Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl. Rydym wedi gweld llawer iawn o gonsensws dros y rhan fwyaf ohoni. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd naill ai yn ystod y ddadl, neu drwy negeseuon cyn y ddadl, wedi fy nghroesawu, ac a gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn am hynny? Gan ddechrau gyda Paul Davies—mae’n braf...
Mike Hedges: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n enghraifft o ddatganiad Harold Wilson, ‘mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth’. [Chwerthin.] Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â dyfodol rheoli tir yng Nghymru, er fy mod yn teimlo fel rhywun sy’n mynd i fyny i gael y cwpan heb fod wedi chwarae yn y...
Mike Hedges: Mae ansawdd yr aer ar Heol Castell-nedd yn yr Hafod yn Abertawe ymysg y gwaethaf yng Nghymru, o ganlyniad i’w phwysigrwydd fel y brif ffordd o’r gogledd-ddwyrain i mewn i ganol Abertawe, a’i thopograffi. Croesawaf ffordd ddosbarthu’r Morfa, a fydd yn lleihau llygredd aer ar Heol Castell-nedd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad ffordd osgoi yw’r ateb i’r holl broblemau a...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?
Mike Hedges: A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn llwyr gefnogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio? Oni bai ein bod yn cymryd camau priodol, credaf bod trychineb yn ein haros, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Ni allwn fforddio gadael i’r ddaear barhau i gynhesu. Y tri phrif danwydd sy'n seiliedig ar garbon yw glo, olew a nwy. Mae glo yn cynnwys carbon yn bennaf, ynghyd â...
Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector prifysgolion yng Nghymru i helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros. Bydd y sector prifysgolion yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu economi hynod fedrus, hynod addysgedig a hynod gynhyrchiol. Dylai datblygiadau gynnwys parciau gwyddoniaeth a ddatblygwyd gan y prifysgolion, fel Caergrawnt...
Mike Hedges: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch morlyn llanw Bae Abertawe?
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe?
Mike Hedges: Pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf fel treth dirlenwi, y rheswm oedd atal awdurdodau lleol rhag dympio yn unig, i'w gwneud yn aneconomaidd yn ymarferol iddynt i ddim ond dympio, ac mae'r gost ychwanegol yn golygu bod pobl yn dechrau ailgylchu, ac mae wedi cael effaith fawr ar ailgylchu. Felly, pan gafodd ei chyflwyno yn gyntaf dan Lywodraeth San Steffan, y nod oedd, bron yn gyfan gwbl, ceisio...
Mike Hedges: Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud o’r cychwyn fy mod yn llwyr gefnogi’r Bil hwn? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i mi, fel rhai o’r Aelodau eraill yma gan gynnwys yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, adael cyn y bleidlais mewn gwirionedd, ond a gaf fi gofnodi fy nghefnogaeth iddo? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu mai’r un peth amdano yw ei fod yn cynnig eglurder ac yn...
Mike Hedges: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ac eithrio amaethyddiaeth, gall y gostyngiad yng ngwerth y bunt ddileu’r broblem o dariffau ariannol. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod y rheolau a osodwyd, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn llawer mwy o broblem mewn gwirionedd na thariff o 5 y cant neu 10 y cant, y gallai dibrisio pellach ei unioni? Mae...
Mike Hedges: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran gorfodi rheolau Sefydliad Masnach y Byd, yn absenoldeb cytundeb masnach rhwng Llywodraeth y DU a'r UE? OAQ(5)0041(CG)
Mike Hedges: A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr iawn, fel y mae pawb arall wedi ei wneud? Yn sicr, mae’r fframwaith, rwy’n meddwl, yn ddefnyddiol iawn. A gaf i ddweud, rwy’n cytuno'n llwyr mai trethi yw'r pris mynediad y mae pob un ohonom yn gorfod ei dalu i fyw mewn cymdeithas wâr? Trethi sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Ni allwn fyw mewn...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Fel y mae pobl yn ymwybodol iawn yma, ac yn sicr yn Abertawe, Abertawe yn sicr yw prifddinas clymog. Nid yw'n deitl yr ydym ni’n arbennig o hoff ohono. Ond mae'n broblem enfawr yn fy etholaeth i a’r etholaeth gyfagos. Rwy'n falch iawn am lwyddiant y treial cychwynnol, ond ni fyddwn yn cyflawni fy nyletswydd fel Aelod dros Abertawe heb...
Mike Hedges: Rwy'n gefnogwr brwd a hirdymor o ardaloedd dim galw diwahoddiad, ac rwyf i wedi codi hyn sawl gwaith yn y Siambr hon gan fod llawer gormod ohonynt yn targedu'r rheini sy’n agored iawn i niwed, a cham-fanteisir ar lawer gormod o bobl agored iawn i niwed. Mae gen i rai ardaloedd dim galw diwahoddiad poblogaidd iawn yn Nwyrain Abertawe. Rwyf hefyd wedi sylwi ar gynnydd, ac rwy'n siŵr bod pawb...
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnydd Llywodraeth Cymru o psyllids i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0641(FM)
Mike Hedges: Diolch i chi, Llywydd. Nid oedd neb eisiau munud yn y ddadl hon, ac nid yw hynny’n syndod, oherwydd credaf fod gan y rhan fwyaf o bobl bethau eraill ar eu meddyliau. Mae’n debyg fod hwn yn ddiwrnod gwael i gael y ddadl hon: nid yn unig mae’n noson cyn etholiad cyffredinol, ond rydym eisoes wedi cael un ddadl ar dai heddiw. Ond rwy’n credu mai tai yw un o’r heriau mawr sy’n wynebu...
Mike Hedges: Hoffwn ganolbwyntio ar dai cydweithredol. Gydag oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf yn 37 a’r disgwyl y bydd yn codi i 40, mae’n hollol amlwg fod angen newid y system dai gyfredol. Mae blaendaliadau mawr, yr anhawster i sicrhau morgeisi fforddiadwy gan fenthycwyr, a phrinder cyffredinol o dai o ansawdd da ymhlith y prif resymau a briodolwyd i’r ffaith fod oedran cyfartalog prynwyr tro...
Mike Hedges: Tabernacl Treforys: mae adeilad capel Tabernacl yn adeilad arbennig iawn. Disgrifiodd George Thomas y Tabernacl fel eglwys gadeiriol yr anghydffurfwyr. Heblaw am fod yn gapel hardd, mae Tabernacl yn ganolfan grefyddol a diwylliannol yng nghwm Tawe isaf. Ond, yn anffodus, mae llai o bobl yn mynd i’r capel y dyddiau yma. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ddyfodol y Tabernacl. Rhaid cael...
Mike Hedges: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r newidiadau rydych yn eu cynnig yw cyd-fyrddau, sy’n debyg iawn, yn fy marn i, i’r rhai tân ac achub, ar hyn o bryd. A ydych yn cydnabod manteision cael cyd-fyrddau ac a ydych yn credu bod cryn fantais i’w chael o gynnwys cymaint o aelodau o’r awdurdod lleol â phosibl ar y cyd-fyrddau hyn er mwyn iddynt allu adrodd yn ôl, nid yn unig i’w cyngor eu...