Lee Waters: Os caf fi orffen fy mrawddeg, fe wnaf. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Gadewch i ni feddwl yn greadigol a gadewch i ni roi’r baich ar gwmnïau corfforaethol, nid ar drethdalwyr sydd dan bwysau mawr.
Lee Waters: Fe gymeraf un gan Caroline, gwnaf.
Lee Waters: Roeddent o flaen fy llygaid.
Lee Waters: Wel, unwaith eto, dyma beth yw llunio polisi drwy anecdot, ac nid yw’r dystiolaeth yn cadarnhau hynny. Nawr, dywedodd Sian Gwenllian fod angen i ni sicrhau chwarae teg gyda datblygiadau ar gyrion y dref. Felly, gadewch i ni wneud hynny; gadewch i ni feddwl y tu allan i’r bocs. Yn hytrach na dweud, ‘Beth am gynyddu’r cymhorthdal i feysydd parcio yn y dref’, gadewch i ni roi...
Lee Waters: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod yna rywfaint o dir cyffredin gyda’r cynnig a gyflwynodd Plaid Cymru. Nid oes amheuaeth fod wyneb manwerthu wedi newid yn ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nid ydym am i ganol trefi fod yn llefydd i siopau’n unig. Rydym am iddynt fod yn fwy na hynny; rydym am iddynt fod yn ganolfannau i’r gymuned. Ar hynny, rwy’n meddwl y gallwn i gyd...
Lee Waters: Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed?
Lee Waters: Yn amlwg, Weinidog, ceir pryder yn y sector, ac mae’n ymddangos bod y pryder hwnnw wedi cyrraedd mewnflychau e-bost yr Aelodau. A wnaiff y Gweinidog yn siŵr, pan fydd yn myfyrio ar argymhellion annibynnol adroddiad gan gyn-Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn myfyrio ar adroddiad grŵp llywio annibynnol y mae wedi ei sefydlu, ei fod yn rhoi buddiannau defnyddwyr wrth galon hyn ac...
Lee Waters: Rwy'n falch o ddilyn cyfraniad nodweddiadol ystyrlon gan Suzy Davies ar hyn. Rwy'n credu bod hon yn adeg arwyddocaol ar gyfer datganoli gan fod siarter y BBC yn cwmpasu maes nad yw wedi’i ddatganoli i'r Cynulliad hwn, ac mae Bil Cymru yn gwneud ati i'n hatgoffa ni o hynny—mewn ffordd ychydig yn ddi-alw-amdano, yn fy marn i. Ond, serch hynny, mae'n dangos sut yr ydym yn gallu goresgyn yr...
Lee Waters: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Lee Waters: O ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, ac yr wyf yn cytuno’n llwyr ag ef, ynghylch pa mor bwysig yw hi bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn chwarae mwy o ran wrth ddwyn y BBC i gyfrif, a gan y bydd gan Lywodraeth Cymru ran uniongyrchol i’w chwarae yn y broses o benodi aelod bwrdd y BBC, a ydych chi’n cytuno â mi y byddai'n ddymunol i bwyllgor diwylliant y Cynulliad chwarae rhan...
Lee Waters: Rhannaf ei amheuaeth, ond gadewch i ni roi lle iddynt brofi y gallant gyflawni’r hyn yr oeddent yn dweud y gallent ei gyflawni.
Lee Waters: Os oes gennyf amser, rwy’n hapus i dderbyn.
Lee Waters: Wel, rwy’n hapus i egluro. Wrth gwrs, nid yw hynny—nid mai fi sy’n penderfynu ar bolisi Llafur Cymru. Fy mhwynt yw fy mod yn ceisio esbonio safbwynt y Prif Weinidog, sef ei fod yn ymwybodol iawn o’r neges a anfonodd ein pleidleiswyr, mewn cyferbyniad â’r neges a roesom iddynt hwy. Gwrandawsant ar gelwyddau’r ymgyrch dros adael y byddai gadael yr UE yn arwain at ymagwedd wahanol...
Lee Waters: Credaf ei bod yn werth ailadrodd nad oeddem yn dymuno gadael yr UE, ond roedd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn anghytuno, ac er fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig Simon Thomas ar ran Plaid Cymru, gan nodi pwysigrwydd aelodaeth o’r farchnad sengl Ewropeaidd, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i economi Cymru, roedd canlyniad y refferendwm yn glir. A’r unig ffordd y gallwn fod yn aelodau...
Lee Waters: Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad ac am yr ymroddiad personol yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ei ddangos ar gyfer yr agenda hon. Mewn sawl ffordd, pasio’r ddeddfwriaeth yw'r rhan hawdd yn y prosiect hwn. Dyma brosiect uchelgeisiol sy’n ymwneud â sawl cenhedlaeth i geisio newid agweddau ac ymddygiad. Ac er bod gennym, drwy fodolaeth y Ddeddf, rai...
Lee Waters: Brif Weinidog, bu cynnydd sylweddol o ran harneisio grym y bunt gyhoeddus, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae’r Athro Kevin Morgan, sy’n un o brif arbenigwyr Ewrop ar fwyd cynaliadwy, wedi tynnu sylw at fwlch sgiliau fel her fawr o'n blaenau. Mae wedi gwneud awgrymiadau ynghylch recriwtio dwsin o weithwyr proffesiynol medrus i allu rhoi i sector cyhoeddus Cymru y gweithwyr proffesiynol...
Lee Waters: Mae ychydig yn frawychus gwrando ar yr anecdot rydym yn ei gael yn lle tystiolaeth a ninnau’n wynebu heriau economaidd mor ddifrifol. Roedd Paul Johnson, pennaeth uchel ei barch y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yn dweud y bydd ein heconomi gryn dipyn yn llai o ganlyniad i adael yr UE. Felly, gadewch i ni siarad am ffeithiau a barn ddifrifol, yn hytrach nag anecdotau.
Lee Waters: Rwyf am ymyrryd eto. Rhoddodd Caroline Jones araith yn seiliedig ar rai busnesau y cyfarfu â hwy, ac mae hyn rywsut yn ymateb sylweddol i bob un o’r economegwyr sy’n dweud bod ein heconomi yn mynd i ddirywio. Ac rydych yn dweud wrthym am elifiant yn dod o gyfleusterau golchi ceir. Felly, anecdot yw hwnnw.
Lee Waters: A wnewch chi ildio?
Lee Waters: A wnewch chi dderbyn ymyriad?