Jeremy Miles: Mae Llywodraeth y DU yn arwain ar drafodaethau masnach rhyngwladol, fel y gwn y byddai'n derbyn, ac fel y byddwn yn dychmygu y byddai'n ei gefnogi. Felly, ein tasg fel Llywodraeth yw bwydo safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran economi Cymru, a busnesau Cymru, allforwyr Cymru, i'r trafodaethau hynny. Dyma'r mathau o bethau a fydd ar agenda'r drafodaeth heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n gywir i ddweud, rwy'n credu, fod tua 22 o gytundebau wedi'u llofnodi, mae tua phump ar y gweill, ac mae tua 12 i'w datblygu o hyd. Yr hyn sy'n nodwedd gyffredin ym mhob un yw eu bod yn gytundebau parhad. Felly, i bob pwrpas, maent yn waith sylweddol iawn i gynnal y sefyllfa bresennol. Felly, mae'n bwysig ac yn hanfodol ein bod yn gallu...
Jeremy Miles: Gwnaf, yn sicr. Y prynhawn yma, tua 4 o'r gloch, byddaf yn mynychu cyfarfod nesaf y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac rwy'n disgwyl trafod ystod eang o faterion gyda'r Gweinidog perthnasol yn y fforwm hwnnw.
Jeremy Miles: Ni chlywais y cwestiwn cyfan, ond rwy'n credu ei fod yn gofyn i mi pa gamau y byddem yn eu cymryd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn y byddwn yn cymryd pob cam sydd ar gael i ni yn gyfreithiol i ddiogelu pwerau'r Senedd hon. Credaf na ddylem dybio—. Wel, ni ddylem ganiatáu'r argraff fod bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad y deddfwrfeydd datganoledig yn y DU yn ffordd dderbyniol i Lywodraeth y...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelod gweld gormod o hyder yn fy natganiad, oherwydd yn anffodus, mae'r profiad o geisio cael gwybodaeth am y meddylfryd sy'n sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn un anodd. Fel Llywodraeth, fel y mae ei gwestiwn yn ei gydnabod rwy’n credu, rydym wedi ceisio dyfeisio trefniadau olynol mewn cydweithrediad â phobl yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny,...
Jeremy Miles: Wel, yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, ddydd Iau diwethaf, lle gwneuthum y pwynt ynglŷn â'n blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru, yn ogystal â chodi cwestiynau am lefelau cynnydd mewn perthynas â gwahanol agweddau ar negodi. Gwneuthum y pwynt mai'r peth hanfodol ar hyn o bryd, i'r ddwy ochr gyda llaw, oedd dangos...
Jeremy Miles: Wel, diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn. Mae e'n iawn i ddweud bod yr aflonyddwch sy'n dod yn sgil hyn, wrth gwrs, yn deillio o'r cytundebau a'r trafodaethau sy'n digwydd rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷm ni eisiau ei weld, fel Llywodraeth. Dŷn ni ddim eisiau gweld unrhyw effaith economaidd ar y porthladd. Dŷn ni eisiau gweld masnach...
Jeremy Miles: Wel, rwyf wedi adrodd i'r Siambr hon droeon am y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU a CThEM mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer Caergybi. Mae'n dechrau gyda'r sylw fod unrhyw darfu yn ganlyniad dewisiadau gwleidyddol y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud mewn gwirionedd. Nawr, yr hyn rydym yn ei wneud, gyda hwy a chydag eraill, yw ceisio lleihau effaith dewisiadau y mae...
Jeremy Miles: Rwyf wedi trafod effaith diwedd y cyfnod pontio ar borthladd Caergybi gydag amryw o bobl, gan gynnwys Llywodraeth y DU, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gyflawni ei rhwymedigaethau yng nghyd-destun yr amserlen dynn iawn sydd wedi'i gorfodi arnom.
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn fod mewn sefyllfa i roi asesiad iddi o'r gronfa ffyniant gyffredin, ond nid yw'r manylion prin a roddodd y Canghellor i ni yn yr adolygiad o wariant yn ein galluogi i wneud hynny'n hyderus. Nawr, bydd yn gwybod, fel rwyf fi, fod rhaglenni a busnesau a sefydliadau, sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru a fydd wedi gobeithio y byddai...
Jeremy Miles: A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am y gwaith y mae wedi'i wneud, gydag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru, yn cadeirio'r grŵp a wnaeth, i helpu'r Llywodraeth i ddyfeisio'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, a gyhoeddwyd hanner ffordd drwy'r mis diwethaf? Roedd yn gynnyrch cydweithredu a chreadigrwydd mawr, ac mae'n adlewyrchu buddiannau amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol, ym...
Jeremy Miles: Wel, diolch i David Rowlands am y cwestiwn pellach hwnnw. Pe baem yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, o fis Ionawr ymlaen, byddai Cymru wedi cael dyraniad blwyddyn lawn o tua £375 miliwn, yn ogystal â'r taliadau sydd eisoes yn cael eu gwneud drwy'r rhaglenni presennol. Fel y gŵyr, yn lle hynny nawr bydd cronfa gwerth £220 miliwn ledled y DU, ac nid oes manylion o hyd ynglŷn â...
Jeremy Miles: Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin wedi torri pob addewid i bobl Cymru, gan gynnwys na fyddem yn waeth ein byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn parhau i herio unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddargyfeirio materion sydd wedi'u datganoli i Gymru.
Jeremy Miles: Maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd. Do, yn wir. Maddeuwch i mi.
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Wel, nodaf iddo fethu fy nghyfeirio at y cymal hwnnw yn ei araith, Lywydd. Cyfraniad Dai Lloyd—rwy'n cytuno â'i wrthodiad o'r Bil. Nid wyf yn cytuno â'i ddisgrifiad o waith y Blaid Lafur, ond rwy'n cytuno â'i wrthodiad o'r Bil. Dyma amser ar gyfer cynghreiriau trawsbleidiol. Rydym wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, er bod gennym flaenoriaethau cyfansoddiadol...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fy mod yn falch fod Delyth Jewell wedi ein hatgoffa o'r ymdrech drawsbleidiol, yn y Senedd ond hefyd yn y Siambr hon, i gefnogi'r safbwynt a fynegais ar ddechrau'r ddadl hon—boed hynny ar feinciau'r Llywodraeth, meinciau Plaid Cymru, ac mewn araith graff iawn, os caf ddweud, gan David Melding, roedd yn dda clywed llais Ceidwadol yn amddiffyn...
Jeremy Miles: Hoffwn, os caf i, dalu teyrnged i'r ffordd y mae arglwyddi o bob rhan o'r Tŷ wedi bod yn barod i weithio'n galed gyda ni i amddiffyn y setliad datganoli, y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i'w chwalu. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, y Farwnes Finlay o Landaf, yr Arglwydd Wigley a'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ogystal â meinciau blaen yr wrthblaid...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi dal yn ôl tan yr hyn oedd yn ymddangos fel yr eiliad olaf bosib i drefnu'r ddadl hon, yn y gobaith y byddai'r Llywodraeth yn San Steffan wedi cydnabod cryfder y gwrthwynebiad i'r Bil hwn ac wedi cyflwyno rhai cynigion i gyfaddawdu ar hynny. Yn anffodus, fel y gwyddom, prif nodwedd y weinyddiaeth bresennol yw ei haerllugrwydd ac, felly, dyw hynny ddim wedi...