o gleifion yng ngogledd Cymru sydd angen endosgopi yn aros am dros 24 wythnos neu 168 o ddiwrnodau. Yng nghyfarfod diweddaraf Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedwyd bod y gwasanaethau endosgopi wedi uchafu hyn drwy ôl-lenwi a darparu...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor (21 Tach 2018)

Mark Isherwood: Mae'n 18 mis ers i mi ofyn i'r Prif Weinidog yma i sicrhau bod yr achos busnes ar gyfer ysgol feddygol newydd ym Mangor yn cynnwys deialog gydag ysgol feddygol Lerpwl ar ôl i bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru fynegi pryder fod y cyflenwad blaenorol oddi yno, o ble y daeth llawer o'u cenhedlaeth hwy o feddygon teulu, wedi cael ei atal i raddau helaeth. Felly yn ogystal â'r addysg...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynediad i Lawfeddygon Orthopedig (20 Tach 2018)

Mark Isherwood: Ar sawl achlysur yn ystod blynyddoedd datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu potiau o arian i leihau amseroedd aros os ydynt wedi mynd yn rhy hir. Yn 2017-18, 339 o ddiwrnodau oedd yr amser aros canolrifol am lawdriniaeth pen-glin ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, cynnydd o 95 o ddiwrnodau o'r flwyddyn cynt. Mae dros 61 y cant o'r rhai sy'n aros am lawdriniaethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Mynediad i Lawfeddygon Orthopedig (20 Tach 2018)

Mark Isherwood: 6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i lawfeddygon orthopedig? OAQ52936

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Cysylltedd Band-eang yn Arfon (14 Tach 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Roedd yr ymatebion a gefais gan Openreach ar ran etholwyr o Arfon ac Ynys Môn, ar draws i Sir y Fflint a Wrecsam, ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben ar 31 Rhagfyr y llynedd, i gyd yn cynnwys brawddeg yn dweud bod y gwaith gweithredol ar unrhyw brosiectau nad ydynt wedi'u cwblhau wedi dod i ben. Ar 23 Hydref, yn eich datganiad i'r Cynulliad, gwnaethoch gadarnhau bod lot 1...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.