Canlyniadau 1041–1060 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diogelwch Cymunedol yn Ne-ddwyrain Cymru (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Yn sicr, byddwn yn ymuno â'r Aelod i longyfarch Network Rail ac am ddatblygu rhaglen addysg ac ymwybyddiaeth mor arloesol o ddiogelwch ar y rheilffyrdd, sy'n cynnwys pobl ifanc ac sy'n hollbwysig o ran diogelwch ar y rheilffyrdd, a hefyd yn rhoi cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu cyfoedion a diogelwch eu cymunedau.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diogelwch Cymunedol yn Ne-ddwyrain Cymru (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Hoffwn i ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am rannu'r fideo, Anti Social Bob, a gynhyrchwyd gan wasanaeth troseddau ieuenctid Casnewydd, ac mae'n fideo a ddatblygwyd gyda phobl ifanc yn ganolog iddo. Mewn gwirionedd, mae'n dangos gwir gost ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid yn unig i'r person ifanc ond yr effeithiau ehangach ar deulu, ffrindiau a chymunedau....

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diogelwch Cymunedol yn Ne-ddwyrain Cymru (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n pedwar heddlu, Llywodraeth y DU a llu o asiantaethau eraill i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau troseddau ac, yn bwysig, yr ofn o drosedd.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran y Ddeddf yw ei bod yn rhoi cyfleoedd i ni ddefnyddio'r Ddeddf i lywio polisi, ac mae'n bwysig iawn bod 'Polisi Cynllunio Cymru' a'r datblygiadau a'r adolygiad yn cael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ond gallwn edrych ar ystod eang o faterion o ran y saith nod—Cymru lewyrchus, Cymru iachach—mewn ffyrdd yr ydym, er enghraifft, yn...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Rydym yn canolbwyntio ar gryfhau'r broses o weithredu'r Ddeddf a chefnogi ein partneriaid i wireddu manteision cyfrannu at y saith nod llesiant, a gweithio mewn ffordd gydweithredol, integredig ac ataliol sy'n edrych i'r tymor hir ac sy'n cynnwys pobl yn eu holl amrywiaeth.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Polisïau Cydraddoldeb (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Mae data yn hanfodol bwysig, o ran y ffordd yr ydym yn mesur ein canlyniadau ac yn ceisio cyflawni ein hamcanion. O ran data, o ran penodiadau cyhoeddus, er enghraifft, rydym yn coladu ac yn dilysu data amrywiaeth penodiadau ar gyfer 2018-19, ond gwyddom o 2017-18 fod 6.9 y cant o'r holl benodiadau ac ailbenodiadau gan Weinidogion wedi'u datgan i fod o grwpiau PdDLlE, 51.9 y cant o fenywod,...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Polisïau Cydraddoldeb (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Diolch i Suzy Davies am y cwestiynau yna. Yn wir, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr cyflogaeth deg Chwarae Teg, ac, wrth gwrs, mae rhan o hynny'n ymwneud â mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. O ran y cyfleoedd y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arnyn nhw, yn enwedig yr wythnos hon, ddywedwn i, ar sicrhau bod gennym amrywiaeth yn...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Polisïau Cydraddoldeb (18 Meh 2019)

Jane Hutt: Fel y dywedais yn fy natganiad llafar yr wythnos diwethaf, mae cydraddoldeb yn flaenoriaeth ganolog i Lywodraeth Cymru. Adlewyrchir hyn, er enghraifft, yn ein hadolygiad o gydraddoldeb rhywiol, y cynllun 'Cenedl Noddfa' a'n fframwaith ar gyfer gweithredu ar anabledd.

9. Dadl Fer: Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru (12 Meh 2019)

Jane Hutt: Wel, diolch i Darren Millar am y gydnabyddiaeth fod—. Yn wir, rydym wedi trafod hyn, gyda chi siŵr o fod, yn y Siambr, o ran cefnogi'r camau i ymestyn parthau dim galw diwahoddiad. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny eto ac yn adrodd yn ôl i chi, nid yn unig fel llysgennad, ond mewn ymateb i'r ddadl hon. Pan oeddwn yn dweud nad yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws, gwyddom fod unigolion...

9. Dadl Fer: Mynd i'r afael â'r cynnydd mewn sgamiau yng Nghymru (12 Meh 2019)

Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn bwnc pwysig, ac mae'n amserol iawn, gydag ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau eleni yn dechrau yr wythnos hon. Gwn y bydd pobl wedi cysylltu â llawer o'r Aelodau, fel y mae Caroline Jones wedi'i nodi—pobl hŷn a bregus yn aml sydd wedi dioddef sgamiau. Fel y gwyddoch, nid yw'r polisi ar atal sgamiau wedi'i ddatganoli. Yn yr un modd, mae twyll o unrhyw fath yn...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt allweddol, Suzy Davies. O ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, mae'n rhaid iddo fod yn gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod yn berthnasol iawn os edrychwn ni ar adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, o ran deall sut y gallwn ni fynd i'r afael â hyn. Soniais yn fy natganiad, mewn gwirionedd, o ran cychwyn y ddyletswydd...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Wrth gwrs, bu galwadau dros y blynyddoedd diwethaf inni ymgymryd â'n camau deddfwriaethol ein hunain i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol, yn enwedig yng nghyd-destun y DU yn gadael yr UE. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir o ran cryfhau'r hawliau hynny, gan gynnwys materion a allai godi yng ngoleuni galwadau i ymgorffori...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, John Griffiths, ac a gaf i ddiolch i'ch pwyllgor am fod yn rym mor bwysig—grym craffu a hefyd ymchwilio a darparu tystiolaeth o ran y ffordd y dylem fod yn mynd i'r afael â'r materion hyn o ran cydraddoldeb a hawliau dynol? Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor materion allanol lle buom yn gweithio gyda'n gilydd ar y llythyr hwnnw i'r Prif Weinidog ac wedi cael yr ymateb...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i Leanne Wood am godi dimensiwn pwysig iawn. Rwy'n credu ei fod yn ddimensiwn o ran deall ac atgyfnerthu cydraddoldeb a hawliau dynol y mae'n amlwg bod angen i ni edrych arnyn nhw nawr ar draws y Llywodraeth, nid dim ond o ran fy mhortffolio i. Yn ddiddorol, cododd hyn yr wythnos diwethaf pan aeth Jeremy Miles a finnau i'r fforwm dinesig i siarad â phobl anabl am effaith...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Credaf eich bod yn ymdrin â llawer iawn o bethau yn eich cwestiynau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar fater hawliau dynol, yn enwedig mewn cysylltiad â'r cyfleoedd sydd gennym ni i adeiladu ar ddeddfwriaeth sefydlol Llywodraeth Cymru. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, ein bod yn edrych ar ddull cyfannol o ymdrin â hawliau dynol yng Nghymru, oherwydd ein bod eisiau...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, ac fe wnaethoch chi ddweud wrthyf y bore yma eich bod yn mynd i ddigwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n sicr y byddai'r datganiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn un i'w groesawu oherwydd, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn croesawu'r ffaith bod rhwydwaith Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yn bartner pwysig o...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Er mwyn dangos ac ailddatgan ein hymrwymiad i'r egwyddorion hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ystyried dewisiadau i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd hyn yn dechrau drwy weithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu a chryfhau rheoliadau Cymru ar gyfer dyletswydd cydraddoldeb...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Jane Hutt: Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Yn Swyddfa'r Prif Weinidog, mae gennyf y cyfrifoldeb a'r cwmpas i wneud newid ein hamcanionn yn sylweddol er mwy creu Cymru decach, fwy cyfartal. Rydym yn parhau i fyw mewn cyfnod anodd ac ansicr, lle mae cyni...

4. Cwestiynau Amserol: Islamoffobia (22 Mai 2019)

Jane Hutt: Wel, Mohammed Asghar, credaf fod Darren Millar wedi dweud y byddwch yn ystyried y diffiniad hwn yn eich—bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ystyried, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Rydym ni'n ystyried—mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried—gyda Llywodraeth yr Alban. Felly, mae'r ystyriaeth hon hefyd yn mynd i gynnwys pwyntiau a wnaed ar faterion gweithredol, yn amlwg. Ond buaswn yn gobeithio...

4. Cwestiynau Amserol: Islamoffobia (22 Mai 2019)

Jane Hutt: Diolch i chi, Jenny Rathbone, a siaradodd ein Prif Weinidog y bore yma am yr Iftar a fynychodd nos Sul o flaen Neuadd y Ddinas. Siaradodd am bwysigrwydd Ramadan yr wythnos hon ac am y cyfraniad a wnaed gan y gymuned Fwslimaidd. Dyma adeg pan ydym yn nodi 20 mlynedd ers datganoli. Nos Lun, roedd rhai ohonom mewn darlith a roddwyd gan Aled Edwards, sy’n arloesi—a gwn fod llawer yma yn y...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.