Siân Gwenllian: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau? OAQ(5)0022(FLG)[W]
Siân Gwenllian: Mae’n hollol amlwg gan bawb yn y Siambr sydd wedi siarad heddiw bod angen strategaeth, a hynny ar frys, i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Nghymru. Rwyf i’n mynd i ddadlau bod y strategaeth yma yn gorfod bod yn un sydd yn digwydd ar draws Cymru. Mae gennym ni ddwy ysgol feddygol—un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe—ond nid oes gennym unrhyw beth o gwbl yn y gogledd nac yn y canolbarth....
Siân Gwenllian: Mae angen cynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae angen i’r tai hynny fod y math iawn o dai, ac mae angen iddyn nhw fod yn y llefydd iawn er mwyn diwallu gwir anghenion pobl Cymru. Yn eich datganiad chi ar y Ddeddf gynllunio yng Ngorffennaf eleni, gwnaethoch chi ddweud: ‘Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Mae bron i hanner holl ddoctoriaid Pen Llŷn dros 55 mlwydd oed, ac mae disgwyl i nifer helaeth ohonyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf, fydd yn arwain at argyfwng gwirioneddol. Mae yna dystiolaeth fod doctoriaid yn aros lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Felly, er mwyn mynd i’r afael â diffyg doctoriaid, mae yna ddadl gref, fel yr ydych wedi cyfeirio ato fo,...
Siân Gwenllian: 6. Beth yw strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi meddygon yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0026(HWS)W
Siân Gwenllian: Mae uchelgais Llywodraeth Cymru o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn nod i’w groesawu ac rwy’n falch eich gweld chi’n cadarnhau hyn eto heddiw. Er hynny, nid yw’r Llywodraeth eto wedi egluro sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o ychydig dros 0.5 miliwn yn 2011 i 1 filiwn erbyn 2050. Rwy’n gweld y byddwch chi’n cyhoeddi fod yna ymgynghoriad i fod, eto fyth, ar...
Siân Gwenllian: Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy’n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i’r...
Siân Gwenllian: Mae mynediad at addysg gynnar o safon uchel yn ffordd effeithiol o gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant difreintiedig a phlant eraill, a sicrhau datblygiad ieithyddol plant ifanc. Ar hyn o bryd, mae plant sy’n byw mewn tlodi parhaus yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu datblygiad iaith pan yn bump oed o’u cymharu â’u cyfoedion mwy cefnog....
Siân Gwenllian: Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu’ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn. Mae’r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae’r adeilad yn hollol anaddas—nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyfleusterau meddygfeydd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0089(FM)[W]
Siân Gwenllian: Diolch. Rydym wedi gosod y ddadl yma heddiw am ei bod hi’n dod yn glir bod angen newid y broses ddemocrataidd bresennol. Anghofiwch am y refferendwm am funud, os medrwch chi, achos, yn gyffredinol, mae pobl yn teimlo nad ydy eu pleidlais yn cyfrif. Mae angen i bobl weld bod pwrpas iddyn nhw bleidleisio, ac mae diwygio’r drefn yn un ffordd o fynd i’r afael â’r broblem ddyrys hon....
Siân Gwenllian: Cyn manylu ar hynny, mi wnaf i gyffwrdd â’r ddau fater arall. Y cyntaf ydy’r angen i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed gael y bleidlais. Mae hynny’n hollol angenrheidiol bellach. Roedd pobl ifanc yn ddig ac yn rhwystredig nad oedd eu llais yn cael ei glywed yn y refferendwm. Mae hefyd angen inni greu senedd i’r ifanc yng Nghymru. Cymru ydy’r unig wlad yn Ewrop sydd heb senedd o’r fath...
Siân Gwenllian: Rydych chi’ch dau wedi sôn am y cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn ystod ac ar ôl y refferendwm, ac rwyf innau’n rhannu’ch barn chi yn condemnio yr hyn sydd yn digwydd. Ond a fedrwch chi fynd ymhellach na jest gwneud datganiad yn y Siambr heddiw? A ydych chi’n gallu ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch y cyfraniad y mae pobl o wahanol wledydd Ewrop a’r...
Siân Gwenllian: Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i’r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i’w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i...
Siân Gwenllian: Mae’n bleser gennyf i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy’n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyfeirio at Blaid Cymru yn aml iawn yn eu haraith y prynhawn yma. Fel rydym wedi clywed yn barod gan Rhun, mae yna nifer o heriau yn wynebu’r gwasanaeth iechyd, ac yn aml mae’r heriau hynny ar eu mwyaf dwys yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig....
Siân Gwenllian: Mae hanes strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yn ymddangos i mi, beth bynnag, yn un o osod dyheadau tymor hir er mwyn rhoi terfyn ar dlodi, ond heb osod targedau penodol byrdymor ac adnoddau priodol ar gyfer eu cyflawni. Yn aml iawn, mae’r dyheadau yn cael eu gohirio neu’u gollwng yn gyfan gwbl pan fydd y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw hi’n bosib i’w...
Siân Gwenllian: Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio’n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau’r broses o gynnig cyfle i’r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny...
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)[W]
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, a diolch am y diweddariad yna. Wrth gwrs, rydych chi’n cydnabod fan hyn bod y grant canolog wedi cael ei gynyddu, ond, wrth gwrs, mae llawer o gyllid ar gyfer y maes yma, ar gyfer cymorth i ferched, ar gyfer y llochesu, yn dod drwy’r awdurdodau lleol, ac mae’r awdurdodau lleol wedi gwynebu toriadau ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhai o’r gwasanaethau yma...
Siân Gwenllian: Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma ar bwnc hanfodol bwysig, ac i rannu rhai o mhryderon i, a dweud y gwir. Nid oes raid pwysleisio pa mor bwysig ydy rheolaeth y gyfraith yn ein bywydau ni. Mae’n ganolog i weithrediad effeithiol unrhyw wladwriaeth wrth sicrhau diogelwch a hawliau ein dinasyddion. Mae mynediad i’r system gyfiawnder yn rhan annatod a sylfaenol o reolaeth y...