Huw Irranca-Davies: Diolch ichi, Lywydd. Credaf fod hynny'n helpu i egluro rhywbeth i mi. Credaf o ddifrif fod gennym gamddealltwriaeth. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw gwirio cymhwysedd rhieni, drwy fecanwaith CThEM, i fanteisio ar y cynnig gofal plant. Yr hyn roeddech chi'n sôn amdano yno, Janet, oedd yr agwedd o ddarparu'r cynnig mewn gwirionedd. Byddaf yn ôl o flaen Aelodau'r Cynulliad—wel, os wyf...
Huw Irranca-Davies: Diolch Lywydd. Roeddwn yn deall beth oeddech chi'n ei feddwl—roeddwn yn deall. Un o'r manteision o dreialu'r cynnig, lle rydym wedi symud o saith i 14, a byddwn yn symud i fyny o ran nifer yr awdurdodau lleol, yw ein bod yn dysgu wrth inni fynd ac rydym yn datblygu ac yn addasu'r cynllun. Ond y cwestiwn yma yw beth i'w roi ar wyneb y ddeddfwriaeth sylfaenol. Rwy'n deall, oherwydd mae'n her...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, Janet.
Huw Irranca-Davies: O'r cychwyn cyntaf, fe fuom yn gwbl agored am y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynnig hwn. Cawsant eu rhannu gyda'r pwyllgor fel rhan o'r memorandwm esboniadol ar gyfer y Bil. Maent allan yno yn awr ac maent yn gosod y sylfaen yn wir ar gyfer gweithredu'r cynnig byw yn gynnar. Nid ydynt wedi'u cuddio—maent yn dryloyw iawn. Bydd y meini prawf cymhwysedd manwl ar gyfer y cynnig yn cael eu...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Geiriau olaf enwog, ond gobeithio na fydd y gwelliannau hyn yn rhai dadleuol. Dau welliant technegol ydynt. Eu diben yn syml yw ei gwneud yn glir fod rheoliadau o dan adran 1 ac adran 10 y Bil yn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n deall yn llwyr, ond fy nadl, Suzy, yw nad ydynt yn angenrheidiol mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi gwneud ein hymrwymiad i gyflwyno hyn yn glir, ac nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond os caf droi'n fyr at y gwelliant a basiwyd gennym yn ystod trafodaethau Cyfnod 2, a'r Bil fel y'i drafftiwyd, mae'r ddau bellach yn ei gwneud hi'n ofynnol i blentyn cymwys fod dan oedran ysgol...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi groesawu'r croeso a gawsom yn awr i fy ngwelliant Cyfnod 2, er nad yw'n ymddangos ei fod yn mynd yn ddigon pell? A gaf fi hefyd groesawu'r ffaith ein bod wedi cyrraedd grŵp 6 cyn i bwerau Harri VIII gael eu crybwyll yn y Siambr? [Chwerthin.] Nawr, pasiwyd gwelliannau'r Llywodraeth yng Nghyfnod 2, gan roi mwy o fanylion am blant cymwys ar wyneb y Bil. Roedd y rhain yn...
Huw Irranca-Davies: Yn sicr. Fe ildiaf.
Huw Irranca-Davies: Felly, nodwn fod nifer o'r gwelliannau hyn, neu rai tebyg, wedi'u cyflwyno yn ystod Cyfnod 2. Mae gwelliant 13 a gwelliant canlyniadol 21 yn ymwneud ag eithrio rhieni plant a allai fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhag talu taliadau ychwanegol. Credaf fod gennym fesurau digonol ar waith eisoes i ddiogelu rhieni rhag taliadau afresymol, a buaswn yn dweud bod hynny'n wahanol iawn i'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Gadewch imi ddweud rhai pethau pwysig ar y cychwyn. Yn gyntaf oll, o ran y gyfradd o £4.50 yr awr, roedd y rhan fwyaf o'r darparwyr yn ystyried honno'n gyfradd yr awr ddigonol a phriodol pan ddaethom at hyn. Mewn gwirionedd, mae'r flwyddyn gyntaf wedi dangos bod darparwyr yn ei hystyried yn gyfradd briodol ar gyfer darparu gofal plant ac un sy'n fasnachol hyfyw. Nawr, rydym...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Wrth agor, credaf ei bod hi'n bwysig atgoffa ein hunain nad yw hyn yn rhywbeth newydd; nid yw'n codi o ganlyniad i'r cynnig. Nid yw'n anghyffredin bellach—ac rwyf fi'n ei wneud, fel rhiant—i gael addysg a gofal plant mewn gwahanol leoedd ac i wneud trefniadau o ran cludiant. Nid yw'r angen i gludo plant yn rhywbeth sy'n codi ym mhob lleoliad, fodd bynnag, neu ym mhob rhan...
Huw Irranca-Davies: Oeddwn. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd, a diolch hefyd i Siân. A gaf fi ddiolch ichi am y trafodaethau adeiladol a gefais gyda chi ar y mater hwn yn flaenorol, a hefyd gyda Llyr? Ac yn sicr mae gennym lawer o gydymdeimlad ag ysbryd y gwelliannau a gynigiwyd ac rydym yn croesawu'r cyfle i gofnodi rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i gyflawni'n union hynny, ac os yw'r Aelodau'n fodlon bod yn amyneddgar, oherwydd...
Huw Irranca-Davies: Wel, soniais mewn perthynas â PaCE ein bod wedi mynd y tu hwnt i lle y gellid disgwyl yn rhesymol inni fynd mewn gwirionedd gan ein bod yn edrych ar ymestyn y tu hwnt i 2020 bellach, y tu hwnt i'r gyfran bresennol o arian, ac rydym wrthi'n gweithio ar hynny. Ond nid dyna'r unig un wrth gwrs. Mae gennym Dechrau'n Deg hefyd, er enghraifft, sy'n darparu gofal plant o ansawdd i rieni plant...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod y cynnig gofal plant hwn yn glir iawn ynglŷn â beth y mae'n ei wneud. Credaf mai peth o'r drafodaeth yma yw'r hyn a nodir ar wyneb y Bil mewn deddfwriaeth sylfaenol a'r hyn a nodir mewn rheoliadau neu mewn cynlluniau gweithredu ac ati. Mae'r Bil hwn yn gul iawn mewn gwirionedd. Os caf ailadrodd: dyma'r...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf, yn sicr.
Huw Irranca-Davies: Na, na, mae'r diffiniadau o 'ofal plant' yn gywir mewn gwirionedd, a'r hyn sy'n deillio o'r cynnig gofal plant sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd yw mai'r diffiniad hwnnw yw sail y diffiniad o 'ofal plant' a ddefnyddiwn. Ac mae canllawiau ynddo hefyd sy'n atodol i hyn, ac sydd wedi'i rannu gyda'r pwyllgor yn ogystal, sy'n dangos beth y mae'r canllawiau yn ei ddweud ynglŷn ag unrhyw gostau...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Diolch i Suzy a Janet am y sylwadau ac maent yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfodydd, ond hefyd mewn cyfnod cynharach o'r Bil yn ogystal. Fe nodais yn fy sylwadau agoriadol pam y credaf fod yr hyn sydd gennym o'n blaenau, yn enwedig gyda gwelliant 4, yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng yr eglurder sydd ei angen arnom ar wyneb y Bil a'r dyletswyddau, a'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o helpu i agor y trafodion yma ar ran y pwyllgor Cyfnod 3 ar gyfer y Bil pwysig hwn. Rwyf wedi ymateb i alwadau gan bwyllgorau craffu—y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—am ddyletswydd ar wyneb y Bil, ac rwyf wedi wedi cyflwyno gwelliant 4 fel sy'n briodol. Er mwyn gweithredu'r ddyletswydd hon, bydd...
Huw Irranca-Davies: Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y mae'r Aelod newydd ei ddweud, ac rydym yn parhau i weithio ar welliannau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, oherwydd nid ydym byth yn hunanfodlon ynglŷn â hyn, ond mae gennym ardaloedd lle mae perfformiad, fel y nodoch chi, yn gweithio, ond nid yw'n gyson. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda'r byrddau iechyd i roi baich y...