Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadawladr? OAQ52565
Llyr Gruffydd: Yr wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, dywedasoch wrthym nad oedd gennych chi na'ch Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar gyfer GIG Cymru pe byddai, fel sy'n gynyddol debygol erbyn hyn, wrth gwrs, Brexit dim cytundeb. Mewn gwirionedd, eich union eiriau oedd 'Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o gwmpas mewn...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch? OAQ52519
Llyr Gruffydd: Soniais am fynediad at fanciau bwyd eiliad yn ôl, ac roeddwn yn siarad ag un o ymddiriedolwyr y banc bwyd yn Nyffryn Clwyd yr wythnos diwethaf, a dywedodd wrthyf fod tua thraean y bobl sy'n cael pecynnau bwyd ganddynt yn blant. Cafodd dros 500 o blant barseli bwyd ganddynt yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae hyn oll yn golygu, wrth gwrs, fod pobl yn gorfod gwneud dewisiadau amhosibl ar...
Llyr Gruffydd: Mae plant mewn teuluoedd incwm isel yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol ac yn tyfu mewn nifer. Mae ffigurau unwaith eto'n dangos bod tlodi plant yn gyffredin ym mhob rhan o Gymru gyda nifer gynyddol o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae effaith y newidiadau a gyflwynwyd gan raglen ddiwygio lles Llywodraeth y DU ar adeg pan fo costau o ddydd i ddydd yn cynyddu yn taro llawer o...
Llyr Gruffydd: Iawn. Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi bod yn gwylio cwpan y byd dros yr wythnosau diwethaf—yn wir, mae wedi bod yn amhosib osgoi'r peth yn y 24 awr ddiwethaf. Ond rydw i'n cyfeirio at hynny oherwyd mi ges i'r profiad o ddarllen erthygl yn ddiweddar ynglŷn â'r tlodi dybryd roedd un o chwaraewyr mwyaf amlwg y gystadleuaeth honno wedi ei brofi...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]
Llyr Gruffydd: A gaf i jest ddweud ar y cychwyn fy mod i a'm plaid i yn cytuno gyda phrif argymhellion y pwyllgor yma? Wrth gwrs, y prif argymhelliad yw bod y mater yma yn dod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig. Nawr, mi glywon ni gyfeiriad at adroddiadau blaenorol y pwyllgor—adroddiad yn ôl yn 2014, er enghraifft, a arweiniodd at beth newid o safbwynt gofal yn y maes yma. Ond mae angen nawr i ni...
Llyr Gruffydd: Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o ofidiau a chwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, a phobl eraill fel y comisiynydd plant, a dweud y gwir, ynglŷn â phroses gyllidebu'r Llywodraeth nawr, lle'r ŷm ni yn fwyfwy yn cael asesiadau effaith integredig, yn hytrach, er enghraifft, nag asesiadau effaith penodol ar hawliau plant. Felly, a gaf fi ofyn i chi fel...
Llyr Gruffydd: Rydw innau hefyd eisiau cofrestru fy siom, a dweud y gwir, ar ymateb cwbl lipa'r Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad yma. Yn amlwg, i fi, nid yw'r Llywodraeth yn rhannu'r un uchelgais ag aelodau'r pwyllgor o safbwynt y newid trawsnewidiol sydd ei angen yn y maes yma, yn enwedig wrth edrych ar y trajectory o ran y cynnydd yn y broblem rydym ni'n ei weld. Mae'n rhaid i ni gwrdd â'r her yna...
Llyr Gruffydd: Wel, ie, ac mae'n bwysig, felly, o safbwynt y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, os ydych chi'n sôn am greu mwy o ddisgwyliadau, fod y rheoliadau o gwmpas y WESPs yn adlewyrchu'r dyhead hynny, a byddwn i'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd. Wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod Aled Roberts wedi bod yn edrych ar y maes yma ac yn parhau i wneud gwaith ar ran y Llywodraeth ar hyn, ac mi...
Llyr Gruffydd: Wnes i ddim cweit clywed yn ddi-flewyn ar dafod, 'Byddwn, byddwn ni yn cefnogi'r cyngor'. Efallai y gallwch chi ychwanegu'r frawddeg yna wrth ateb fy nghwestiwn nesaf i, os ydych chi'n dymuno gwneud hynny. Ar begwn arall yr uchelgais sydd yng Nghymru i weld twf mewn addysg Gymraeg, wrth gwrs, mi gafodd nifer ohonom ni fraw o weld bod Cyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf wedi ystyried...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n siŵr bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod cyngor sir Caerfyrddin wedi lansio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg yr wythnos yma, sy'n gynllun uchelgeisiol iawn ac yn un sydd wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, ac mae e'n gosod y sir ar y ffordd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol. Wrth gwrs, mae'n mynd i roi cyfle i bob disgybl fod yn...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi mynediad ysgolion Llywodraeth Cymru?
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fodlonrwydd cleifion gyda mynediad i feddygon teulu?
Llyr Gruffydd: Ydw, ydw. Roedd y GIG i fod i fwynhau difidend Brexit o £350 miliwn yr wythnos. Wrth gwrs, mae Canolfan Diwygio Ewrop nawr wedi dweud wrthym ni bod y wir gost eisoes yn £440 miliwn yr wythnos, ac mae hynny'n ddiffyg Brexit, a hyn cyn i Airbus, BMW ac eraill o bosibl ein gadael ni. Nawr, welais i mo hynny ar ochr y bws Brexit a oedd yn cael ei yrru o gwmpas y wlad. Ond a yw Ysgrifennydd y...
Llyr Gruffydd: Rydym ni i gyd yn cofio, rwy'n siŵr, yn ôl yn 1980, pan welodd Glannau Dyfrdwy ddiswyddo ar y raddfa fwyaf yn yr oes fodern pan ddiswyddodd gwaith dur Shotton dros 6,500 o weithwyr mewn un diwrnod. Wrth gwrs, cymerodd genhedlaeth i’r ardal oresgyn hynny. Yn wir, rwy’n siŵr eu bod nhw’n dal i deimlo’r effeithiau. Ond mae wedi ei ailsefydlu ei hun—yr ardal—yn bwerdy diwydiannol...
Llyr Gruffydd: Yn dilyn y toriadau i gyllideb Cyngor Sir Ddinbych y flwyddyn ddiwethaf, mae'n debyg y byddai'n rhaid i sir Ddinbych gynyddu ei threthi cyngor 20 y cant dim ond i ddal lan gyda lle maen nhw ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod, tra bod y cyllidebau yn crebachu, bod costau yn cynyddu hefyd. Mi fydd nifer ohonom ni, rydw i'n siŵr, yn croesawu'r ffaith bod nifer o weithwyr yn y cyngor yn mynd i...
Llyr Gruffydd: Mae bron pob darn o ymchwil sydd wedi edrych ar faint carchardai wedi dangos bod carchardai llai yn cael gwell canlyniadau i garcharorion a chymunedau o'u cymharu â charchardai mawr, a rhai mawr iawn, superprisons, yn enwedig. Felly, os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â lleihau lefelau aildroseddu, a wnewch chi ymrwymo, os a phan fydd y materion yma yn cael eu datganoli, i dorri cwys wahanol...
Llyr Gruffydd: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ail-droseddu? OAQ52336