Canlyniadau 1021–1040 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) (16 Rha 2020)

Jeremy Miles: Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch o gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) Llywodraeth y DU. Er bod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yn ymwneud â Bil newydd, mae'r cynnwys yn gyfarwydd, gan ei fod i raddau helaeth yn dyblygu darpariaethau casglu data a rhannu gwybodaeth fasnach o fewn y Bil Masnach. Gosodais...

15. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cymryd pob cam i sicrhau y bydd etholiadau'r Senedd yn cymryd lle ym mis Mai flwyddyn nesaf, er gwaethaf y sialensau parhaol sy'n codi yn sgil y pandemig COVID. Dyna pam rŷn ni'n mynd yn ein blaenau i gyflwyno deddfwriaeth alluogi ar gyfer yr etholiad hwnnw. 

15. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) yw'r cam nesaf yn y broses honno. Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn nodi rheolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau i'r Senedd, ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer her gyfreithiol. Cyn pob etholiad yn y Senedd, caiff y Gorchymyn ymddygiad ei adolygu a'i ddiwygio i ystyried unrhyw newid polisi neu...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu mai'r un yw'r ateb i gwestiwn Neil Hamilton ag a roddais i gwestiwn David Rowlands.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: [Anhyglyw.]—tri llythyr ynglŷn â physgodfeydd, maes chwarae teg a llywodraethu, a anfonais i at Michael Gove nifer o wythnosau yn ôl, a oedd yn nodi ein safbwynt dewisol ni o ran pob un o'r meysydd hynny sydd ar ôl. Rwyf wedi gofyn am gyfle, mewn mwy nag un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), i fod â rhan yn y trafodaethau strategol y mae Llywodraeth y DU yn...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn yna. Mae hi'n iawn i ddweud bod gan Gymru ganran fwy o allforion i'r Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. I gefnogi ein hallforwyr ni yn y misoedd sydd i ddod, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio gwasanaethau carfan o gynghorwyr masnach rhyngwladol, a fydd ar gael i gefnogi allforwyr i lywio'r fiwrocratiaeth newydd, y bydd...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Gaf i gytuno gyda'r pwynt diwethaf yna, i ategu sylwadau Dai Lloyd ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws Cymru i baratoi ar gyfer hyn, yn Llywodraeth Cymru, ond gyda'n partneriaid ni hefyd ac mewn sectorau lu, ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, sydd ddim ond 16 diwrnod i fynd? Felly, mae Dai Lloyd yn iawn i ddweud bod tarfu o ryw fath yn anochel yn y ddwy senario sydd o'n blaenau ni ar...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: A gawn ni egluro un neu ddau o bethau ar gofnod, felly? Nid yw'r fargen barod i'r ffwrn yn ddim byd tebyg i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac rwy'n siŵr y bydd Prif Weinidog y DU yn hynod ddiolchgar iddo am ddarllen allan mor ffyddlon y sbwriel sydd, yn amlwg, wedi cael ei ddosbarthu yn San Steffan i geisio newid y ddirnadaeth o ran hynny. Ac o ran y rhestr o bwerau y mae ef yn ei...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Fe ddywedwyd wrthym ar ddechrau'r trafodaethau fod cytundeb parod i'r ffwrn gan y Prif Weinidog. Wel, ble mae hwnnw? Ac fe ddywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU y byddai mynnu, yn groes i bob rheswm, fwrw ymlaen â'r dyddiad cau o 31 Rhagfyr ar gyfer diweddu'r cyfnod pontio, er gwaethaf pandemig COVID, yn dod â'r ansicrwydd a fu'n rhemp yn y DU am y pedair blynedd diwethaf i ben. Wel,...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE (15 Rha 2020)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddydd Sul, pasiwyd carreg milltir arall fyth yn y trafodaethau ar berthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, eto heb ddod i gytundeb. Roeddwn i'n disgwyl gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi heddiw ar union natur ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roeddwn i'n disgwyl gallu crybwyll y camau allweddol y bydd nawr angen i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Allforio Cynnyrch o Gymru ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Hoffwn ei sicrhau, o ran y cytundeb masnach gyda Japan yn benodol y soniodd amdano yn ei gwestiwn, ein bod wedi cymryd rhan dda yn hynny. Yr wythnos hon, cyhoeddais asesiad o effaith y cytundeb masnach ar economi Cymru yn gyffredinol. Yn fras, mae'n efelychu'r trefniant presennol, ond ceir rhai ffyrdd lle mae'n ymestyn cyfleoedd, sy'n amlwg yn gadarnhaol iawn. Credaf mai ymgysylltu...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Allforio Cynnyrch o Gymru ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Do'n wir. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Weinidogion ar oblygiadau masnach ryngwladol ar ôl cyfnod pontio'r UE, ac mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd is-bwyllgor y Cabinet ar bontio Ewropeaidd a masnach.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brechlynnau COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Mae gallu'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i weithredu'n gyflym, fel y gwnaeth, wedi bod o fewn fframwaith rheoliadau presennol yr Undeb Ewropeaidd, fel y gŵyr yr Aelod. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn cyfeirio at gydweithrediad rhyngwladol yn y gofod hwn, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod datblygu'r brechlynnau wedi bod yn ymdrech ryngwladol anhygoel...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cynlluniau Mewnfudo Llywodraeth y DU ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Nid wyf yn derbyn dim o hynny. Felly, nid wyf yn derbyn yr iaith y mae'r Aelod yn ei defnyddio, sy'n ymfflamychol yn fy marn i, ac wedi'i chynllunio i fod yn ymfflamychol. Rwy'n credu y dylem gael polisi mewnfudo teg a chytbwys—sef yr un sydd gennym nes bydd Llywodraeth y DU yn rhoi rhywbeth arall yn ei le.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brechlynnau COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Mae'n newyddion da iawn fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi gallu cymeradwyo'r cyflenwad o'r brechlyn Pfizer/BioNTech. Mae wedi gallu gwneud hynny gan ddefnyddio darpariaethau o dan y gyfraith Ewropeaidd, a fydd yn gymwys tan 1 Ionawr 2021.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cynlluniau Mewnfudo Llywodraeth y DU ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Mae i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'i chynlluniau ar gyfer system fewnfudo sydd wedi newid yn radical yn ystod y pandemig hwn yn ymddangos yn fyrbwyll, fel roedd eu penderfyniad i wrthod argymhelliad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ar gyfer rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder i Gymru'n unig, a fyddai'n gwneud rhywfaint i leihau effaith andwyol polisïau mewnfudo newydd Llywodraeth y DU ar...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Perthynas Llywodraeth Cymru â'r Undeb Ewropeaidd ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: [Anghlywadwy.]—gyda chwestiwn atodol John Griffiths, rydym yn manteisio ar bob cyfle i gynnal y cysylltiadau hynny. Ym mis Medi, er enghraifft, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar y pryd a minnau â llysgennad yr UE i'r DU. Mae hwnnw'n amlwg yn benodiad newydd, ond daeth y llysgennad UE hwnnw i Gaerdydd. Rydym hefyd wedi bod yn cadeirio Menter Vanguard yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Perthynas Llywodraeth Cymru â'r Undeb Ewropeaidd ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Bydd perthynas gadarnhaol â'r UE yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru beth bynnag fydd canlyniad negodiadau'r UE a'r DU, fel y mae ein strategaeth ryngwladol yn ei nodi'n glir. Rydym yn parhau i'w meithrin drwy ymgysylltu â sefydliadau, aelod-wladwriaethau, rhanbarthau a rhwydweithiau'r UE, ac yn arbennig drwy ein swyddfa ym Mrwsel.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Paratoadau Brexit ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Credaf fod cwestiwn Dawn Bowden yn mynd i wraidd y mater yma. Rydym yn wynebu sefyllfa heddiw, lai na mis cyn diwedd y cyfnod pontio, pan nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod ar ba sail y byddwn yn cynnal ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr. Gwn fod busnesau a sefydliadau'n gweiddi am y sicrwydd hwnnw yn ei hetholaeth a ledled Cymru, ac yn ofni'r canlyniad, yn arbennig,...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Paratoadau Brexit ( 9 Rha 2020)

Jeremy Miles: Bydd gadael y cyfnod pontio, hyd yn oed gyda chytundeb, yn arwain at oblygiadau dwfn i fusnesau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth i baratoi, ac mae ein cynllun gweithredu ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yn nodi'r materion a wynebwn a'r camau rydym yn eu cymryd i gefnogi Cymru. Byddwn yn annog pawb yng Nghymru i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.