Canlyniadau 1021–1040 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (17 Ebr 2018)

David Melding: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni tai yng Nghymru?

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (21 Maw 2018)

David Melding: Rydym yn parhau i wrthwynebu'r Bil hwn mewn egwyddor am y rhesymau a nodais yng Nghyfnod 1. Nid wyf yn meddwl bod dim sydd wedi digwydd y prynhawn yma yn gallu sicrhau pobl fod hon wedi bod yn broses gadarn ar gyfer unrhyw fath o Fil, a dweud y gwir, heb sôn am Fil cyfansoddiadol. Ond yn y bôn, fel y dywedais yng Nghyfnod 1, proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r mecanwaith...

Grŵp 3: Diddymu’r Ddeddf (Gwelliannau 1, 2, 4, 5, 6, 8) (21 Maw 2018)

David Melding: Rwy'n cynnig y gwelliant.

Grŵp 3: Diddymu’r Ddeddf (Gwelliannau 1, 2, 4, 5, 6, 8) (21 Maw 2018)

David Melding: Diolch i'r Aelodau am eu perfformiad seneddol egnïol a'u syniadau ynglŷn â fy safbwyntiau traddodiadol ar y materion hyn. Y pwynt yw, dros y maes pwysig hwn o gyfraith gyfansoddiadol ac ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, mae arnom angen eglurder cyfreithiol. Byddai angen inni symud yn gyflym. Y rheswm pam rydych yn dadlau bod yn rhaid i chi wneud hyn ar frys yw bod angen cyflymder...

Grŵp 3: Diddymu’r Ddeddf (Gwelliannau 1, 2, 4, 5, 6, 8) (21 Maw 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau. Roedd yn rhyfedd nad oedd y Bil hwn yn cynnwys cymal diddymu, yn wahanol i Fil yr Alban. Bydd y gwelliant rwy'n siarad amdano yn cywiro'r diffyg hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgan y byddai'n well ganddi symud ymlaen drwy Fil y DU, ac rwy'n derbyn y datganiad hwnnw fel un...

Grŵp 1: Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol (Gwelliant 9) (21 Maw 2018)

David Melding: Mae gennych hyfdra yn awr fel Llywodraeth i wneud rhinwedd o'r ffaith eich bod wedi defnyddio'r weithdrefn frys, nad yw'n golygu, wrth gwrs, eich bod yn gallu craffu ar bethau'n iawn. Dyna rydych newydd ei ddweud wrth Simon Thomas. Hynny yw, mae'n draed moch.

Grŵp 1: Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol (Gwelliant 9) (21 Maw 2018)

David Melding: Rydym yn cychwyn ar y Bil cyfansoddiadol enfawr hwn gyda mater o egwyddor pwysig a osodwyd yn fersiwn yr Alban o, wel, eu Bil, ac rydych chi'n dweud yn awr nad oes gennym amser i archwilio'r pethau hyn yn iawn a'u hystyried yn llawn. Felly, onid yw'r weithdrefn gyfan hon yn gwbl ffug?

4. Datganiadau 90 Eiliad (21 Maw 2018)

David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Mae'n briodol ein bod yn talu teyrnged heddiw i Nicholas Edwards a fu farw ddydd Sadwrn. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1979 a 1987, gwnaeth gyfraniad parhaus i fywyd cyhoeddus Cymru. Yma yn y Senedd, mae gweledigaeth Nick Edwards ar gyfer sicrhau adfywiad trefol ym Mae Caerdydd yn amlwg iawn. Y bore yma, euthum ar draws y morglawdd a chael golygfeydd o ddinas...

3. Cwestiynau Amserol: Cyflogau'r GIG yng Nghymru (21 Maw 2018)

David Melding: Ond mae ei alw'n gelwyddgi—[Anghlywadwy.]

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Llosgydd Biomas y Barri (21 Maw 2018)

David Melding: A gaf fi gefnogi sylwadau Jane Hutt i chi fod arnom angen asesiad o'r effaith amgylcheddol? Mae Cyngor Bro Morgannwg o dan arweiniad y Torïaid wedi apelio am asesiad hefyd. Ceir unfrydedd gwleidyddol llwyr ynglŷn â hyn. Os ewch i lawr i'r Barri a siarad ag unrhyw un, yn aml iawn y peth cyntaf y byddant yn ei grybwyll yw'r gwaith llosgi hwn a'i faint anferthol. Mae arnom angen yr...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

David Melding: Unwaith eto, rwyf am bwyso arnoch. Credaf fod diwrnodau di-gar yn wych. Cefais brofiad o un am y tro cyntaf erioed oddeutu 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn ym Mrwsel, ac roeddwn yn crwydro o gwmpas yn meddwl—[Torri ar draws.] Wel, na, nid wyf yn rhannu'r ffobiâu sydd i'w cael mewn rhai rhannau o'r Siambr. [Chwerthin.] Ond rwy'n cofio teimlo, 'Beth sy'n rhyfedd? Beth sy'n anarferol'...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

David Melding: Weinidog, rwy'n amau a yw'r ymagwedd dameidiog hon, er ei bod wedi'i cydgysylltu'n dda, yn ddigon, a dyna pam rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â Deddf aer glân. A gaf fi eich atgoffa bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at 40,000 o farwolaethau cynnar yn y DU—yng Nghymru, 1,300—a bod cost flynyddol hynny, ar lefel y DU, yn fwy na £27 biliwn? Trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am 80...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Maw 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr y byddwch yn gwybod y cafwyd ymchwiliad digynsail, rwy'n credu, ar y cyd gan bedwar o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a ddywedai fod ansawdd aer gwael bellach yn argyfwng iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, maent yn sôn am bob Llywodraeth; nid eich un chi yn unig. Maent wedi galw am Ddeddf aer glân. Diolch...

8. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft (20 Maw 2018)

David Melding: A gaf i ddechrau trwy groesawu cyhoeddiad y Bil deddfwriaeth drafft hwn, a hefyd y ddogfen ymgynghori a'r cyfnod a gaiff ei roi nawr i'r ymgynghoriad hwnnw o bron i dri mis? Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn ac mae angen ymgynghori'n helaeth arnynt. Gwn y bydd gan y Llywodraeth ddiddordeb mawr yn yr ystod o safbwyntiau y mae'n gobeithio eu cael drwy'r broses hon. Ar yr ochr...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (20 Maw 2018)

David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen am dai yng nghymoedd de Cymru?

13. Dadl Fer — gohiriwyd o 28 Chwefror: Bancio tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon (14 Maw 2018)

David Melding: A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am ddefnydd mor rhagorol o'r ddadl fer? Dyma'n union y dylem fod yn ei drafod, ac fe'i gwnaed yn fwy eglur byth gan y ffilm ragorol honno. Mae hwn yn fater pwysig iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae yna gonsensws trawsbleidiol. Mae angen inni adeiladu mwy, fel y mae Vikki wedi amlinellu. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod yna deimlad ledled y DU, a'ch...

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Cwmnïau Rheoli Ystadau (14 Maw 2018)

David Melding: A gaf fi ddiolch i Hefin a dweud hefyd fy mod yn credu bod yr hwyl a gafodd ar hyn y prynhawn yma yn briodol iawn, oherwydd credaf mai dyna yw pwrpas deddfwrfa sy'n myfyrio ar fuddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n effeithiol er mwyn caniatáu'r math hwn o lwybr lle y gall Aelodau'r meinciau cefn nodi materion sy'n wirioneddol allweddol. Nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth deimlo grym y...

7. Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru (14 Maw 2018)

David Melding: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r cynnig hwn a'r enwebiad arfaethedig i'w Mawrhydi y Frenhines? Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gydag Adrian Crompton am flynyddoedd lawer, ac yn fwyaf diweddar yn ystod fy nghyfnod fel Dirprwy Lywydd. Mae'n ddyn sy'n meddu ar lefel uchel o onestrwydd, eglurder meddwl, a'r ymrwymiad dyfnaf i graffu mewn bywyd cyhoeddus. Yn anad dim, mae Adrian Crompton...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru (14 Maw 2018)

David Melding: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Fe fyddwch yn gwybod bod galw wedi bod ers tro am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig arbenigol yn y rhanbarth. Ac yn wir, Cymru yw'r unig wlad yn y DU ar hyn o bryd nad oes ganddi wasanaeth arbenigol ar gyfer rhewmatoleg pediatrig. Fe fyddwch hefyd yn gwybod y bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cyfarfod ar 27 Mawrth i drafod y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru (14 Maw 2018)

David Melding: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru? OAQ51882


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.