Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Jayne. Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi cael ein syfrdanu gan y sgyrsiau a gawsom yno gyda rhieni a staff a'r bobl ifanc eu hunain, a oedd yn canmol yr hyn y mae'r ganolfan yn ei wneud yn huawdl iawn, ac mae'n rhaid i mi ddweud i ni gael ein synnu hefyd gan y ffordd y mae'n cyd-fynd â'r dull rydym yn ei fabwysiadu ar draws Gwent erbyn hyn, oherwydd mae'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Ar 8 Tachwedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd oddeutu £13.4 miliwn o arian o'r gronfa drawsnewid i gefnogi gwell mynediad at wasanaethau yng Ngwent. Mae cynnig Gwent yn canolbwyntio ar atal, llesiant, a modelau iechyd a gofal di-dor newydd wedi'u darparu yn nes at adref. Rydym yn falch iawn o ddweud ei fod hefyd yn cynnwys datblygu system integredig o lesiant emosiynol...
Huw Irranca-Davies: Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod yr holl hawliau—hawliau pobl hŷn, hawliau plant, hawliau pobl anabl—yn hawliau cyffredinol ac y dylid eu cymhwyso yn y ffordd honno. Rwy'n credu bod cefnogaeth drawsbleidiol i lywio'r agenda hawliau yn ogystal. Credaf mai'r cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau i ni wneud hynny. Rwy'n fwy na pharod i weithio'n adeiladol gyda Darren ac unrhyw Aelod sy'n...
Huw Irranca-Davies: Janet, rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud. Yn wir, pan adawodd Sarah Rochira ei swydd, ym mis Mehefin rwy'n credu, roeddem yma yn y Senedd, ac fe wnaethom ymrwymiad i wneud hawliau'n real i bobl hŷn a nodwyd nifer o ffyrdd y byddem yn gwneud hynny. Rydych yn gywir yn dweud nad yw hyn yn ymwneud yn unig â'r lleoliad gofal: mae'n ymwneud â phob lleoliad y bydd y person...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am y cwestiwn, a do, fe welais raglen Y Byd ar Bedwar, ac rydym yn ymwybodol iawn o'r pryderon a godwyd ynghylch Pines yng Nghricieth, fel y mae Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd yr arolygiaeth gamau ar waith ar unwaith ar ôl iddynt gael gwybod am y materion a nodwyd gan S4C yn y Pines, ac mae ei harolwg yn parhau ar hyn o bryd. Nawr, oherwydd hynny, mae'n anodd i mi wneud...
Huw Irranca-Davies: Byddwn bob amser yn cadw meddwl agored ar hyn, oherwydd credaf eich bod yn gywir yn dweud bod angen i ni ddilyn y dystiolaeth bob amser. Ac wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi adolygu ac adnewyddu'r canllawiau mewn perthynas â darpariaeth nyrsio yn y sector cartrefi gofal, gan gydnabod, unwaith eto, fod cartrefi gofal yn amrywio'n sylweddol o ran y math o breswylwyr sydd...
Huw Irranca-Davies: Mae'n bendant fod angen inni ochel rhag hynny. Rydym wedi cyflwyno ein safbwyntiau'n glir iawn i Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr angen i'n staff gofal presennol aros a chael croeso yma yng Nghymru doed a ddelo, ond hefyd er mwyn osgoi tynhau ar reolau mewn perthynas ag unigolion sy'n gweithio yn y rheng flaen neu eu teuluoedd hefyd, oherwydd rhaid inni ymdrin â'r ddau beth. Ac un o'r...
Huw Irranca-Davies: Helen Mary, a gaf fi eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd, a chroesawu hefyd y ffordd rydych newydd nodi pwysigrwydd iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd? Mae'r grŵp rhanddeiliaid Brexit rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gadeirio ar y cyd wedi edrych ar y mater hwn. Ceir prinder cymharol o ddata ar y sector gofal cymdeithasol o'i gymharu â'r sector iechyd. Yn y sector iechyd,...
Huw Irranca-Davies: All care homes in Wales are regulated by Care Inspectorate Wales, on behalf of Welsh Ministers. Regular inspections take place under the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, and action is taken where necessary to ensure the quality and safety of services for people in Wales.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Nawr, bydd y drafodaeth a gawsom ni heddiw, yn helpu i lunio ein hymateb, a byddaf yn sicrhau y bydd ymateb ar gael i Aelodau'r Cynulliad. Fe fyddwn ni'n ymateb i bob un o'r 15 o argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd. Efallai na fyddwn yn gallu cytuno â phob argymhelliad i'r radd eithaf, ond gallaf ymrwymo y byddwn yn parhau i ysgogi cynnydd ynghylch hawliau a lles plant....
Huw Irranca-Davies: Nid wyf yn credu bod gennyf amser, Darren, yn anffodus.
Huw Irranca-Davies: A mater carchar y Parc, a allaf i ddweud ei bod hi'n bwysig inni edrych ar y bobl ifanc hynny yng ngharchar y Parc a'u hystyried yn bobl ifanc yn anad dim a sicrhau bod y cymorth ar gael iddyn nhw yno, er mwyn ymdrin â'r hanesion brawychus a glywsom ni am hunan-niwed? Rwy'n credu bod carchar y Parc wedi ymateb mewn rhyw ffordd drwy ddweud efallai nad yw'r data sydd wedi'i gyflwyno yn...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Nid wyf yn credu, yn yr amser sydd ar ôl, y gallaf ateb pob pwynt gyda'r manylder yr wyf fel arfer yn ei gynnig, ond fe wnaf fy ngorau glas. A gaf i ddweud yn gyntaf oll, wrth Siân ac eraill sydd wedi ein herio ni ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Nid ydym ni—rydym ni'n cydnabod—yn ymwreiddio agenda hawliau dros nos ac rydym yn croesawu'r her, gan y Comisiynydd...
Huw Irranca-Davies: Felly, edrychaf ymlaen at gael sgwrsio gyda'r comisiynydd plant, ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant, ac yn bwysicaf oll gyda phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad at y ddadl hon drwy ddiolch i'r comisiynydd plant, nid yn unig am ei hadroddiad blynyddol, ond hefyd am ei gwaith diflino ar ran plant a phobl ifanc Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod rhoi llais i blant ac eirioli ar eu rhan yn rôl hanfodol. Felly, rwy'n croesawu ei hadroddiad a'r gwaith gwerthfawr y bu hi yn...
Huw Irranca-Davies: Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran hawliau plant trwy eu hymgorffori yn y gyfraith trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011—y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, ac mae'n rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn falch iawn ohono. Rydym ni wedi ymrwymo'n angerddol i hawliau plant, a gwelir hyn yn amlwg gan mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant. Hawliau yw...
Huw Irranca-Davies: Byddaf. Diolch. Rwyf i wedi sôn eisoes, yn fy atebion blaenorol, am lawer o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gynyddu cymorth i deuluoedd a chymorth therapiwtig er mwyn, lle y gallwn ni, gadw plant o fewn yr uned deuluol yn ddiogel ac yn briodol. Soniais am hyn yn fy sylwadau agoriadol, ond hefyd rhai o'r ffrydiau gwaith y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn eu hybu hefyd. Roeddech chi'n rhoi...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Jenny. Rydych chi'n ein hatgoffa'n briodol bod angen inni edrych ar y profiad gofal cyfan yn y fan yma mewn gwirionedd. Y bobl hynny, plant a phobl ifanc sydd mewn gofal—mae angen inni roi'r blaenoriaethau cywir er mwyn iddyn nhw wella eu canlyniadau—y rhai sy'n gadael gofal, ond hefyd i ganolbwyntio ar, fel y mae'r ffrwd waith Rhif 1 nawr, sut ydym ni'n lleihau nifer y plant a...
Huw Irranca-Davies: Helen, diolch yn fawr iawn am y sylwadau manwl yna. Gadewch imi ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau: ein disgwyliad yw y dylai'r holl awdurdodau lleol a'r rhai sy'n darparu cymorth godi i lefel y goreuon. Fe wyddom ni, fel y clywsom gan gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn gynharach, fod arfer da iawn ar gael; rydym ni wedi dwyn hynny i'r amlwg ein hunain. Rydym ni'n disgwyl i hynny fod...
Huw Irranca-Davies: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Fe wnaf i gadw fy ymateb yn fyr iawn, iawn. Yn sicr, cryfder mawr ein ffordd o weithio yw ei bod hi'n traws-lywodraethol, yn draws-sector, ond hefyd yn amhleidiol. Mae hon yn agenda y mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae ynddi, ac mae angen i bob un ohonom ni ddod â'n profiad a'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth, gan gynnwys, gyda llaw—ac rwy'n croesawu eich geiriau...