Llyr Gruffydd: Mae cynghorwyr wedi cysylltu â fi yn poeni, a dweud y gwir, fod y cynghorau ddim ond yn cael mis i baratoi bids ar gyfer y grant cyfalaf eleni, sy'n dod allan o danwariant y flwyddyn ddiwethaf, a bod y bids hynny’n gorfod bod ar y sail bod yna sicrwydd eu bod nhw’n gwario'r arian yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Nawr, rŷm ni wedi bod yn trafod prinder cyllid cyhoeddus, felly...
Llyr Gruffydd: Ond mae'r darlun o ran cyllido yn un dryslyd iawn, onid yw, pan edrychwch, er enghraifft, ar sut y mae'r Llywodraeth yn ariannu addysg. Mae peth arian yn mynd i gonsortia ac mae peth arian yn mynd i awdurdodau lleol—mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw, mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy grantiau, mae peth yn mynd yn syth i ysgolion, ac wrth...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod hi bellach yn argyfwng o ran ariannu ysgolion yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Wel, nid oeddwn yn disgwyl ichi beidio â chydnabod hynny, a dweud y gwir, ond mae'r rheng flaen yn dweud yn hollol glir bellach fod yna argyfwng a'n bod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw o argyfwng. Mae'n arwain at ddosbarthiadau mwy o faint, a gwn fod hynny'n rhywbeth nad ydych yn dymuno'i weld. Mae wedi arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, yn aml iawn, yn cael eu talu'n...
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf ar ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ52238
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad a diolch hefyd i'r Athro Renold a'r panel arbenigol am eu gwaith, a phob un a gyfrannodd i'r adroddiad a'i argymhellion? Rwy'n anghytuno â Darren Millar. Nid yw'n adroddiad boddhaol; mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'r union fath o adroddiad y dylai Ysgrifenyddion Cabinet ei ddisgwyl gan y mathau hyn o baneli arbenigol, gydag...
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma, ac ategaf y diolch i Ann Keane ac eraill sydd wedi dod â ni i'r fan hon ac, wrth gwrs, hoffem estyn ein dymuniadau gorau i'r rhai sydd bellach yn gyfrifol am symud y gwaith hwn yn ei flaen yn y cyfnod sydd ar ddod? Fel yr ydych chi'n dweud, nodwyd mai arweiniad fu yn un o'r agweddau gwannaf ar system addysg...
Llyr Gruffydd: Mi fydd nifer ohonom ni wedi ein brawychu, rydw i'n siŵr, gan yr ystadegau a gyhoeddwyd wythnos diwethaf fod dros 77,000 o ddyddiau gwaith wedi cael eu colli ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, oherwydd stres a lefelau o ofid ymhlith y staff. Nawr, nid yn unig y mae hynny, wrth gwrs, wedi costio bron £5.5 miliwn i'r bwrdd, ond mae'n cynrychioli cynnydd o 17 y cant mewn absenoldebau mewn dim...
Llyr Gruffydd: Mae'n ffordd warthus i gyflogwr cyfrifol ymddwyn mewn proses o'r fath.
Llyr Gruffydd: —meddai’r gweithwyr.
Llyr Gruffydd: Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw. Mae'r staff yn gofyn felly i chi ymchwilio i ddiffygion a'u datrys yn y prosesau a amlygwyd i chi. Nawr, mae Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol eich...
Llyr Gruffydd: Rydw i wedi codi gofidiau ynglŷn â phreifateiddio gwasanaethau dialysis gyda chi yn flaenorol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y posibilrwydd o staff yn symud o’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i’r sector breifat i weithio, rhywbeth maen nhw wedi bod yn gwbl glir nad ydyn nhw eisiau i ddigwydd. Nawr, mae yna gwestiynau mawr wedi cael eu codi gan y gweithwyr hyn ynglŷn â’r broses...
Llyr Gruffydd: 9. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod gan weithwyr lais cryf mewn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud ag ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52253
Llyr Gruffydd: Nid yn unig fod y Bil hwn yn debygol o roi plant o aelwydydd heb waith o dan anfantais anghymesur, mae hefyd yn annhebygol o gyflawni ei brif nod.
Llyr Gruffydd: Mae hi hefyd yn dweud:
Llyr Gruffydd: Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y buddsoddiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth nac wedi'i dargedu'n dda... Nid wyf yn credu bod y polisi sy’n sail i'r Bil hwn yn dangos y bydd y cynllun yn addas ar gyfer y tymor hir. Nawr, safbwynt y comisiynydd plant yw hwnnw. A wyddoch chi, gyda llaw, y bydd cyplau sy'n ennill hyd at £199,000 y flwyddyn yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant am...
Llyr Gruffydd: Wel, os ydych wedi ysgrifennu ac wedi siarad amdano am saith mlynedd, nid oes angen ichi ddweud wrthyf fi; dylech ddweud wrth eich Llywodraeth eich hun. Fe ddof at Dechrau'n Deg mewn munud, oherwydd rydych yn gwneud pwynt dilys, ond fe ddof at hynny mewn munud.
Llyr Gruffydd: Felly, rydw i wedi amlinellu pam rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymrwymo i ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn tair i bedair oed yng Nghymru, fel ffordd i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd yma rydw i wedi cyfeirio ato fe. Ac mae'r ddadl yma yn amserol, oherwydd dim ond y bore yma roeddem ni'n cychwyn ar graffu'r Bil cyllido gofal plant y mae'r Llywodraeth yma yn ei...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i am ganolbwyntio fy sylwadau i ar yr angen i sicrhau mynediad cyfartal i blant i addysg blynyddoedd cynnar. Mi gychwynnaf i drwy rannu ystadegyn gyda chi: mi fydd dros hanner y plant o ardaloedd difreintiedig Cymru yn cychwyn ysgol efo sgiliau cyfathrebu diffygiol. Yn wir, mi fydd plant o'r 20 y cant mwyaf tlawd o'r boblogaeth, erbyn eu bod nhw'n dair...
Llyr Gruffydd: Rydw i'n codi i gefnogi'r cynnig yma i gymeradwyo polisi urddas a pharch y Cynulliad. Mae e'n gyfraniad pwysig at roi fwy o eglurder i ni ar nifer o agweddau pwysig, hynny yw beth yw disgwyliadau'r Cynulliad Cenedlaethol yma o unrhyw un sy'n ymwneud â'r sefydliad, beth yw ymddygiad amhriodol, beth i'w wneud os ŷch chi am wneud cwyn ynglŷn ag achos a beth yw'r gweithdrefnau perthnasol, a...