David Melding: Rwy'n tybio eich bod wedi ildio. [Chwerthin.]
David Melding: Mae'n ddrwg gennyf. Yn ein barn ni, nid yw'n gredadwy o gwbl y gellid gweithredu Bil ymadael yr UE y DU os nad yw'n cael cydsyniad pendant y lle hwn a Senedd yr Alban. Dyna realiti'r sefyllfa wleidyddol, a dyna'r hyn y dylem ni ddibynnu arno.
David Melding: Gwnaf os gwnaiff y Llywydd—
David Melding: Edrychwch, nid oes ffordd o gwmpas hyn. Yr hyn a gynigiwyd heddiw yw, ymhen amser—rhyw 20 diwrnod, neu lai mewn gwirionedd—y byddem yn pasio rhyw fath o Fil parhad. Mae'n mynd i gymryd naw neu 10 mis drwy weithdrefn San Steffan, ac rydym i fod ei wneud mewn 14, 15, 16 diwrnod neu beth bynnag. Rwy'n credu y dylech chi, Rhun, os caf i fod mor hyf a dweud, edrych ar y darlun mawr yn y fan...
David Melding: Nid oedd cefnogaeth unfrydol. Cafwyd cynnig i nodi nad oeddem eisiau rhannu'r Cynulliad arno, oherwydd, yn nhactegau hyn, rydym wedi bod yn awyddus bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i negodi fframwaith effeithiol a fframweithiau llywodraethu effeithiol yn cael cymaint o gymorth â phosib gan y Cynulliad. Felly, gwnaethom benderfyniad ymarferol iawn, ond nid penderfyniad oedd hwnnw i gymeradwyo...
David Melding: Dechreuaf drwy sôn am yr agweddau hynny yr ydym ni'n cytuno â Llywodraeth Cymru yn eu cylch ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ac mae hynny yn unol â'r hyn a amlinellwyd mewn datganiad, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae Llywodraeth Cymru yn parhau o'r farn mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn yw diwygio'r Bil i Ymadael â'r UE er mwyn iddo fedru cael cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad...
David Melding: Prif Weinidog, efallai eich bod chi wedi sylwi, yn yr Alban, yn y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban, bod 75 y cant o bobl 16 a 17 oed wedi pleidleisio. Mae hynny'n cymharu â 54 y cant ar gyfer y grŵp oedran yn uniongyrchol ar ôl hynny—18 i 24—ac roedd gwahaniaeth tebyg iawn yn bodoli yn etholiadau lleol yr Alban yn 2017. A ydych chi'n cytuno â mi fod greddfu arfer o bleidleisio yn...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo gwaith ein Cadeirydd, Mick Antoniw, ei ragflaenydd, Huw Irranca-Davies, a'r ysgrifenyddiaeth gyfan, yn enwedig y clerc? Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol. Mae'n gryno, a chredaf ei fod eisoes wedi cael rhywfaint o effaith a dylanwad. Ond mae angen llawer iawn o ymdrech i gynhyrchu rhywbeth mor bwerus â hynny, ac i lunio rhyw fath o ddadl resymegol o'r ystod gyfan o...
David Melding: Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud o ran bod hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn hollol allweddol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ysgolion—ymysg lleoedd eraill, ond mae ysgolion yn bwysig iawn. Ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf o asiantaethau cyhoeddus mewn sefyllfa dda iawn i ganfod ymddygiad ac agweddau gwael, ac arwyddion o drais gwirioneddol wedyn hefyd, oherwydd mae cymaint na roddir...
David Melding: A gaf i ddechrau drwy ddweud bod hyn yn newyddion cadarnhaol ar y cyfan? Mae gan Gymru lawer i ymfalchïo ynddo, a chredaf ei fod yn llwyddiant ar gyfer datganoli. Cofiaf yr holl ddadleuon 20 mlynedd yn ôl ynghylch pa fath o wahaniaethau polisi allai ddod i'r amlwg, a hyd yn oed mewn meysydd lle mae cyfeiriad polisi wedi ei gytuno i raddau helaeth, gallai cymharu gwahanol awdurdodaethau...
David Melding: A gaf i dim ond—? Oherwydd rydym ni wedi cael datganiad diddorol iawn. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddwn yn ei drafod yfory yn un o'r adroddiadau gorau a gynhyrchodd y Pwyllgor erioed ac rydym ni yn gwneud gwaith trwm, neu os caf i newid y trosiad, rydym ni yn torchi ein llewys. Ond mae dadl yfory rwy'n credu yn arwyddocaol iawn ac mae a...
David Melding: Rwy'n credu y byddai hyn bob amser yn rhywbeth anodd ei negodi, ond fel yr wyf i'n gweld pethau, rydym ni'n symud yn bendant tuag at gytundeb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, o ran sut y bydd haneswyr yn gweld hyn, credaf y caiff ei weld fel trafodaeth ffederal glasurol ei naws, oherwydd, beth bynnag yw eich barn am Lywodraeth y DU, nid yw hi'n trin y gweinyddiaethau datganoledig—fel mae hi'n ei...
David Melding: Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r profion diogelwch cladin mewn adeiladau preswyl uchel yng Nghymru? Efallai eich bod yn gwybod, yr wythnos diwethaf dywedodd adroddiad a gyflwynwyd i awdurdod tân ac achub de Cymru nad oedd gwesty a bloc o fflatiau yng Nghaerdydd wedi bodloni, ac rwy'n dyfynnu, 'gofynion hylosgedd'....
David Melding: Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n croesawu'r penderfyniad gan y BBC i gael gwared ar yr holl blastig untro o'i safleoedd erbyn 2020, ac mae'r teulu brenhinol, sy'n sefydliad bron mor fawreddog ac urddasol â'r BBC, wedi dweud y bydd yn rhaid i arlwywyr mewnol ym Mhalas Buckingham, Castell Windsor a Phalas Holyrood ddefnyddio platiau a gwydrau tsieina, neu—[Torri ar...
David Melding: Rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Isherwood am roi munud i mi. Rwyf am ganolbwyntio ar y potensial sydd gennym i ysgogi mwy o newid eto drwy tai cymdeithasol. Mae yna arferion da, arferion gorau yn wir, yn dod yn amlwg yn y sector hwn eisoes, oherwydd gallant adeiladu ar raddfa fawr. Felly, gallwn edrych ar gartrefi a allai gynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Daw...
David Melding: Gwnaf.
David Melding: Diolch i chi am hynny. Rwy'n falch iawn o gyfeirio at fy ffrind a fy nghyd-Aelod Jonathan Morgan, ac rwy'n gweld ei golli'n fawr yma, os caf ddweud. Ond yn hollol, ac roedd hwnnw'n newid yn ein hymarfer a'n dyheadau yng Nghymru. Yn olaf, a gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn croesawu gwelliant Plaid Cymru? Rwy'n meddwl ei fod yn ychwanegu at y cynnig, a hoffwn ddweud, o ran peth o'r...
David Melding: Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n un o gyfres a gawsom y prynhawn yma lle y ceir cefnogaeth drawsbleidiol i wasanaethau gwell mewn maes penodol. Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad ar gyfer yr ymgyrch Amser i Newid Cymru yma yn y Senedd. Fel y gwyddoch, nod yr ymgyrch honno yw rhoi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru. Wythnos cyn...
David Melding: Rwy'n credu ein bod wedi clywed dwy araith ragorol a oedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r mater, ac fe wnaethant hynny'n huawdl iawn yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu bod pawb ohonom wedi cael profiad o'r mater hwn ac mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar ein hetholwyr. Mae'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ac yn gallu eu gadael mewn sefyllfa fregus iawn yn ariannol. Fel eraill, rwyf...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, pa mor debygol yw hi y bydd y cyfraddau’n amrywio rhwng Cymru a Lloegr mewn gwirionedd? Neu a ydych yn teimlo y bydd problem y ffin bob amser yn anorchfygol o ran cael polisi mwy manwl a phenodol yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion ein hunain?