Canlyniadau 1081–1100 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

12. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (17 Tach 2020)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Mick Antoniw am ei gyfraniad ar ran y pwyllgor. Rwy'n ategu'r pwyntiau y mae ef yn eu gwneud ynghylch cymhlethdod cynyddol cyfraith Cymru o ganlyniad i rai o'r gwelliannau hyn, y mae angen eu cyflwyno dim ond er mwyn gwneud i'r llyfr statud weithredu'n effeithiol. A gwn i fod y pwyllgor yn deall bod gwneud y gwelliannau mewn un set o reoliadau yn cyfrannu o...

12. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (17 Tach 2020)

Jeremy Miles: Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Maen nhw'n diwygio Deddf Dehongli 1978 a Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, o ran dehongli cyfeiriadau at y gyfraith cytundebau gwahanu perthnasol. Corff newydd o gyfreithiau yw hwn, wedi'i ddiffinio gan adran 7(c) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'n cynnwys...

12. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 (17 Tach 2020)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol, ac am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 12...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Wel, rydym ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai ymateb Llywodraeth y DU gael ei liwio gan ystyriaethau gwleidyddol—50 diwrnod cyn diwedd y cyfnod pontio—ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i gydweithio â Llywodraeth y DU i baratoi Cymru gystal ag y gallwn ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond nid wyf am esgus am eiliad fod gennym farn wahanol iawn ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Mae prif bynciau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r DU) yn cynnwys negodiadau, parodrwydd, fframweithiau a'r farchnad fewnol—mae pob un ohonynt yn feysydd sy'n effeithio'n fawr ar bobl Cymru. Yn anffodus, mae ymrwymiad annigonol Llywodraeth y DU i gydweithio yn y meysydd hyn wedi tanseilio cyfraniad y Llywodraethau datganoledig ym mhob agwedd ar baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Wel, mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi siomi Dai Lloyd ar hynny. Rydym yn aros am eglurder ynglŷn â'r ymrwymiadau sylfaenol hyn mewn perthynas â chronfeydd olynol yr UE, a gallaf glywed y rhwystredigaeth yn ei lais, a gallaf ei sicrhau fy mod yn ei rhannu'n llwyr. Mae'n gywir i ddweud mai ym maes prentisiaethau ac addysg bellach y cafwyd un o'r llwyddiannau arwyddocaol yn ein defnydd o...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud bod y Bil marchnad fewnol yn amlwg yn ymgais i roi pwerau i Lywodraeth y DU allu darparu rhannau o'r gronfa ffyniant gyffredin, na fyddai'n gallu ei wneud fel arall. Caiff ei phwerau cymorth ariannol eu disgrifio fel pethau sydd yno i weithio gyda ni, ond mae'n amlwg eu bod yno i weithio o'n hamgylch, ac felly rhannaf...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Rwy'n deall, Llywydd, eich bod chi wedi cytuno i gyfuno hwn â chwestiwn 8. 

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhannu unrhyw fanylion eto am ei chronfa ffyniant gyffredin ag unrhyw un o'r Llywodraethau datganoledig, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu. Disgwyliwn i rai manylion gael eu cyhoeddi yn ystod yr adolygiad o wariant, sydd i'w gynnal, fel y bydd yn gwybod, fis cyn i'n cyllid UE ddechrau dod i ben.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Wel, nid yw gwaith y grŵp cynghori ar bolisi masnach ond yn un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach heddiw mewn perthynas â'r strategaeth ryngwladol yn fwy cyffredinol. Ac fel bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n credu, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i gefnogi allforwyr Cymru i lywio'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Gwnaf. Mae'r grŵp cynghori ar bolisi masnach yn rhoi cyngor strategol arbenigol i Lywodraeth Cymru ar faterion masnach rhyngwladol ac yn helpu i lunio ein safbwyntiau mewn perthynas â chytundebau masnach rydd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cytundeb Masnach â'r UE (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud pa mor falch yr oeddwn o weld bod Joe Biden wedi'i ethol yn arlywydd gyda chanlyniad mor ysgubol. Mae'n fuddugoliaeth i ryngwladoliaeth, egwyddor a rheswm. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y drafodaeth hon yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n llygad ei lle i ddweud bod y rhagolygon ar gyfer cytundeb gyda'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cytundeb Masnach â'r UE (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Mae cytundeb yn dal i fod yn bosibl, ond mae angen i'r ddwy ochr ddangos symudiad a hyblygrwydd gwleidyddol nawr. Ond hyd yn oed gyda chytundeb, bydd niwed hirdymor i'r economi ac yn sicr ni allwn fforddio'r anhrefn a fyddai'n deillio o adael y cyfnod pontio heb gytundeb yng nghanol pandemig iechyd byd-eang.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Ffermwyr Cymru (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Rwy'n cytuno â phryder David Melding a'i ddadansoddiad. Cig oen Cymru yw un o'n hallforion mawr ac mae'n cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd oherwydd bod marchnad dda ar ei gyfer yno. Mae'n farchnad agos ac mae ar raddfa sylweddol, felly mae diogelu'r cynnyrch allforio hwnnw'n gwbl hanfodol. Rydym wedi bod yn argymell y math hwnnw o safbwynt—a gwn ei fod yn gwybod hyn—ers amser maith...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Ffermwyr Cymru (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Rydym yn parhau i ddarparu arweiniad a chymorth ariannol i ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio, drwy'r grant cynhyrchu cynaliadwy a'r grant busnes i ffermydd. Rydym hefyd yn ymgysylltu â DEFRA a'r Llywodraethau datganoledig eraill ar gynlluniau i gefnogi'r sector defaid os na cheir cytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cytundebau Masnach (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n rhannu ei bryder. Mae cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio a gyhoeddwyd gennym y bore yma yn nodi'r risgiau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiynau i'r sector cig coch pe baem yn dod â'r cyfnod pontio i ben heb y math o gytundeb masnach y mae'n sôn amdano. Dyna pam ei bod mor bwysig sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno, a phe baem yn mynd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cytundebau Masnach (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig gan yr Aelod. Y rheswm pam fod y lefelau masnach mor isel yw oherwydd y patrwm masnachu o ran ein hallforion cig coch gyda'r Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu bod 90 y cant o'n hallforion cig oen yn cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, ac mae hynny o ganlyniad i ffermwyr yng Nghymru yn gwneud penderfyniad cwbl resymegol i allforio i un o'r marchnadoedd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cytundebau Masnach (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Rydym wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundebau masnach rydd yn y dyfodol danseilio ein sector amaethyddol. Mae'n rhaid sicrhau nad yw ein ffermwyr yn gweld eu prisiau'n cael eu tandorri yn sgil cystadleuaeth annheg ar fewnforion nad ydynt yn cyrraedd ein safonau diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid neu'r amgylchedd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud, ac mae'r risg o arallgyfeirio masnach yn un lle mae lot o gonsyrn gyda ni fel Llywodraeth. Mae dau gwestiwn mawr ar hyn o bryd rŷn ni'n dal yn aros am eglurder ynglŷn â nhw, sy'n deillio'n rhannol o'r gweithgaredd ynglŷn â'r protocol yng Ngogledd Iwerddon. Hynny yw, y cwestiwn cyntaf yw nwyddau o Ogledd Iwerddon—maen nhw'n cael mynd i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Tach 2020)

Jeremy Miles: Mae'r newidiadau sy'n digwydd yn y porthladdoedd yn dod yn sgil penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i chwilio am y math o gytundeb sy'n mynd i greu rhwystredigaethau i allforion a mewnforion yn ein porthladdoedd ni. Rŷn ni wedi bod yn galw ar y Llywodraeth yn San Steffan i'n cynnwys ni yn y trafodaethau maen nhw wedi bod yn cael ers dechrau'r flwyddyn. Dim ond yn ddiweddar iawn mae...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.