Lee Waters: A wnewch chi ildio?
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Gyda’r parch mwyaf, rydym wedi clywed yr araith hon sawl gwaith o’r blaen. Yn y sesiynau briffio amser cinio yn y Cynulliad, dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid mai’r consensws bellach ymhlith economegwyr yw bod economi Prydain yn mynd i grebachu o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, er ein bod yn clywed mwyfwy o sylwadau gwybodus am yr effeithiau...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynhyrchiant fferm gynyddu cymaint â 30 y cant drwy ddefnyddio data mawr a dadansoddeg. Mae meddylwyr blaenllaw ym maes arloesedd yn dweud mai amaethyddiaeth fanwl yw’r datblygiad pwysicaf yn y byd ffermio modern, gan annog defnydd effeithlon o adnoddau prin a lleihau’r defnydd o gemegau niweidiol. Byddwn yn annog y...
Lee Waters: Weinidog, ar ôl treulio llawer o oriau hapus yn cerdded 10 milltir y dydd drwy strydoedd Llanelli yn ystod yr ymgyrch etholiadol, bûm yn dyst uniongyrchol i’r broblem sbwriel sydd gennym yn y dref. Rwyf ar hyn o bryd yn trafod sefydlu tasglu sbwriel ar sail drawsbleidiol ar gyfer y dref gyda’r awdurdod lleol. Un o’r materion sy’n codi dro ar ôl tro gan breswylwyr ar Facebook yw...
Lee Waters: 6. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag amaethyddiaeth fanwl? OAQ(5)0030(ERA)
Lee Waters: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Ceir pryder dealladwy yng Nghydweli, Brif Weinidog, am yr anhawster o ran recriwtio a chadw meddygon teulu ym meddygfa Minafon, ac mae cynghorwyr Llafur lleol wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r bwrdd iechyd i geisio hysbysu’r gymuned. Er tegwch i Hywel Dda, maen nhw wedi bod yn gwneud eu gorau i geisio recriwtio tîm clinigol i'r feddygfa ac i ddod â staff...
Lee Waters: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran recriwtio rhagor o Feddygon Teulu? OAQ(5)0120(FM)
Lee Waters: Diolch, Lywydd. A gaf fi roi teyrnged i Bethan Jenkins am y diddordeb y mae wedi ei ddangos yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf? Rwy’n falch iawn fod y Cynulliad hwn yn awr wedi sefydlu pwyllgor gyda chyfathrebu yn benodol yn ei gylch gwaith, ac rwy’n falch iawn o fod yn aelod ohono, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi. Fel y noda’r cynnig, yn y 10 mlynedd diwethaf torrwyd...
Lee Waters: Weinidog, rwy’n rhannu'r amheuon ynghylch buddiannau tymor canolig Tata. Maen nhw wedi bod yn chwarae gêm o hoci coci â ni. Maen nhw wedi bod i mewn ac maen nhw allan, ac maen nhw i mewn eto. O gofio bod Gerry Holtham wedi amcangyfrif bod cyfraniad Port Talbot i economi Cymru yn gyfwerth â 6 y cant o werth ychwanegol crynswth, mae'n bwysig bod Tata yn deall nad yw hwn yn ddewis rhydd...
Lee Waters: Yr un fath yn Sir Gaerfyrddin.
Lee Waters: Gwnaf.
Lee Waters: Rwy’n adlewyrchu safbwyntiau busnesau, dyna’i gyd, ac mae ef yn rhoi safbwynt dethol iawn o’r darlun economaidd i gyfiawnhau’r uffern a ryddhawyd ar y marchnadoedd. Byddwn yn dadlau bod polisi economaidd sy’n seiliedig yn unig ar y gyfradd gyfnewid rad yn un annoeth iawn. Ychydig wythnosau yn ôl, fel y dywedodd David Rees, yr Aelod dros Aberafan, eisoes, cyfarfu ef a minnau â...
Lee Waters: Rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais y cynnig yn gyntaf sy’n dweud bod gwell gobaith i Tata Steel ym Mhort Talbot oroesi yn sgil gadael yr UE, roeddwn yn meddwl mai jôc sâl oedd hi. Nid wyf am warafun i’r rheini a ymgyrchodd i adael yr UE eu heiliad i fwynhau eu buddugoliaeth, ond byddwn yn gofyn iddynt beidio â bod yn anystyriol. Mae gennyf etholwyr sy’n gweithio ym Mhort Talbot, a...
Lee Waters: Rwyf wedi bod yn siarad â phenaethiaid yn ddiweddar sy’n pryderu ynglŷn â’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn. Maent hefyd yn pryderu bod ysgolion sydd â gormod o geisiadau eisoes ar eu cyfer—drwy leihau’r nifer safonol, gallai arwain at allu derbyn llai o ddisgyblion nag ar hyn o bryd hyd yn oed. Maent hefyd yn pryderu ynglŷn â gallu adeiladau’r ysgol i ymdopi â’r...
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Rwy'n ceisio bod o gymorth, i efallai eich arbed rhag eich hunan. Cefais fy nharo gan fy nhudalen Facebook fy hun, nad yw o fewn swigen ddiwylliannol, a gofynnais y cwestiwn ynglŷn â barn pobl ar hyn. Roedd amheuaeth, fel y dywedwch, o ran ein bod yn trafod hyn ar hyn o bryd, ond y consensws oedd defnyddio'r term dwyieithog 'Senedd' gan ei fod yn gynhwysol ac eisoes yn cael ei ddefnyddio....
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i’r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd.
Lee Waters: Fel rhiant, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi fy mod yn siarad ar eu rhan, ac mae’n ofid i mi—a nifer ohonoch chi, rwy’n siŵr—yn aml nad oes gan blant sydd eisoes wedi cael dechrau anodd mewn bywyd rywun sydd â chariad ac angerdd rhiant i ymladd drostynt. Mae’r niwed a wnaed i gyfleoedd bywyd y plant hyn yn staen ar bob un ohonom, ac mae’r cyfrifoldeb i wneud yn well yn...
Lee Waters: A fyddech chi’n ildio?