Canlyniadau 1061–1080 o 2000 ar gyfer speaker:Mike Hedges

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ardaloedd Menter
(18 Gor 2017)

Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Nid oedd ardaloedd menter y 1980au yn llwyddiannus yng Nghymru, gyda'r fwyaf yn Abertawe yn troi’n ardal siopa fawr y tu allan i'r dref. Yn wir, defnyddir y term 'ardal fenter' yn Abertawe i ddiffinio ardal siopa y tu allan i'r dref. Pryd mae’r ardaloedd presennol yn mynd i gael eu hadolygu, a beth fydd yn cynrychioli llwyddiant?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ardaloedd Menter
(18 Gor 2017)

Mike Hedges: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ardaloedd menter? OAQ(5)0732(FM)

7. 7. Dadl ar y Ddeiseb 'Amddiffyn Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru' (12 Gor 2017)

Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw. Fel y dywedwyd yn gynharach gan fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, deilliodd hyn o newid Rheol Sefydlog sy’n caniatáu i unrhyw ddeiseb â mwy na 5,000 o lofnodion gael ei hystyried ar gyfer dadl ar lawr y Siambr. Mae’n enghraifft ragorol o ymwneud uniongyrchol y cyhoedd yng ngwaith y...

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Bil Diddymu Llywodraeth y DU
(12 Gor 2017)

Mike Hedges: Mae hynny ychydig yn fwy nag oeddwn wedi ei ddisgwyl, mewn gwirionedd, ac yn well na’ch rhagflaenydd, a fyddai wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl y tri gair cyntaf. A gaf fi efallai ofyn cwestiwn atodol yn dilyn yr ateb a roesoch i Simon Thomas, lle roeddech yn dweud bod yn rhaid i’r Bil diddymu mawr fod yn ddarostyngedig i gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad hwn? Beth fydd yn...

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Bil Diddymu Llywodraeth y DU
(12 Gor 2017)

Mike Hedges: 4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil diddymu Llywodraeth y DU? OAQ(5)0043(CG)

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (12 Gor 2017)

Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithio rhanbarthol ym maes addysg?

9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru):
Grŵp 3: Gofyniad ynghylch Pleidlais gan Undeb Llafur Cyn Gweithredu a Dileu Diffiniadau o Awdurdodau Datganoledig Cymreig (Gwelliannau 3, 4, 5)
(11 Gor 2017)

Mike Hedges: Ydych chi'n ei chael yn eironig bod rhywun a gafodd 34.7 y cant o'r bleidlais mewn etholiad eisiau gweld trothwy pleidlais o 40 y cant?

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (11 Gor 2017)

Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Nid wyf yn ymddiheuro am ofyn am un ar y morlyn llanw. Gwn fod y morlyn llanw wedi cael ei grybwyll ddwywaith y prynhawn yma yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ond rwy'n credu ei fod mor hynod bwysig i'r rhai ohonom sy'n byw yn ninas-ranbarth bae Abertawe fel fy mod yn credu yr hoffem gael datganiad arno, i gwmpasu dau bwynt: un yw’r drwydded forol y mae...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
(11 Gor 2017)

Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn darparu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd. A fydd dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cael yr un cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru pan fydd ei angen?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
(11 Gor 2017)

Mike Hedges: 5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0712(FM)

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Mike Hedges: Fyddwn i ddim yn meddwl hynny, oherwydd ni allwch roi cymaint â hynny o ddiesel yn y rhan fwyaf o geir, ac felly bydd cost teithio i gael y diesel—[Torri ar draws.] Bydd cost teithio i gael y diesel mewn gwirionedd yn fwy na'r arbedion posibl. Mae angen ystyried pob treth yn erbyn canlyniadau anfwriadol fel y byddent yn effeithio ar ymddygiad mewn modd cadarnhaol. Beth yw'r peryglon y...

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r cyfle i ddechrau cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy’n croesawu cyfle Ysgrifennydd y Cabinet i ddechrau meddwl. Nid yw'n gymaint o gyfle i feddwl, ond meddwl yn uchel; dyna yr wyf yn bwriadu ei wneud. Asesir unrhyw gynnig i gyflwyno treth newydd yng Nghymru yn erbyn ystod o feini prawf, gan gynnwys i ba raddau y mae treth yn effeithio ar bolisïau macroeconomaidd neu...

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Mike Hedges: Ond, does bosib, gyda threth gorfforaeth, ei bod bron fel rhodd wirfoddol gan gwmnïau mawr pan fyddant yn gallu penderfynu i ble maen nhw'n mynd i ddychwelyd eu helw, lle y byddan nhw’n penderfynu talu am hawliau eiddo deallusol ac ati. Felly, mae'n gyfraniad gwirfoddol—nid yw’r gyfradd yn bwysig, mae’n fater o faint y maent mewn gwirionedd yn awyddus i’w dalu.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Hyrwyddo Cymru i'r Byd
( 4 Gor 2017)

Mike Hedges: A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy'n credu ein bod i gyd—neu'r rhan fwyaf ohonom ni wedi mwynhau llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop y llynedd yn arw, ac fe wnaethom ni wir weld Cymru'n cael ei hyrwyddo fel chwaraewr o bwys yn Ewrop o'i herwydd. Rwy'n credu ei bod, wrth gwrs, yn hanfodol bod Chwaraeon Cymru hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Hyrwyddo Cymru i'r Byd
( 4 Gor 2017)

Mike Hedges: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwyddiant ym myd chwaraeon o ran hyrwyddo Cymru i'r byd? OAQ(5)0694(FM)

6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru (28 Meh 2017)

Mike Hedges: Diolch yn fawr iawn. Jenny Rathbone—ar ôl Brexit—. Wel, mae’r pistol cychwyn wedi cael ei danio. Fe wyddom am ein dibyniaeth ar lafur mewnfudwyr. Effaith tariffau ar allforion cig oen, ni fydd gennym—wel, ychydig iawn fydd gennym. Ac mae ansawdd bwyd yn bwysig. Rwy’n meddwl mai un peth y mae angen i bawb ohonom feddwl amdano yw beth rydym yn ei roi yn ein stumogau. Dywedodd Eluned...

6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru (28 Meh 2017)

Mike Hedges: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â chi? Yr hyn roeddwn yn mynd i ddweud oedd y gallem fod wedi cael hyd i ffordd o’i amgylch o’r cychwyn cyntaf drwy ddweud bod yn rhaid i’r holl gyfarwyddiadau fod yn Gymraeg, a gwneud i bawb yn Sbaen, Portiwgal, a phobl eraill a oedd eisiau allforio i ni, gynhyrchu deunydd pacio Cymraeg gyda’r cyfarwyddiadau yn Gymraeg, a byddai hynny wedi...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.