Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i dynnu eich sylw chi at gynllun i adeiladu ffordd osgoi 9 km o hyd yn fy ardal i, yn Arfon, yn ardal Caernarfon a Bontnewydd, cynllun a gafodd ei sicrhau gan fy rhagflaenydd i, Alun Ffred Jones, yn y Cynulliad diwethaf, a fydd yn hwb sylweddol i’n hardal ni. Hoffwn i wybod gennych chi a ydych chi’n ymwybodol o’r oedi sylweddol sydd yn digwydd i’r prosiect...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i’r rhwydwaith ffyrdd yn Arfon? OAQ(5)0004(EI)[W]
Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi meddygon newydd yng ngogledd Cymru?
Siân Gwenllian: Mae gen i bob cydymdeimlad efo’r awydd yma i fod yn fwy hyblyg efo cyhoeddi bathodynnau dros dro, ond rwy’n anghytuno efo’r ffordd mae’r Aelod yn mynd o’i chwmpas hi. Mae cefnogi ei gynnig o yn golygu un peth: dim hawl i gael bathodyn glas dros dro, sef sefyllfa sydd llawer iawn yn waeth nag ydym ni ynddi rŵan. Felly, rwy’n eich annog chi i bleidleisio yn erbyn. Nid oes rheswm i...
Siân Gwenllian: A gaf i’ch llongyfarch chi, Mark Drakeford, ar eich penodiad diweddar ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo chi? Rwyf i a Phlaid Cymru’n croesawu’r adroddiad yma heddiw. Mae yna argymhellion clir a chadarn yma, ac rydym yn llongyfarch gwaith gwych Rhodri Glyn Thomas, sy’n gyn-Aelod y lle yma, wrth gwrs, a’i gyd aelodau ar y gwaith. Rydych chi’n cytuno, rwy’n siŵr, y gall...
Siân Gwenllian: Diolch. Rwy’n falch o glywed hynny, ond roedd eich maniffesto chi yn gosod targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050—rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny, ac mae hynny’n wych o beth, ac rwy’n eich longyfarch chi am osod y ffasiwn darged, sy’n golygu, 34 mlynedd o rŵan y bydd gennym ni ddwbl nifer y bobl sydd gennym ni ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, ond sut ydych chi’n...
Siân Gwenllian: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllun y Llywodraeth i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru? OAQ(5)0046(FM)[W]
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi’n cydnabod bod angen yn awr symud ymlaen i hyfforddi meddygon. A fydd y cynlluniau yn cynnwys edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru? Oherwydd mae’r problemau, fel y gwyddoch chi, yn ddybryd iawn yn y gogledd, a’r angen am feddygon yn yr ysbytai ac mewn meddygfeydd gwledig yn un dwys iawn. A fyddwch chi, felly, yn...
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid? OAQ(5)0002(FM)[W]
Siân Gwenllian: Leanne Wood.