Lee Waters: Wel, rwy’n siŵr fod y Gweinidogion yn gwrando’n ofalus iawn arnaf yn awr—dyma sut rwy’n dylanwadu ar y gyllideb. Nid oes gennyf yr un pŵer â phlaid leiafrifol o ran pasio’r gyllideb. Ond mae pwynt difrifol yma. Credaf y gallwn uno ar hyn, ac yn sicr, cytunaf y dylem roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu mor bendant ag y bo modd er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein holl...
Lee Waters: Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Mae’n llygad ei le fod llawer o dir cyffredin ar y mater hwn. Mae cytundeb Paris, a gymerodd 23 mlynedd i’w gwblhau, yn enghraifft ddigynsail o undod byd-eang ar un o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu. A dyna yw ein cyfle gorau, hyd yn oed os nad yw’n mynd yn ddigon pell, i fynd i’r afael â newid di-droi’n-ôl a...
Lee Waters: Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod Her Ysgolion Cymru wedi dod i ben a byddai wedi bod yn well o lawer gennyf ei weld yn cael ei ailraddnodi yn hytrach na’i ddileu. Ceir sylfaen dystiolaeth y gallwn ddysgu oddi wrthi ym Manceinion a Llundain ble y mae wedi llwyddo ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, lle y ceir...
Lee Waters: Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ysgolion y tu hwnt i gyfnod rhaglen Her Ysgolion Cymru?
Lee Waters: Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ysgolion y tu hwnt i gyfnod rhaglen Her Ysgolion Cymru?
Lee Waters: Diolch. Weinidog, roedd y frwydr am Orgreave yn un o'r diwrnodau mwyaf treisgar yn streic y glowyr ym 1984, ac eto ddoe gwrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ymchwiliad cyhoeddus ar y sail nad oedd yn ddigon difrifol. Dywedodd nad oedd dim collfarnau anghyfiawn, ond fel yr eglurodd Tyrone O'Sullivan, a oedd yn Orgreave, y bore yma, roedd arestiadau anghyfiawn, roedd trais torfol a gychwynnwyd...
Lee Waters: Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave? EAQ(5)0056(CC)
Lee Waters: A wnewch chi ildio? A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Er darbodaeth, gallai’r Aelod wneud cyfraniad hael drwy roi yn ôl y lwfans cynghorydd o £12,000 y mae’n ei hawlio drwy fod yn AC a chynghorydd. Byddai hynny’n ddechrau da, rwy’n credu.
Lee Waters: Pam na wnewch chi roi'r arian o Frwsel i ni? Yna byddai gennym ddigon o arian i dalu amdano.
Lee Waters: Os felly, faint o gyflyrau eraill y bwriadwch gyflwyno deddfwriaeth ar eu cyfer?
Lee Waters: Diolch. Mae fy nheulu’n cael cymorth gan elusen fach sy’n gweithio gyda theuluoedd ag awtistiaeth. Rwy’n gwybod yn iawn am yr anhawster i lywio drwy’r system. Mae gennyf ffrindiau agos sydd wedi llywio drwy’r system gyda rhwystredigaeth enfawr. Nid yw’r system bresennol yn ddigon da. Nid oes neb yma yn anghytuno â hynny; rydym yn gweithio i’w gwella. Ond atebwch fy nghwestiwn i...
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio? Mae awtistiaeth yn gyflwr niwrolegol gyda chyflyrau cydforbid trallodus fel gorbryder ac anhwylder obsesiynol cymhellol. Mae’n effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae syndrom Tourette yn anhwylder niwrolegol gyda chyflyrau cydforbid trallodus fel anhwylder obsesiynol cymhellol a gorbryder. Pam y mae un yn haeddu Deddf ac nid y llall?
Lee Waters: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o fod ymhlith llawer o Aelodau o bob rhan o’r Siambr sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer dadl heddiw i sicrhau ein bod yn cyflawni potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Fel y noda’r cynnig, mae gweithgarwch corfforol yn creu manteision lluosog i iechyd a lles, ac rydym yn wynebu bom amser o ordewdra. Rydym o’r diwedd yn cydnabod cystudd iechyd meddwl...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Weinidog. Fis Mehefin diwethaf, rhybuddiodd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru fod llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn wynebu prinder tai fforddiadwy a naid gynharach i fyw’n annibynnol na’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Mae eu hadroddiad yn galw am fframwaith llety cenedlaethol a chefnogaeth i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru. A allai’r Gweinidog roi’r...
Lee Waters: 1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael mynediad at dai fforddiadwy? OAQ(5)0052(CC)
Lee Waters: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Lee Waters: Gyda phob parch, David, brynhawn ddoe fe foicotiodd eich plaid y Cynulliad oherwydd eich bod yn dweud ein bod yn cael dadl ofer. Hyd yma yn y ddadl hon, nid ydych wedi siarad am ddim heblaw Lloegr. Felly, mae’r hyn sy’n iawn i’r ŵydd yn iawn i’r ceiliagwydd hefyd. [Chwerthin.]
Lee Waters: Ydw. Fe wnes dderbyn ymyriad, Ddirprwy Lywydd.
Lee Waters: Diolch am eich trugaredd.