David Melding: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig yng Nghymru?
David Melding: A gaf i ddweud, Llywydd, wnes i ddim ymbellhau fy hun o unrhyw broses? Mynychais bob sesiwn cyhoeddus o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'ch holl drafodaethau oni bai am yr ychydig funudau diwethaf. Fe wnes i ymbellhau pan ddywedais, mewn egwyddor, na allwn i gefnogi'r adroddiad. Felly, roeddwn yn gadael fel y gallai Aelodau eraill y pwyllgor wedyn fwrw ymlaen a chytuno ar...
David Melding: Rydym ni wedi penderfynu cymryd y cam anghyffredin o beidio â chynnig unrhyw welliannau pe byddai'r Bil hwn yn parhau i'w gyfnod nesaf, oherwydd nid ydym ni eisiau bod yn rhan o'r parodi anochel a fyddai'n digwydd wedyn. A yw Dai Lloyd eisiau ymyrryd?
David Melding: Y gwir amdani yw, os gwrthodir cynnig cydsyniad deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac, yn ôl pob tebyg, ar yr un pryd yn Senedd yr Alban, bydd y Deyrnas Unedig mewn argyfwng cyfansoddiadol. Dyna pam mae'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn amddiffyn ein hawliau a'n sefyllfa yn briodol. Mae'r hyn yr ydych chi'n rhan ohono yn dacteg negodi, ac ni ddylem ni fod yn rhan,...
David Melding: Gwnaf, wel, roedd y Gweinidog—. Iawn, iawn. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet—
David Melding: Wel—. [Torri ar draws.] Na, rwy'n mynd i'w ateb ef yn gyntaf. Trodd Ysgrifennydd y Cabinet a dweud, 'Wel, does gennych chi fawr i'w ddweud, nac oes? Edrychwch faint o'ch cyd-Aelodau chi sydd yma.' Rydym yn sylweddoli bod hyn yn ffug: rwyf wedi rhoi seibiant iddyn nhw, fy nghyd-Aelodau, oherwydd doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw orfod eistedd trwy'r parodi hwn sydd wedi ei greu gan Lywodraeth...
David Melding: —yw eu prif nod, nid undod y Deyrnas Unedig. Gwelais David yn gyntaf. Hynny yw, byddaf yn ceisio ildio i Simon wedyn.
David Melding: Llywydd, nid oes unrhyw argyfwng, nid oes unrhyw angen am y Bil hwn, a'n barn ni ar yr ochr hon i'r tŷ yw mai Bil ffug, mewn gwirionedd, yw hwn. Mae'n rhaid imi ddweud, pan oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud ei araith ar egwyddor y Bil hwn, fod saith aelod o'r grŵp Llafur yma yn y Siambr, neu chwech ar wahân iddo ef. Bu dylifiad enfawr ers hynny o un aelod ychwanegol yn dod i mewn....
David Melding: Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar ichi am eich goddefgarwch, ac a gaf innau hefyd groesawu'n fras ddatganiad y Gweinidog, yn enwedig y modd y mae hi wedi gwrando o ran egwyddor Sandford, a'r ymagwedd fwy cynnil rwy'n credu na'r hyn yr ydym wedi ei chlywed mewn datganiadau blaenorol? Rhywbeth nad yw wedi ei grybwyll y prynhawn yma—ac yn y fan hon rwyf i o'r farn bod angen mwy o uchelgais...
David Melding: Prif Weinidog, ar ôl closio mor agos at Lywodraeth yr Alban, a allwch chi sicrhau'r Cynulliad hwn, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU yfory, na fyddwch chi'n cael eich gwyro oddi wrth geisio'r dewis mwyaf adeiladol sydd ar gael i Gymru nawr?
David Melding: Dull o wirio cydbwysedd ydyw, a chi fydd yn gwneud yr holl argymhellion cychwynnol, a fydd yn cael eu sifftio wedyn. Hefyd, bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud ymhell cyn y diwrnod gadael, felly nid wyf yn hollol siŵr fod yna lefel o frys, yn sicr o'r maint rydych yn ei rhagweld, ac nid wyf yn meddwl mai dull y pwyllgor sifftio o weithredu fydd gwneud llawer o alwadau. Ymwneud yn...
David Melding: A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, am amlinellu pethau mor glir? A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau y ceir adegau pan fo'r hyn sydd yn ôl pob golwg yn aneglur yn hanfodol bwysig mewn gwirionedd, ac mae hwn yn un ohonynt? Hoffwn danlinellu un neu ddau o'r pethau y mae Mick wedi eu dweud oherwydd, yn amlwg, nid oes angen ychwanegu at...
David Melding: Rwy'n arbennig o bryderus, wrth i'r ffigurau gynyddu, fod y ffocws wedi symud lawer mwy at gadw dan glo yn hytrach na hyfforddi ac adsefydlu, oherwydd fel arfer bydd troseddwyr treisgar yn dod allan ar ryw adeg, ac mae gwaith mawr yno i sicrhau nad ydynt yn parhau'n fygythiad i gymdeithas. Maent angen eu trin yn ddifrifol iawn a'u hadsefydlu. Credaf y dylem edrych ar yr holl beth o...
David Melding: Yn 1920, roedd 11,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Yn 1980, roedd 42,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr. Heddiw, mae yna 85,500 carcharorion yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn anfon llawer mwy o bobl i'r carchar nag a wnâi ein cyndadau Edwardaidd. Mae hynny'n frawychus iawn, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni edrych yn ddifrifol iawn arno yn fy marn i. Credaf fod carcharu yn gosb...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Ym mis Medi 2016, roedd dyn o'r enw Gary wedi rhedeg y rhan fwyaf o'r ras 5 km, Race For Victory, yng Nghaerdydd cyn cwympo ar ochr y ffordd mewn poen mawr, yn dioddef o ataliad y galon. Yn rhyfeddol, fe stopiodd calon Gary guro am saith munud. Yr help cyntaf i gyrraedd oedd uned ymateb ar feic St John Cymru, grŵp o wirfoddolwyr a lwyddodd i gael calon Gary i guro...
David Melding: Lywydd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymgyrch yn erbyn arferion lesddaliad annheg, rydym wedi gweld y mater hwn yn dod yn ffocws go iawn yng Nghymru hefyd. A gaf fi groesawu cyhoeddiad y Llywodraeth y prynhawn yma? Credaf ei fod yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw'r cyhoeddiad hwn yn ymddangos fel maddeuant...
David Melding: Credaf mai'r rheswm, Lywydd, pam nad yw'r ddeuawd hon yn gweithio—er ei bod wedi'i llwyfannu yn dda iawn, rwy'n gwybod, rwy'n cydnabod hynny—yw am fod Bro Morgannwg yn awdurdod hynod gystadleuol yn wleidyddol; mae wedi cael ei redeg yn ddiweddar gan weinyddiaethau Llafur a gweinyddiaethau Ceidwadol, gyda phleidiau eraill yn rhan o bethau yn ogystal â grwpiau annibynnol, ac mae pob un...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae myfyrwyr o dramor yn werth mwy na £151 miliwn i economi Caerdydd yn unig. Efallai eich bod wedi gweld astudiaeth newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch sy'n dangos bod buddion myfyrwyr rhyngwladol hyd at 10 gwaith yn fwy na'r gost. Felly, ar gyfer lleoedd fel Caerdydd, a dinasoedd a threfi prifysgolion eraill ledled Cymru, mae hon yn ffynhonnell wirioneddol...
David Melding: 2. What is the Welsh Government doing to attract overseas students to Welsh universities? OAQ51846
David Melding: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gytundeb contract lesddaliad Llywodraeth Cymru gyda phump o’r prif adeiladwyr cartrefi? 152