Nick Ramsay: Mae’n dod yn hawdd darogan fy sylwadau— rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog. Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys. Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o’r grant bloc yn mynd i gynnig...
Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli trethi? OAQ(5)0063(FM)
Nick Ramsay: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio. Clywais yr hyn a ddywedoch o ran cymunedau lleol yn cael manteision o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Wrth gwrs, dyna beth y dylent ei gael, a dyna beth rydym am iddynt ei gael, ond cafwyd rhai achlysuron yn fy etholaeth pan na chafodd y manteision cymunedol hynny eu gwireddu, ac mae cwmnïau wedi ceisio peidio â rhoi’r lefel lawn o fanteision y dylent eu cael....
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Brif Weinidog. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch ar fater datganoli treth incwm, ond a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ar y mecanwaith a ddefnyddir i ostwng y grant bloc yn sgil datganoli treth incwm, fel na fydd Cymru ar ei cholled mewn gwirionedd yn y tymor hir?
Nick Ramsay: Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau’r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i’n...
Nick Ramsay: Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o’r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw’n adeg dda i fynd yn ôl i’r cychwyn...
Nick Ramsay: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(5)0020(FM)
Nick Ramsay: Brif Weinidog, rwy’n sylweddoli y bu’n rhaid i’r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i’m hetholwyr? Rydym ni’n...
Nick Ramsay: Leanne Wood.