Jeremy Miles: Felly, diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a diolch i Syr Wyn unwaith eto am ei waith.
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd y cyfieithiad—efallai mai ar fy ochr i y mae'r broblem—gwnaf fy sylwadau yn Saesneg, os caf i. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael y ddadl hon am y rhesymau y mae llawer o gyfranwyr wedi'u hamlinellu, fel cam pwysig yn swyddogaeth gynyddol y Senedd o ran craffu ar weithrediad rhannau o'r system...
Jeremy Miles: Bydd aelodau wedi cael cyfle i ystyried ail adroddiad blynyddol y llywydd, ac, fel fi, rwy'n credu, byddan nhw wedi'i ddarllen gyda diddordeb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi gweithredu'n effeithiol, gan sicrhau bod defnyddwyr tribiwnlysoedd wedi parhau i allu sicrhau cyfiawnder yn briodol. Bydd adroddiad blynyddol nesaf y llywydd, rwy'n tybio, yn myfyrio'n...
Jeremy Miles: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n hynod falch ein bod ni'n cynnal y ddadl hon ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, adroddiad sy'n cwmpasu'r flwyddyn ariannol 2019-20. Hon yw'r ddadl gyntaf inni gael ar yr adroddiadau blynyddol sy'n cael eu cyhoeddi gan y llywydd. Roedd ei adroddiad blynyddol cyntaf fe yn cwmpasu'r cyfnod o 2017 i fis Mawrth 2019, ac yn yr adroddiad hwnnw...
Jeremy Miles: Er mwyn i'r ddarpariaeth ddehongli weithio'n gywir, mae'n bwysig sicrhau bod pob term a diffiniad perthnasol wedi eu cynnwys. Dyna pam y cytunodd y Senedd hon roi pwerau i Weinidogion yn adran 6(2) o'r Ddeddf i'w galluogi i ddiweddaru'r Ddeddf drwy ddeddfwriaeth eilradd. Y rheoliadau hyn yw'r tro cyntaf rydyn ni'n defnyddio'r pwerau hynny. Mae deddfwriaeth ambell waith yn cael ei phasio, fel...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020, ac rwy'n gofyn yn ffurfiol i Aelodau gefnogi'r rheoliadau ger eu bron. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sydd, fel y dywedais i mewn dadl yr wythnos...
Jeremy Miles: Mae'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r cod dedfrydu. Maen nhw hefyd yn diwygio diffiniad y raddfa ddirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod o ganlyniad i'r cod dedfrydu er mwyn caniatáu i ddeddfwriaeth Cymru sy'n cyfeirio at y raddfa...
Jeremy Miles: Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi Janet Finch-Saunders, ond credaf fod y cwestiynau hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar ymateb polisi'r Llywodraeth o ran cefnogi'r sector cig coch, ac rwy'n credu mai mwy priodol mae'n debyg fyddai cyflwyno'r cwestiynau hynny i Lesley Griffiths y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, o safbwynt cyfreithiol, bydd yn ymwybodol, yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, er enghraifft, fod...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig i gyflwyno'r achos dros gyllid gan Drysorlys Ei Mawrhydi i gefnogi'r sector cig coch os na fydd cytundeb masnach ar gyfer ymadael â'r UE.
Jeremy Miles: Bu bron imi wirio i weld o ba feinciau yr oedd y cyflwyniad yna'n dod am eiliad. Byddaf bob amser yn croesawu cydnabyddiaeth gynyddol gan feinciau ar bob rhan o'r Siambr hon o effaith yr her sydd o'n blaenau. Dywedaf ei bod yn gyfres sylweddol iawn o heriau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ceisio ymgodymu â hwy, ac rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o'r risgiau sydd yn y cyfnod i ddod o...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ar Fil Pysgodfeydd y DU ac ar is-ddeddfwriaeth ymadael â'r UE i sicrhau cyfres o bwerau a fydd yn ein galluogi i gefnogi pysgodfeydd Cymru ar ôl diwedd cyfnod pontio'r UE.
Jeremy Miles: Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn pellach ynglŷn â hynny. Credaf y gwnaeth Gweinidog yr economi, a gomisiynodd waith y tasglu, ddatganiad ynglŷn â hyn ddiwethaf ychydig wythnosau'n ôl, ddiwedd mis Hydref. Roedd argymhellion y tasglu, sydd, yn amlwg, wedi'i gyfansoddi er mwyn rhoi cyngor, o'r farn bod y ffordd orau ar hyn o bryd yn sicr yn ymwneud â defnyddio Deddf Priffyrdd 1980, a'r...
Jeremy Miles: Sefydlodd Gweinidogion Cymru dasglu yn gwerthuso atebion posibl o ran ffyrdd heb eu mabwysiadu. Daeth i'r casgliad nad oedd angen newidiadau deddfwriaethol, ond cyhoeddwyd canllaw arfer da, gan leihau'r risg o greu ffyrdd pellach heb eu mabwysiadu. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'n galwad am dystiolaeth ynglŷn â thaliadau ystadau ar ddatblygiadau newydd.
Jeremy Miles: Byddai nid yn unig yn beryglus, ond byddai'n gwbl anghywir yng nghyd-destun y setliad datganoli. Felly, ategaf y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn ynglŷn â hynny. Credaf fod y sylw yr oedd Delyth Jewell yn ei wneud yn ei chwestiwn ynghylch y deddfiad gwarchodedig yn estyniad o'r egwyddor arferol. Felly, rydym ni wedi derbyn y gall fod adegau pan gaiff deddfiadau eu diogelu, ond...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir i Lywodraeth y DU fod cytundeb masnach gyda'r UE yn hanfodol bwysig i ddinasyddion a busnesau Cymru. Fodd bynnag, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol rydym yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr holl ddeddfwriaeth angenrheidiol yng Nghymru i allu gweithredu canlyniad o 'dim cytundeb masnach' erbyn 31 Rhagfyr.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir i ddweud mai bwriad y Bil—mai diben y Bil, yn sicr—yw cyfyngu ar allu'r Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu yn unol â'r setliad datganoli. Nid oedd yn rhaid iddo fod fel hyn, ac nid oes rhaid iddo fod fel hyn o hyd. Rydym ni wedi cynnig dewis amgen i'r Bil sy'n parchu'r setliad datganoli, ond sydd hefyd yn cyflawni'r safonau uchel mewn ystod o...
Jeremy Miles: Credaf fod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at effaith dynodi'r Bil yn ddeddfiad gwarchodedig, gan ei fod yn atal y Senedd hon rhag addasu effeithiau'r Ddeddf. Ond mae'n cyfeirio hefyd at ddarpariaeth lawer ehangach yn y Bil, sydd yr un mor anghyfiawn—os gallaf ei fynegi yn y termau hynny—sef y darpariaethau sy'n rhoi pwerau o feysydd datganoledig i Weinidogion Llywodraeth y DU i wario yng...
Jeremy Miles: Byddai cymal 49 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud Deddf Marchnad Fewnol gyfan y DU yn ddeddfiad gwarchodedig. Dim ond pan ellir cyfiawnhau hynny y dylid defnyddio statws deddfiad gwarchodedig. Rydym ni wedi cynnig hepgor y ddarpariaeth hon; mater i Lywodraeth y DU nawr yw cyflwyno'r achos dros ei chynnwys.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Rwy'n credu ei fod yn taflu goleuni sylweddol iawn ar y sefyllfa. Rwy'n credu ei bod hi'n briodol dweud, wrth gwrs, fod menywod yn cael eu gorgynrychioli, os mynnwch chi, mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn ystod argyfwng COVID, sydd, yn fy marn i, yn dangos yn glir iawn yr her y mae llawer o'r menywod hyn yn ei hwynebu....
Jeremy Miles: Rydym ni, y Llywodraeth, wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch menywod y cynyddwyd eu hoedran pensiwn gwladol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ddiweddar at Lywodraeth y DU i bwyso am ateb teg a chlir i'r menywod.