Jane Hutt: Diolch i Darren Millar am nodi eich cefnogaeth a’r ffaith fod eich grŵp yn mynd i ystyried y diffiniad hwn. Dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn ein bod yn gweithio ar hyn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, oherwydd credaf fod hwn yn rhywbeth lle rydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Ond yn ffodus iawn, mae gennym fforwm cymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod heddiw, y bore...
Jane Hutt: Rwy’n ddiolchgar i Leanne Wood am gyflwyno’r cwestiwn hwn i'n galluogi i fod yn glir iawn ynglŷn â'n sefyllfa. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu Islamoffobia a phob math o droseddau casineb crefyddol yn ddiamwys. Mae'n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am mai ni sydd mewn grym. Mae'n drist, mewn ffordd, o ran y sefyllfa a ddaeth i'r amlwg mewn perthynas â Llywodraeth y DU, oherwydd mai...
Jane Hutt: Yn y fforwm cymunedau ffydd y bore yma, tynnodd y Prif Weinidog sylw at ystyriaeth Llywodraeth Cymru o'r diffiniad o Islamoffobia. Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda golwg ar fabwysiadu'r diffiniad. Mae angen i ni sydd mewn grym wneud safiad dros bobl sy'n cael eu stigmateiddio neu’n cael eu cam-drin.
Jane Hutt: Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau a'r cwestiynau hollbwysig hynny. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at adroddiad arloesol Jean Corston 12 mlynedd yn ôl ar y mater hwn, ynglŷn â pha mor agored i niwed y mae menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydych chi a Julie Morgan a Julie James, ac eraill ar draws y Siambr—Leanne Wood ac eraill—wedi codi'r materion hyn o ran sut y...
Jane Hutt: Rwy'n diolch yn fawr iawn i Alun Davies am ei gwestiynau ac am ei ymrwymiad parhaus i symud ymlaen. Rwyf wedi rhoi teyrnged i'r gwaith y gwnaethoch chi ymgymryd ag ef. Rwy'n cofio bob amser i Alun Davies ddangos ei ymrwymiad i'r maes polisi hwn, a'i ymrwymiad ef i'r maes polisi hwn sydd wedi helpu i ddod â ni i'r fan lle gallaf i nid yn unig gyhoeddi glasbrintiau ar gyfer pobl ifanc,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Leanne Wood. Mae'n amlwg eich bod yn siarad o brofiad, gan ddod i'r Cynulliad hwn gyda'r profiad hwnnw ac yn llefaru am y materion hyn o ran cyfiawnder, ac yn cydnabod hefyd fod y pwyntiau a wnaethoch chi heddiw yn ddilys iawn o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen i weithredu'r glasbrintiau hyn. Rwyf i hefyd, o ran y gwasanaeth prawf a'r ffaith y cafwyd croeso...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Ac a gaf i roi cydnabyddiaeth i chi am eich profiad a'ch diddordeb yn y maes hwn? A dweud y gwir, rwy'n gwybod, Mark, eich bod wedi cymryd rhan mewn ymchwiliadau pwyllgor blaenorol yn y Cynulliad hwn ac mae gennych chi ddiddordeb mawr, wrth gwrs, yn eich rhanbarth chi o ran y gwasanaethau hyn. Credaf fod eich sylw...
Jane Hutt: Rydym ni'n gweithio ar y cyd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau mewn nifer o feysydd, er enghraifft drwy ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a lles mewn carchardai a'r concordat ar argyfwng iechyd meddwl, a'r glasbrintiau cyfiawnder. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gydag Edward Argar, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y cyn Weinidog...
Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn aml, bydd pobl sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn bobl sydd ymhlith y mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas. Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw wedi cael cam yn gynharach yn eu bywydau, gan ddioddef nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau,...
Jane Hutt: Wel, ie, ac rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth, unwaith eto, lle'r ydym wedi buddsoddi mewn prentisiaethau, a dyna oedd y llwybr cywir i lawer o bobl ifanc, a weithiau gall y prentisiaethau hynny arwain at addysg bellach ac addysg uwch y tu hwnt i gyfnod y brentisiaeth, ac mae gwneud y prentisiaethau hynny'n agored ac yn hygyrch ac wedi'u hariannu yn hanfodol bwysig. Mae'n rhaid i ni sicrhau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i Lynne am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cydnabod yr achos a wnaeth Lynne yn rymus iawn y prynhawn yma ynglŷn â'r oedran addysg gorfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio ymrwymiad y Llywodraeth wrth gwrs, fel rydych eisoes wedi cydnabod, Lynne, i ddysgu gydol oes go iawn a'r lles diwylliannol a'r manteision economaidd...
Jane Hutt: Diolch i Alun Davies am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, hoffwn ddiolch hefyd i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn, oherwydd credaf ei bod yn bwysig imi allu dod yma ac ateb y cwestiwn, oherwydd dylai fod yn destun dadl gyhoeddus. Mae a wnelo hyn â chraffu ar ein deddfwriaeth wedi'r cyfan, deddfwriaeth a basiwyd gennym, a chytunaf yn llwyr ag Alun Davies a chyda'i brofiad o ddeddfwriaeth fod yn rhaid...
Jane Hutt: Diolch i Jack Sargeant am chwifio'r faner heddiw gydag enghraifft bendant o'r modd y caiff y ddeddfwriaeth ei defnyddio gan Goleg Cambria a sut—. Mae'n ddyddiau cynnar, ac mae angen yr enghreifftiau hyn o astudiaethau achos o sut y mae'r sector cyhoeddus yn gwneud defnydd ohoni. Dywedais fy mod wedi cyfarfod â'r trydydd sector heddiw. Maent yn ei chroesawu; maent yn gweld, yn enwedig o ran...
Jane Hutt: Croesawaf y ffaith fod Suzy Davies wedi gwneud sylwadau ar y cyngor a roddwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—cyngor ac arweiniad ar ei phwerau, a'r cyfleoedd yn enwedig i ymwneud â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniadau ynglŷn â chau ysgolion penodol. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod, beth bynnag fo'r sefyllfa, na sefydlwyd y ddeddfwriaeth hon erioed i osgoi...
Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar iawn i Mick Antoniw, y cyn Gwnsler Cyffredinol a'r cyfreithiwr mawr ei barch, ac rwy'n falch mai chi oedd yr Aelod a ymatebodd ac a eglurodd y sefyllfa o ran effaith y dyfarniad cyfreithiol hwn. Fel y dywedais, mae'n ddehongliad o'r gyfraith a mater i'r llysoedd yw dehongli'r gyfraith. Ac unwaith eto, nid wyf am ddychwelyd at hyn, ond gall yr Aelodau ddarllen y dyfarniad a...
Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau'r Aelod ar hyn, ac rwy'n cofio'n iawn y rhan a chwaraeodd ef a'i blaid yn y trafodaethau hyn. Rydych yn llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â'r newid diwylliannol a'r arweinyddiaeth sy'n ofynnol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hegwyddor datblygu cynaliadwy. Mewn gwirionedd, os edrychwch yn y Ddeddf, mae'n dweud yn hollol glir fod: 'unrhyw gyfeiriad at y...
Jane Hutt: Pasiodd y Cynulliad Ddeddf arloesol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y gyntaf o'i bath yn y byd, ac mae eisoes wedi cael effaith bwerus fel y gwelir yn yr enghreifftiau o'r ffordd y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn hybu ffocws o'r newydd ar sut y gallwn wella ac ymgysylltu â phoblogaeth amrywiol Cymru. Rhoddaf rai enghreifftiau gwirioneddol bwysig i chi. Er enghraifft, o ran yr arweiniad...
Jane Hutt: —ond credaf fod Deddf cenedlaethau'r dyfodol eisoes yn profi ei gwerth, ac rwy'n awyddus iawn i drefnu cyfarfod, nid yn unig gyda'r Aelod, ond â phob Aelod, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith gwaith comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Jane Hutt: Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn awr ac yn y dyfodol. Wrth gwrs, mater i'r llysoedd yw dehongli'r gyfraith, ond mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer craffu manylach, nid yn unig craffu ar Lywodraeth Cymru drwy bwerau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru—comisiynydd annibynnol—ond hefyd y...
Jane Hutt: Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol rhwymol ac mae'n ysgogi newid cadarnhaol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud ac yn gweithredu penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl Cymru a'n hamgylchedd yn awr ac yn y dyfodol.