Lee Waters: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, croesawaf eich sylwadau bod y Gweinidog Cyllid yn fodlon edrych ar y symiau canlyniadol o ddatganiad yr hydref i weld a oes posibilrwydd o ddatblygiad pellach o ran inswleiddio cartrefi. Mae'r cynlluniau Arbed a Nyth wedi bod yn gynlluniau ardderchog i fynd i'r afael â gollyngiadau carbon a thlodi. Fodd bynnag, nid ydyn nhw’n ddigon mawr i ddiwallu her...
Lee Waters: Ysgrifennydd y Cabinet, yng nghanol y siom, gallwn o leiaf gael ein calonogi gan y perfformiad mewn mathemateg, lle gwelodd Cymru y cynnydd mwyaf yn y DU ac, fel y soniasoch, o'r 71 o wledydd a gymerodd ran yn PISA, dim ond pedwar a berfformiodd yn well na ni o ran gwella perfformiad mathemateg. Felly, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r gwelliannau mewn mathemateg y gellir eu cymhwyso i’r...
Lee Waters: A wnewch chi ildio?
Lee Waters: Yn fyr iawn, a gaf fi ofyn, fel rhan o’r pecyn rydych wedi’i negodi, faint o hynny fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer gwerthuso i wneud yn siŵr fod y gwersi hynny’n cael eu dysgu?
Lee Waters: Diolch. O ystyried bod yr achos dros adael yr UE yn seiliedig, yn rhannol, ar bwysigrwydd dychwelyd pwerau i’r Senedd, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yr un mor ddryslyd â minnau fod Llywodraeth y DU yn herio safbwynt y llys y dylai fod gan y Senedd rôl yn sbarduno hyn? A fyddai’n cytuno bod hwn yn fater i holl Seneddau’r DU, ac nid i Senedd San Steffan yn unig? Ac a yw wedi bod mewn...
Lee Waters: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hawl Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos yn ymwneud ag Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys? OAQ(5)0011(CG)
Lee Waters: Cytunaf yn llwyr fod iddi fanteision lluosog, o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran lleihau niwed i’r amgylchedd, sydd hefyd yn helpu rhai o’r bobl dlotaf yn y byd drwy liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Nawr, nid yn unig y mae’r algorithmau hyn a gymhwyswyd yn fanwl yn golygu bod llai o bethau’n mynd i mewn, am lai o gost i’n ffermwyr, ac i’r amgylchedd gyda llai o gemegau...
Lee Waters: Gwnaf.
Lee Waters: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai dryslyd yw’r ffordd orau o ddisgrifio’r olwg ar wynebau llawer o fy nghyd-Aelodau pan gyhoeddwyd y byddem yn cael dadl ar ddefnyddio data mawr mewn amaethyddiaeth, ond gallaf sicrhau’r Cynulliad nad canlyniad rhyw ysmaldod esoterig ar ran noddwyr y ddadl yw hyn. Mae goblygiadau ymarferol data mawr mewn ffermio yn enfawr. Mae...
Lee Waters: Mae amaethyddiaeth fanwl ar flaen y gad o ran y chwyldro data. Mae’n faes sy’n datblygu’n gyflym lle y caiff gwybodaeth ei defnyddio i gynhyrchu bwyd a thrin tir er mwyn gwella cynhyrchiant yn sylweddol a lleihau niwed i’r amgylchedd. Ym maes ffermio tir âr, er enghraifft, mae’r dull hwn yn galluogi ffermwyr i gasglu cyfoeth o wybodaeth amser real: lefelau dŵr a nitrogen, ansawdd...
Lee Waters: Diolch. Yng nghyfarfod diwethaf bwrdd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, datgelwyd mai tri awdurdod lleol yn unig sydd wedi bod yn barod i rannu data ar sut y maent yn prydlesu cerbydau. Beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i wneud rhannu data’n ofynnol, a phan fydd y data hwnnw gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, beth y gall ei wneud i sicrhau nad yw’r ffocws ar arbed...
Lee Waters: 7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Bwrdd y Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol ynghylch pa mor barod yw awdurdodau lleol i rannu arferion caffael? OAQ(5)0052(FLG)
Lee Waters: Diolch. Diolch yn fawr iawn. Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â Bwydydd Castell Howell yn fy etholaeth i, yn Cross Hands, un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol. Maen nhw wedi tyfu'n aruthrol dros yr ugain mlynedd diwethaf ac yn meddwl bod ganddynt gyfle gwych i dyfu ymhellach, ond maent yn rhwystredig â'r prosesau caffael ar gyfer gwneud cais i werthu eu nwyddau i'r sector...
Lee Waters: Yn wir. Wedi’i nodi. Mae yna wyntoedd oer yn chwythu drwy ein heconomi, Ddirprwy Lywydd, a gall y sefyllfa fod yn heriol iawn yn wir yn y blynyddoedd i ddod, yn dibynnu ar delerau masnach gadael yr UE. Mae araith Hefin wedi llwyddo i grynhoi llawer o’r trafodaethau a gawsom eisoes fel aelodau’r meinciau cefn yn ddiweddar wrth geisio ysgogi syniadau newydd a chonsensws ar bolisi...
Lee Waters: Diolch i Hefin David am ei eiriau caredig ac am gynnal y ddadl fer hon a rhoi peth amser byr iawn i mi yn y ddadl fer honno. Rwy’n gwerthfawrogi hynny.
Lee Waters: Mae’n werth pwysleisio nad oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli’r pŵer i bennu tollau ar bont Hafren i’r Cynulliad. Felly, mae hon yn ddadl gymharol ddamcaniaethol, wedi’i chynllunio’n bennaf i roi pwysau ar Lywodraeth y DU. Pe bai pwerau’n cael eu datganoli, rwy’n meddwl y byddem yn cael trafodaeth ychydig yn wahanol y prynhawn yma. Ond gan fod hon yn ddadl athronyddol i raddau...
Lee Waters: Diolch, Dai. Fe’ch clywais yn galw am weithredu radical. Clywais alwad eich plaid am weithredu radical yn ddiweddar iawn ar newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy’n ei chael yn rhyfedd eich bod yn awr yn dadlau o blaid safbwynt a fydd yn cynyddu maint y traffig rhwng 12.5 a 25 y cant, a fydd yn ei gwneud yn anos gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Diolch. Mae pwysau’r trafodaethau ynglŷn â chynyddu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg—. Gwyddom mai oddeutu 16 y cant o blant yn unig sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n golygu y dysgir Cymraeg ar ryw lefel fel ail iaith i’r rhan fwyaf, y mwyafrif llethol, o blant ysgol yng Nghymru. Nawr, mae yna lawer o dystiolaeth i ddangos bod ansawdd y dysgu hwnnw mewn...
Lee Waters: A wnewch chi ildio?