Canlyniadau 1081–1100 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (13 Tach 2018)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n gobeithio, felly, eich bod chi'n cytuno ein bod ni wedi gwneud cryn gynnydd o ran gwella sefyllfa plant yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiad cenedlaethol ar wella sefyllfa plant ddydd Iau, lle bydd yna gyfle i rannu'r hyn yr ydw i wedi'i ddysgu, rhannu dulliau arloesol, a chydnabod y llwyddiannau. Ond yn bwysicaf oll, bydd yn gyfle i wrando a dysgu gan unigolion sydd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (13 Tach 2018)

Huw Irranca-Davies: Mae gan y grŵp cynghori gweinidogol gynrychiolaeth gan bob uwch arweinydd a sefydliad sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol o ran fy nghynghori ar, a chyd-gynhyrchu, y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant, ac rwy'n falch bod ein partneriaid yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn. Yn wir, roeddwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp cynghori gweinidogol, ac...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (13 Tach 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y ffordd rydym ni'n cydweithio i wella sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (13 Tach 2018)

Huw Irranca-Davies: Mae 'Symud Cymru Ymlaen', Dirprwy Lywydd, yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i archwilio ffyrdd o sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn mwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill, a diwygio’r ffordd y gofelir amdanynt os oes angen. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', hefyd yn disgrifio ein blaenoriaethau ynglŷn â chefnogi plant a theuluoedd sydd ar gyrion y...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Rhianon, ie, diolch yn fawr iawn. Ac, unwaith eto, diolch ichi am eich cefnogaeth i'r maes hwn ac am hyrwyddo mabwysiadu hefyd. Ac yn sicr mae'r de-ddwyrain yn bwrw ymlaen. Ceir enghreifftiau eraill, rhaid imi ddweud, mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ond mae'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn ardal y de-ddwyrain, yn enwedig gyda mynediad i seicoleg glinigol, wedi bod yn torri tir newydd, ac...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Dim ond i roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad, mae gennym ni ychydig o ddarnau ymgynghori sy'n fyw ar hyn o bryd ym maes deddfwriaeth fabwysiadu, ac maen nhw'n ymwneud â chyflymu'r broses mewn gwirionedd. Dyna'r cyntaf, sy'n cwmpasu rheoliadau newydd sy'n ofynnol, sy'n deilio o'r rheoliadau risg. Ac mae'r ail yn cynnwys cynnig i gyflwyno system dau gam ar gyfer asesu a chymeradwyo pobl sydd...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Michelle. Os gallaf ddechrau gyda'r pwynt cyntaf a wnaethoch chi, ar ôl ichi groesawu'r dathliad hwn yr wythnos hon a hyrwyddo mabwysiadu, fe wnaethoch chi sôn am yr her ynghylch beth yw'r canlyniadau yr ydym ni'n eu cael. Cyfeiriais at rai ohonyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, ond rwy'n hapus i egluro: lleolwyd mwy na 300 o blant y llynedd mewn cartref mabwysiadol...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Dai, diolch yn fawr iawn, ac ar y pwynt pwysig iawn hwnnw, credaf mai dyma pam, yn rhyfedd iawn, nad yw'r gwaith yn y sector mabwysiadu yn gwbl ar wahân i'r mater ehangach o ran plant sy'n derbyn gofal, a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn. Rwy'n credu, yn y gwaith eang iawn hwn, mai'r hyn sydd fwyaf pwysig ac y mae cefnogaeth statudol iddo, hefyd, yn seiliedig ar ein cred mewn hawliau...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch ichi, Janet, a diolch am eich anogaeth hefyd i deuluoedd a allai fod yn dymuno mynegi diddordeb. Rydym ni'n dymuno i fwy o deuluoedd fynegi diddordeb, a theuluoedd o bob lliw a llun, hefyd. Ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o deuluoedd yn mynegi diddordeb, oherwydd y bu gennym rhyw 300 o blant, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn rhan o'r broses fabwysiadu; rydym yn gwybod bod gennym ryw...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Mae bod yn rhiant yn ymrwymiad sylweddol ac yn gychwyn taith emosiynol sy'n dod â chymaint o fodlonrwydd. Ond fe wyddoch cystal â minnau nad yw bob amser yn syml bod yn rhiant ac y gall heriau godi, ac maen nhw'n codi. Ac, ar yr adegau hyn o her, efallai y bydd angen cymorth arnom ni sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd cartref cariadus a sefydlog—cartref sy'n galluogi ein...

10. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Wythnos Mabwysiadu (16 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser mawr gen i allu dathlu Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol gyda chi ac i gydnabod a thalu teyrnged i'r holl unigolion gofalgar sy'n fodlon bod yn rhieni sy'n mabwysiadu a hefyd i'r rhai sy'n eu cefnogi nhw ar eu taith.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Yn anffodus, mewn datganiad, ni allaf wneud hynny. Ond rwy'n credu y byddwch chi'n parhau i ddadlau'r achos dros ganolbwyntio ar ein cynefin, a byddaf innau'n parhau i ddadlau'r achos dros, 'Dylem weithredu o ewyllys da fel hyn yn ein cynefin a thramor hefyd.' Ond gadewch imi fynd ar drywydd rai o'r pwyntiau lle credaf y cawsom gytundeb gwirioneddol arnynt. Roeddech yn sôn am y...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: David, diolch yn fawr iawn, ac roeddwn gyda chi bob cam o'r ffordd—yr holl ffordd, yr holl ffordd—tan y paragraff terfynol yna. [Chwerthin.] A byddwn yn dweud yn syml mai'r gwahaniaeth rhyngom ni yw hyn: i mi, nid yw cyfiawnder cymdeithasol a chael pobl i fyw bywydau sy'n dda iddyn nhw, eu teuluoedd, eu hanwyliaid yn dechrau nac yn gorffen yn y cartref; mae hynny'n teithio'n rhyngwladol....

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch. Gan fod y gwahoddiad wedi dod ymhell o flaen llaw, nid wyf yn credu y bydd gennyf i unrhyw esgus dros beidio â mynd yno nawr. Jayne, diolch yn fawr iawn i chi am hyn, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n dangos bob gennym ni i gyd mewn gwirionedd ran i'w chwarae yn lleol yn y digwyddiadau a fynychwn ni a'r digwyddiadau a drefnwn ni yn y ffordd yr ydym mewn gwirionedd yn dathlu bywydau pobl...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Dai. Mae'n ddiddorol mai un o'r agweddau yr oeddech yn sôn amdano oedd y siarad am wasanaeth gofal cenedlaethol neu system ofal genedlaethol. Mae'n ymddangos mewn rhyw ffordd mai dyma'r ffasiwn ar hyn o bryd, siarad am sut yr ydym am ddatblygu dull o weithredu gofal sy'n adeiladu ar yr hyn a wnaethom 'nôl yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel ynghylch y gwasanaeth iechyd. Mae'n ddiddorol...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n ymddiheuro. Nid oeddwn yn disgwyl y byddwn i ar fy nhraed mor gyflym â hyn, ond rwy'n hapus i fod felly. Janet, a gaf i ddiolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad hwn, a chroesawu eich swydd fel hyrwyddwr eich plaid dros bobl hŷn? Rydych yn gywir i bwysleisio unwaith eto swyddogaeth pobl hŷn fel ased yn ein cymdeithas, yn eu gwaith gwirfoddoli, eu darpariaeth am eu gofal eu hunain,...

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Trwy ddathlu diwrnod pobl hŷn, mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn bositif yn eu hagwedd wrth wynebu mynd yn hŷn. Fy nod i yw gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, y comisiynydd pobl hŷn, ac yn bwysicaf oll, y bobl hŷn eu hunain, i wireddu'r nod hwn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Roedd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddoe, gan roi cyfle i gymunedau ar draws Cymru werthfawrogi a dathlu'r cyfraniad helaeth ac amrywiol y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas ac economi Cymru.

5. Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Dathlu Diwrnod Pobl Hŷn ( 2 Hyd 2018)

Huw Irranca-Davies: Gan fod y dathliad yn cyd-fynd eleni â dathlu 70 o flynyddoedd ers y datganiad cyffredinol o hawliau dynol, hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef i roi hawliau dynol wrth galon gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a gwneud Cymru'r wlad orau yn y byd i heneiddio ynddi. Ni ddylai henaint erydu hawliau...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau i Gefnogi Plant ag Arthritis yng Nghanol De Cymru (19 Med 2018)

Huw Irranca-Davies: Yn wir. Cytunaf yn llwyr. A gaf fi gymeradwyo gwaith y sefydliad newydd sydd wedi uno—rwy'n siŵr y bydd yn gwneud gwaith da iawn yn ymgyrchu a datblygu polisi—ond hefyd gwaith Dr Jeremy Camilleri, a fydd yn symud ymlaen ar ryw bwynt yn y dyfodol agos? Mae wedi gwneud ei fwriadau'n glir, ond mae'n werth dweud, oherwydd y rhybudd a gawsom ymlaen llaw, y bydd y bwrdd iechyd yn gweithio'n...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.