Leanne Wood: Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru, dros flynyddoedd lawer erbyn hyn, wedi hyrwyddo cymhellion i ddenu meddygon i Gymru. Un ffactor pwysig, os ydym ni’n mynd i ddenu pobl i ddod i fyw a gweithio yma fel meddygon teulu wrth i ni hyfforddi mwy o feddygon, yw cyflwr yr economi. Faint yn fwy anodd ydych chi’n asesu y bydd hi i ddenu meddygon...
Leanne Wood: Cyn i mi ddechrau fy nghwestiynau heddiw, Brif Weinidog, hoffwn roi ar goedd ein llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Cymru a'r cefnogwyr a'n gwnaeth ni mor falch yn Ffrainc neithiwr. Gallwn barhau ar y trywydd hwnnw, ond rwy'n mynd i symud ymlaen at fy nghwestiynau nawr. Brif Weinidog, rydych chi a minnau wedi croesi cleddyfau ar sawl achlysur ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol. Neithiwr,...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Wnes i erioed gwrdd â Jo Cox, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig sy'n uniaethu ag agweddau ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed amdani, ac â pheth o'r wleidyddiaeth yr oedd hi'n ei chynrychioli. Yn hytrach na defnyddio fy ngeiriau i heddiw, byddai'n well gennyf ddefnyddio ei rhai hi. Yn ei haraith gyntaf yn San Steffan, dywedodd Jo Cox AS, Mae ein cymunedau wedi eu gwella yn...
Leanne Wood: Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth prawf yn arbennig. Dros wyth mlynedd yn ôl erbyn hyn—yn ôl yng ngwanwyn 2008—cynhyrchais bapur polisi ar ran Plaid Cymru, o’r enw ‘Gwneud Ein Cymunedau’n Fwy Diogel’. Diben y papur hwnnw oedd gwella diogelwch cymunedol, ac roedd yn argymell datganoli’r system cyfiawnder troseddol fel y gallai...
Leanne Wood: Rwyf yn rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwyf yn credu bod angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a fyddai’n digwydd pe byddai pleidlais i adael yr wythnos nesaf. Nawr, gwnaeth y cyn Prif Weinidogion Blair a Major fwrw i mewn i'r ddadl gan ddweud mai un arall o'r canlyniadau tebygol o bleidlais i adael fyddai chwalu’r DU. Nawr, rwyf yn derbyn bod gan ein pleidiau ddwy farn...
Leanne Wood: Rydym yn cytuno, Brif Weinidog, ar ein hundod o fewn Ewrop, a gadewch i ni ei gadael hi felly am y tro. Ni, yng Nghymru, yw’r wlad gyda'r ffigyrau allforio dwysaf yn y DU. Mae taliadau'r fantolen fasnach yn dangos gwarged o ran nwyddau gyda'r UE, ac nid yw hynny'n wir ar gyfer y DU. Bydd ansicrwydd, felly, yn effeithio mwy ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Byddwn yn cael ein heffeithio...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddwch wedi rhannu'r teimladau cynnes a deimlais i wrth weld lluniau o gefnogwyr Cymru yn Ffrainc yn canu ac yn cysylltu breichiau â chyd gefnogwyr. Roeddynt yn genhadon dros ein gwlad. Roeddwn i'n meddwl bod y delweddau hynny’n cyfleu rhywbeth am naturioldeb ein lle fel Cymru o fewn Ewrop, canu gyda phobl o Slofacia—pobl o genedl fach...
Leanne Wood: Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai’r Bil Cymru newydd yn sicrhau bod ein democratiaeth yn dod i oed drwy Fil sy’n darparu sefydlogrwydd ac atebolrwydd. Mae’n ymddangos i Blaid Cymru fod geiriau Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn rhai gwag. Bydd y Bil Cymru newydd yn cadarnhau statws Cymru fel y perthynas tlawd yn yr undeb, gan gyfyngu ar allu ein Llywodraeth a etholwyd...
Leanne Wood: Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o’r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth ‘chwiban y ci’ y dde eithafol sy’n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy’n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb...
Leanne Wood: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i’r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau’r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth—Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd—i greu’r cynllun cymorth ariannol a’r...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Wel, mae’n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.] Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac eraill i alw am ymestyn yr amser i gofrestru pleidleiswyr ar-lein, er mwyn...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, a hoffwn longyfarch pawb a benodwyd ganddo. Congratulations to you all. Brif Weinidog, dywedasoch yn gynharach wrth ateb cwestiynau y byddai eich holl Aelodau yn rhwymedig i gydgyfrifoldebau’r Cabinet. Sut felly y byddwch yn datrys cwestiynau anodd megis pa un a fydd llwybr du yr M4 yn mynd yn ei...
Leanne Wood: Rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu’n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai’r ymrwymiad hwn wedi bod yno oni bai am yr ymgyrchwyr hynny. A wnewch chi ymrwymo...
Leanne Wood: Dylid eich canmol, rwy’n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a’r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno nawr i gyfarfod ag Irfon a Rebecca Williams o'r grŵp ymgyrchu hwnnw...
Leanne Wood: Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolbeb, a fyddai'n golygu na fyddai cleifion yn cael eu gorfodi i symud i...
Leanne Wood: Yn y tymor newydd hwn, Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol a welodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn erioed. Fe fyddwn o ddifrif ynglŷn â’n cyfrifoldebau ac fe fyddwn yn adeiladol. Mae llawer wedi’i ysgrifennu a’i ddweud mewn perthynas ag ymochri gwleidyddol yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf; yn hynny o beth, mae angen i bobl wybod mai’r unig gerdyn y bydd Plaid Cymru yn...
Leanne Wood: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Nid yw hyn heddiw’n ymwneud â chlymbleidio. Pleidlais untro yw hon heddiw i ganiatáu i enwebiad Llafur basio. Os yw’r blaid honno’n credu bod eu bwlio yr wythnos diwethaf yn atal Plaid Cymru rhag pleidleisio mewn ffordd debyg yn y dyfodol, i’ch dwyn i gyfrif, yna meddyliwch eto. Nid yw’n ddrwg gennyf am yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf a byddaf...
Leanne Wood: Leanne Wood.